Esay 26 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVI.Cân o ddiolch am ryddhâd y bobl.

1Y dydd hwnnw y cênir y gân hon yn nhîr Iuda, Dinas gadarn i ni, efe a esyd iechydwriaeth yn gaerau ac yn rhacfur.

2Agôrwch y pyrth, fel y delo i mewn genhedlaeth gyfiawn, yr hon a geidw wirionedd.

3A meddwl dianwadal y cedwi dangnheddyf heddychol, am ymddyried ynot.

4Ymddyriedwch yn yr Arglwydd byth: o herwydd yn yr Arglwydd Dduw cadernid dragywydd.

5Canys efe a ostwng bresswyl-wŷr yr vchelder, tref vchel a ostwng efe: efe ai darostwng hi i’r llawr, ac ai bwrw hi i’r llwch.

6Troed ai sathr hi, traed y trueiniaid, a chamrau y tlodion.

7Iniondeb llwybr y cyfiawn, yn iniawn y cyfarwyddi ffordd y cyfiawn.

8[Ar] lwybr dy farnedigaethau hefyd i’th ddisgwiliasom Arglwydd, dymuniad henaid am dy enw, ac am dy goffadwriaeth.

9A’m henaid i’th ddymunais liw nôs, a’m hyspryd hefyd o’m mewn i’th foreu-geisiaf: canys presswyl-wŷr y byd a ddyscâsant gyfiawnder, tra dy farnedigaethau ar y ddaiar.

10[Er] trugarhaû wrth yr anuwiol, ni ddyscodd gyfiawnder, yn nhir iniondeb y gwyra efe, ac ni wêl vchelder yr Arglwydd.

11Ni welant Arglwydd pan dderchafer dy law, cânt weled, a chywylyddiant eiddigedd bobl: a thân dy elynnion ai hyssa hwynt.

12Arglwydd ti a drefni i ni heddwch, canys gwnaethost i ni hefyd ein holl weithredoedd.

13O Arglwydd ein Duw, meistred eraill heb dy law di a’n perchennogasant ni, yn vnic trwot ti y coffawn dy enw.

14Y meirw ni byddant fyw, y meirw ni chyfodant, am hynny gofwyaist, a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bôb coffa am danynt.

15Chwanegaist ar y genedl ô Arglwydd chwanegaist ar y genedl, ti a ymogoneddaist: helaethaist, holl gyrrau y tîr.

16Mewn adfyd Arglwydd yr ymwelsant â thi, tywalltasant weddi, pan dy gospedigaeth arnynt.

17Fel y gofidia, y gwaedda feichiog dan ei gwewyr fyddo agos i escor: felly’r oeddem o’th flaen di Arglwydd.

18Beichiogasom, gofidiasom, fel pe escorem wynt: ni wnaed iechydwriaeth ddaiar, phresswyl-wŷr y byd ni syrthiasant.

19Dy feirw a fyddant byw, fyng-horph i yr adgyfodant, deffroiwch, a chênwch presswylwŷr y llwch: canys dy wlith gwlith llysiau, a’r ddaiar a fwrw y meirw.

20Tyret fy mhobl, dos i’th stafelloedd, a chaea dy ddrws arnat: llecha megis ennyd awr hyd onid elo y llid heibio.

21Canys wele’r Arglwydd yn dyfod allan oi fangre i ofwyo anwiredd presswyl-wŷr y ddaiar yn eu herbyn: Yna y dadcuddia y ddaiar ei gwaed, ac ni chuddia hi mwyach ei lladdedigion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help