Exodus 40 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XL.Codiad y tabernacl. 34 Niwl yn descyn ar y babell i arwyddocau presennoldeb Duw.

1Yna yr Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.

2Yn y mîs cyntaf, ar cyntaf o’r mîs y cyfodi y tabernacl pabell y cyfarfod.

3A gosot yno Arch y destiolaeth: a gorchguddia yr Arch a’r wahan-lenn.

4Dŵg i mewn hefyd y bwrdd a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyll-bren a goleua ei lusernau ef.

5Gosot hefyd allor aur yr arogl-darth ger bron Arch y destiolaeth: a gosot gaead-len drws y tabernacl.

6 Exod.26.35. Dod hefyd allor y poeth offrwm ar gyfer drws tabernacl, pabell y cyfarfod.

7Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr.

8A gosot hefyd y cynteddfa oddi amgylch, a dod gaead-lenn borth y cynteddfa.

9A chymmer olew yr enneiniad, ac enneinia y tabernacl, a’r hynn oll ynddo, a chyssegra ef ai holl lestri: fel y byddo cyssegredic.

10Enneinia hefyd allor y poeth offrwm, a chyssegra yr allor ai holl lestri: a’r allor fydd sancteidd-beth cyssegredic.

11Enneinia y noe ai throed, a sancteiddia hi.

12A phâr i Aaron ac iw feibion ddyfod i ddrws pabell y cyfarfod: a golch hwynt a dwfr.

13A gwisc am Aaron y gwiscoedd sanctaidd: ac enneinia ef, a sancteiddia ef i offeiriadu i mi.

14Dŵg hefyd ei feibion ef, a gwisc hwynt a pheisiau.

15Ac enneinia hwynt megis yr enneiniaist eu tad hwynt i offeiriadu i mi: fel y byddo eu henneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragywyddol drwy eu hoesoedd.

16Felly Moses a wnaeth yn ol yr hynn oll a orchymynnodd yr Arglwydd iddo: felly y gwnaeth efe.

17Felly Num.7.1.yn y mîs cyntaf o’r ail flwyddyn, ar cyntaf o’r mis y codwyd y tabernacl.

18Canys Moses a gododd y tabernacl, ac a roddodd ei forteisiau, ac a osododd ei styllod ac a roddes ei farrau: ac a gododd ei golofnau.

19Ac a ledodd y babell-lenn a’r y tabernacl ac a osododd dô y babell-lenn arni oddi arnodd fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

20Cymmerodd hefyd a rhoddodd y destiolaeth yn yr Arch, a gosododd y trosolion wrth yr Arch: ac a roddodd y drugareddfa i fynu ar yr Arch.

21Ac efe a ddûg yr Arch i’r tabernacl, ac a Exod.35.12.osododd y wahan-len orchudd, i orchguddio Arch y destiolaeth: megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

22Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod ar ystlys y tabernacl, o du y gogledd: o’r tu allan i’r wahan-lenn.

23Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara ger bron yr Arglwydd: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

24Ac efe a osododd y canhwyll-bren o fewn pabell y cyfarfod ar gyfer y bwrdd ar ystlys y tabernacl, o du yr dehau.

25Ac efe a oleuodd y lusernau ger bron yr Arglwydd: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

26Efe hefyd a osododd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod: o flaen y wahan-lenn.

27Ac a arogl-darthodd arni arogl-darth llyseuoc megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

28Ac efe a osododd y gaead-lenn ddrws y tabernacl.

29Ac efe a osododd allor y poeth offrwm ddrws y tabernacl pabell y cyfarfod: ac a offrymmodd arni boeth offrwm a bwyd offrwm, fel y gorchymynnase yr Arglwydd.

30Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

31A Moses ac Aaron ai feibion a olchasant yno eu dwylo, ai traed.

32Pan ddelent i babell y cyfarfod a phan nessaent at yr allor yr ymolchent: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

33Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl, a’r allor, ac a roddodd gaead-lenn borth y cynteddfa: felly y gorphennodd Moses y gwaith.

34Yna y niwl a orchguddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lawnodd y tabernacl.

35Ac ni alle Moses fyned i babell y cyfarfod, am i’r niwl aros arni: ac i gogoniant yr Arglwydd lenwi y tabernacl.

36A phan gyfode y niwl oddi ar y tabernacl, y cychwynne meibion Israel iw holl deithiau.

37Ac oni chyfode y niwl: yna ni chychwynne meibion Israel hyd y dydd y cyfode.

38Canys niwl yr Arglwydd ar y tabernacl, y dydd, a thân ydoedd yno y nos: yng-olwg holl dŷ Israel yn eu holl deithiau hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help