1Yna efe a’m hatebodd gan ddywedyd, mesura ’r amser yn ddyfal ynddo ei hun: a phan welech y naill rann i’r arwyddion ar a ddangosais i ti o’r blaen wedi dyfod,
2Yna i cei ddeall, mai ’r gwir amser yw yn yr hwn y dechreu y Goruchaf ymweled a’r hwn a wnaeth efe.
3A phan weler daiar-grŷn a chynnwrf ym mhlith pobl y byd,
4Yna y cei yn ddiau ddeall, ddarfod i’r Goruchaf ddywedyd am y pethau hynny ar yr amser a fu o’th flaen di, o’r dechreuad.
5Canys fel y mae i bôb peth a’r y sydd yn y bŷd ddechreu a diwedd, a’r diwedd sydd eglur,
6Felly y mae hefyd i amseroedd y Goruchaf ddechreuad mewn rhyfeddodau a nerth, ac a ddiweddāt mewn gweithredoedd ac arwyddiō.
7A phob vn a’r a gadwer, ac a allo ddiangc wrth ei weithredoedd, a ffydd, drwy ’r honn y credasoch,
8A achubir oddi wrth y peryglon hynny, ac a gaiff weled fy iechydwriaeth yn fy nhîr mau fi, ac yn fy mrooedd: canys sanc teiddiais fy hun oddi wrth y byd.
9Yna y cŵynir i’r rhai a gam-arferasant fy ffyrdd mau fi: a’r sawl ai taflodd hwynt allan yn ddiystyr a drigant mewn poenau.
10Canys y rhai a dderbyniasant dyrnau da yn eu bywyd, ac ni’s adnabuant fi.
11A’r sawl a gassaodd fyng-hyfraith tra ydoedd iddynt rydd-did, a phan oedd iddynt amser i wellhau ac i droi, ni’s deallasant, ond ei diystyru hi,
12Rhaid i’r rhai hynny ŵybod, a pa beth yw fyng-hyfraith i yn ôl marwolaeth, mewn poenau.
13Am hynny na ofala di pa fodd y cosbir yr anuwiol: ond ymofyn pa fodd y cedwir y cyfiawn a phwy bie ’r byd, ac er mwyn pwy, a pha bryd.
14Yna yr atebais, gan ddywedyd,
15Dywedais o’r blaen, a dywedaf etto, ac ai dywedaf hefyd rhag-llaw: fôd mwy o’r rhai colledig nag o’r rhai cadwedig:
16Fel y mae ’r llifddwfr yn fwy na defnyn.
17Ac efe a’m hatebodd gan ddywedyd, fel y mae ’r maes, felly y mae ’r hâd: fel y mae ’r llyssiau, felly y mae eu lliw hefyd: fel y mae ’r gweithiwr, felly y bydd y gwaith: ac fel y byddo ’r llafur-wr, felly y bydd ei lafur hefyd: canys yr amser oedd felly.
18A phan arlwyais i’r rhai sydd yn awr, cyn gwneuthuriad y byd, yn yr hwn y caent aros, nid oedd neb y pryd hynny yn dywedyd yn fy erbyn i.
19Canys y pryd hynny, pawb (oedd yn vfydd,) arfer y rhai a wnaethbwyd yn y byd a lygrwyd wrth hâd tragywyddawl, ac wrth gyfraith o’r hon ni’s gallant ymadel.
20Felly ystyriais y bŷd, ac wele yr ydoedd perigl, o herwydd y dychymygion a ddaethent iddo ef.
21A gwelais, ac arbedais hwynt yn ddirfawr, a chedwais i mi vn o ffrwyth y winwydden, a phlanhigin o genedl fawr.
22Darfydded am y gynnullheidfa a dyfodd yn ofer, a chadwer fyng-râwn a’m planhigin: canys drwy boen fawr y gwneuthum i hwynt.
23Er hynny os gorphywyst saith niwrnod etto, ond ni chei di ymprydio ynddynt,
24Dôs gan hynny ymmaith i faes o lyssiau heb dŷ arno, a bwytta yn vnic o lyssieu ’r maes, na phrawf gig, nac ŷf wîn, ond bwytta lyssiau yn vnic,
25A gweddia ar y Goruchaf yn wastadol, ac yna mi a ddeuaf i ymddiddan â thi.
