Esay 42 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLII.Swydd Crist. 10 Dylêd y ffyddloniaid, 18 Cerydd y rhai diog aniolchgar.

1Wele fyng-wâs arno ef y pwyssaf, bodlon yw fy enaid i’m dewisedic, rhoddaf fy Yspryd arno: efe a draetha farn i’r cenhedloedd.

2Ni waedda, ac ni ymdderchafa, ni phar glywed ei lef oddi allan.

3Ni ddryllia gorsen wedi ei hyssigo, ac ni ddiffudd efe lîn yn mygu: mewn gwirionedd y traetha efe farn.

4Ni thristâ efe, ac ni phrydera hyd oni osodo farn yn y tir, yr ynysoedd hefyd a ddisgwiliant am ei gyfraith ef.

5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw creawdudd y nefoedd ai hestynnudd, lledudd y ddaiar ai chnwd, rhoddudd enaid i’r bobl arni, ac yspryd i’r rhai a rodiant ynddi.

6Myfi’r Arglwydd a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymafelaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfammod pobl, yn oleuni cenhedloedd:

7I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o’r carchar a’r rhai a eisteddant tywyllwch o’r carchar-dŷ.

8Myfi yr Arglwydd, dymma fy enw, a’m gogoniant ni roddaf i arall: na’m mawl i ddelw gerfiedic.

9Wele y pethau cyntaf a ddaethant, a mynegu’r ydwyfi bethau newydd, traethaf i chwi cyn eu blaen-darddu.

10Cenwch i’r Arglwydd gân newydd ei fawl ef o eithaf y tîr: y rhai a ddescynnant i’r môr, ac sydd ynddo, yr ynysoedd ai trigolion.

11Y diffaethwch ai ddinasoedd derchafant maes-drefi y rhai a bresswylia Cedar: caned presswyl-wŷr y graig ganant, o ben y mynyddoedd y llefant.

12Gosodant ogoniant i’r Arglwydd, ai fawl a fynegant yn yr ynysoedd.

13Yr Arglwydd a ddaw allan fel cawr, ac fel rhyfel-wr yr ymwrola: efe a rua, ac a waedda, a fydd trech nai elynnion.

14Tewais er ystalm, distewais, ymatteliais, llefaf fel gwraig yn escor, difwynaf, a difethaf ar vn-waith.

15Mi a osodaf y mynyddoedd a’r brynnau yn ddiffaethwch, ai holl wellt a wywaf, ac gosodaf hefyd yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf.

16Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adwaenant, a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau ni wypont, gosodaf dywyllwch yn oleuni oi blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn iniawn: dymma y pethau a wnaf iddynt, ac ni’s gadawaf hwynt.

17Troed yn eu hôl llwyr wradwyddwyd y rhai a ymddyriedant mewn delw gerfiedic, y rhai a ddywedant wrth ddelw dawdd, chwi ein duwiau ni.

18O fyddariaid, gwrandewch, a’r deillion edrychwch i weled.

19Pwy ddall onid fyng-wâs i? ac morr fyddar a’m cennad yr a anfonaf, pwy morr ddall a’r llwyddiannus? îe morr ddall a gwâs yr Arglwydd?

20[Er] gweled llawer, etto nid ystyri; agoryd ei glustiau etto ni wrendu.

21Yr Arglwydd sydd yn fodlon er mwyn ei gyfiawnder i fawrhau, ac i anrhydeddu y gyfraith.

22Etto’r bobl hyn a yspeiliwyd, ac a anrheithiwyd, gan eu maglu hwynt oll mewn tyllau, mewn carchar-dai hefyd y cuddiwyd hwynt, oeddynt yn yspail, ac heb waredudd, yn anrhaith, ac heb a ddywede gollwng adref

23Pwy o honoch a wrendu hyn, a ystyr, ac a glyw rhac-llaw?

24Pwy a roddes Iacob yn anrhaith, ac Israel i’r yspeil-wŷr? onid yr Arglwydd yr hwn y pechasom iw erbyn, ac ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac ni wrandawent ar ei gyfraith?

25Am hynny y tywalltodd efe arno lidiawgrwydd ei ddigter, a chryfder rhyfel ai ffaglodd efe oddi amgylch, ond ni chydnabu efe, lloscodd ef hefyd ond nid ystyriodd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help