26Felly mi a aethym ymmaith i’r maes a elwir Ardath, fel y gorchymynnodd efe i’m, ac yno i’r eisteddais ym mysc y llyssiau, a bwytteis lyssieu ’r maes, a’r bwyd hwnnw a’m digonodd.
27Ym mhenn y saith mwrnod eisteddais ar y glas-wellt, a’m calon oedd yn flîn o’m mewn fel o’r blaen.
28Ac agorwyd fyng-enau, a dechreuais ymddiddan a’r Goruchaf gan ddywedyd,
29 Exod.19.9|EXO 19:9 & 24.3.|EXO 24:3. Deut.4.12. O Arglwydd ymddangosaist i ni, a gwnaethost i’n tadau dy adnabod yn yr anialwch, mewn lle anghyfannedd, llwm, pan ddaethant allan o’r Aipht.
30A lleferaist, gan ddywedyd, clyw fi ô Israel, ac ystyria di fyng-eiriau ô hâd Iacob.
31Canys mi a heuaf fyng-hyfraith ynoch, a hi a ddwg ffrwyth ynoch, ac anrhydeddir chwi er ei mwyn yn dragywyddawl.
32Ond ein tadau y rhai a dderbyniasant dy gyfraith ni’s cadwasant hi, ac ni chanlynasant dy ordeiniadau, a ffrwyth dy gyfraith nid ymddangosodd, ac ni’s galle, canys eiddo ti oedd.
33Canys y neb ai derbyniodd a gollwyd, Deut.32.28.am na’s cadwent y pethau a hauesid ynddynt.
34Ac wele arfer yw, pan dderbynio ’r ddaiar hâd, ne ’r môr y llong, ne lestr fwyd a diod: pan fetho ’r ddaiar lle yr hauwyd, ne pan dorro y llong ne ’r llestr lle y rhoesid y peth:
35Y pethau hefyd a roddwyd ynddynt a gollwyd: a’r pethau a dderbyniwyd nid arhosant gyd â ni: ond nid felly y bydd ynom ni.
36Canys ni y rhai a dderbyniasom y gyfraith a gollir mewn pechod, ac felly y gwna ein calon a dderbyniodd y gyfraith:
37Canys ni dderfydd am y gyfraith, ond aros a wna yn ei grym.
38A phan ddywedais y pethau hyn yn fynghalon, edrychais o’m hamgylch, ac ar fy llaw ddehau y gwelwn wraig yn galaru yn drist, yn gwneuthur cwynfan mawr, yn gweiddi yn vchel, ac yn drom ei chalon, ai dillad wedi rhwygo, a lludw oedd cenddi ar ei phenn.
39Yna y bwriais y meddyliau oedd gennif o’r blaen heibio, a throais atti hi,
40A dywedais wrthi hi, pa ham yr ydwyt yn ŵylo: a phaham yr ydwyt môr drist dy galon?
41A hi a ddywedodd wrthif, arglwydd, gâd fi yn llonydd, fel y gallwyf alaru drosof fy hun, a chwanegu fyng-alar, canys wyf drist iawn fyng-halon, ac wedi dwyn yn isel heb rôl.
42A dywedais wrthi hi, beth a ddarfu i ti: dywet i mi.
43Hithe a ddywedodd wrthif, myfi dy wasanaeth-wraig a fum hesb, ac heb planta, er bod i mi ŵr ddeng-mhlynedd ar hugain.
44A’r deng-mhlynedd ar hugain hyn, yr ydwyf yn gweddio nôs a dydd a phob awr ar y Goruchaf.
45Ar ben y deng-mhlynedd ar hugain, Duw a’m gwrandawodd fi dy wasanaethwraig, edrychodd ar fy nrhueni, ystyriodd fy mlinder, a rhoddes i mi fâb: a mi a fum lawen am dano ef, ac felly yr oedd fyng-ŵr hefyd, a’m holl gymmydogion, a rhoesom anrhydedd mawr i’r Goruchaf.
46A megais ef drwy boen fawr.
47Felly pan dyfodd efe, a dyfod i oedran gwreicca, mi a wneuthym wledd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.