1Ac Ier.39.1. Ier.52.4.yn y nawfed flwyddyn oi deyrnasiad ef, yn y decfed mîs, ar y decfed o’r mîs y daeth Nabuchodonosor brenin Babilon efe ai holl lû yn erbyn Ierusalem, ac a werssyllodd yn ei herbyn hi: a hwy a adailadasant yn ei herbyn hi wrthglawdd oi hamgylch hi.
2Felly y daeth y ddinas yng-warche hyd yr vnfed flwyddyn ar ddêc i’r brenin Sedecia.
3Ac yn y nawfed Ier.52.6.[dydd o’r pedwerydd] mîs y gorchfygodd newyn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlâd.
4Yna y ddinas a dorrwyd, a’r holl ryfelwyr liw nôs ffordd y porth, rhwng y ddau fûr y rhai wrth ardd y brenin, a’r Caldeaid wrth y ddinas o amgylch: a aeth tu a’r rhôs.
5A llu y Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac ai daliasant ef yn rhosydd Iericho: ai holl lu ef a wascarasid oddi wrtho ef.
6Yna y daliasant hwy y brenin, ac y dugasant ef i fynu at frenin Babilon i Riblah: ac 2.Cron.36.13.a draethasant farn yn ei erbyn ef.
7Laddasant feibion Sedecia hefyd yn ei olwg ef: a thynnasant lygaid Sedecia, ac ai rhwymasant ef mewn gefynnau, ac ai dugasant ef i Babilon.
8Ac yn y pummed mîs, ar y seithfed o’r mîs, honno y bedwared flwyddyn ar bymthec i frenin Nabuchodonosor brenin Babilon: Ier.52.12.y daeth Nabuzaradan y distain gwâs brenin Babilon i Ierusalem.
9Ac efe a loscodd dŷ’r Arglwydd, a thŷ’r brenin: a holl dai Ierusalem, a phob tŷ mawr a loscodd efe a thân.
10A holl lu y Caldeaid y rhai a’r distain a ddinistriasant furoedd Ierusalem oddi amgylch.
11A Nabuzaradan y distain a gaeth-gludodd weddill y rhā arall o’r bobl y rhai oeddynt yn aros yn y ddinas, a’r enciliaid y rhai a giliasent at frenin Babilon gyd a gweddill y dyrfa.
12Ac o dlodion y wlâd y gadawodd y distain yn winllan-wŷr, ac yn ardd-wŷr.
13Y 2.Bren.20.17. Ier.27.22.colofnau prês hefyd y rhai yn nhŷ’r Arglwydd, a’r trestêlau, a’r gerwyn brês yr hon yn nhŷr Arglwydd a ddrylliodd y Caldeaid: a hwy a ddugasant eu prês hwynt i Babilon.
14Y Exod.27.3.crochanau hefyd, a’r rhawiau, ar saltringau, y llwyau, a’r holl lestri prês (y rhai’r oeddid yn gwasanaethu ynddynt) a ddugasant hwy ymmaith.
15Y pedill tân hefyd, a’r cawgiau y rhai aur, a’r rhai arian, a ddûg y distain ymmaith.
16Y ddau golofn, yr vn gerwyn, a’r trestêlau y rhai a wnelse Salomon i dŷ’r Arglwydd: nid oedd bwys ar brês yr holl lestri hynny.
17 1.Bren.7.15. Ier.52.21. 2.Cron.3.15. Tri chufydd ar bymthec vchter y naill golofn, a chnap prês arni hi, ac vchter y cnap dri chufydd, pleth hefyd, a phomgranadau ar y cnap o amgylch yn brês ei gyd: ac felly yr ail golfn, a’r bleth.
18A’r distain a gymmerth Seraiah yr offeiriad pennaf, a Sephaniah yr ail offeiriad, a’r tri y rhai oeddynt yn cadw y drws.
19Ac o’r ddinas efe a gymmerth vn stafelludd yr hwn oedd swyddog ar y rhyfel-wŷr, a phum-ŵr o’r rhai oeddynt yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac scrifennudd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y tir: a thrugain-ŵr o bobl y tir y rhai a gafwyd yn y ddinas.
20A Nabuzaradan y distain ai cymmerth hwynt, ac ai dûg hwynt at frenin Babilon i Riblah.
21A brenin Babilon ai tarawodd hwynt, ac ai lladdodd hwynt yn Riblah yng-wlâd Hemath: felly y caeth gludwyd Iuda oi wlâd ei hun.
22Ac y Ier.40.5,9.bobl y rhai a adawsid yng-wlâd Iuda y rhai a adawse Nabuchodonosor brenin Babilon: efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwynt Gedaliah fab Ahicam fab Saphan.
23Pan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwyntwy ai gwŷr wneuthur o frenin Babilon Gedaliah yn swyddog, yna hwy a ddaethant at Gedaliah i Mispah: sef Ismael mab Nethaniah, ac Iohanan mab Cerah, a Seraiah mab Tanhumeth y Netophathiad, ac Iazoniah mab Maacathi, hwynt ai gwŷr.
24A Gedaliah a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr hwynt, ac a ddywedodd wrthynt hwy, nac ofnwch rhac yn weision i’r Caldeaid: arhoswch yn y tîr, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.
25Ac yn y seithfed mîs Ier.41.1.y daeth Ismael mab Nethaniah fab Elisama o’r brenhinawl hâd, a deng-wr gyd ag ef, ac a darawsant Gedaliah fel y bu efe farw: hefyd yr Iddewon a’r Caldeaid y rhai oeddynt gyd ag ef ym Mispah.
26Yna’r holl bobl a gyfodasant o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, ac a aethant i’r Aipht: canys ofnasant rhac y Caldeaid.
27Yn yr ail flwyddyn ar bymthec, ar hugain o gaethiwed Ioachim brenin Iuda, yn y deuddecfed mîs, ar y seithfed ar hugain o’r mîs: Efil-merodach brenin Babilon (yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin a dderchafodd ben Ioachim brenin Iuda o’r carchar-dŷ,
28Ac efe a ddywedodd yn dêg wrtho ef: ac a osododd ei gadair ef goruwch cadeiriau y brenhinoedd y rhai gyd ag ef yn Babilon.
29Ac efe a newidiodd ei garchar-wisc ef: ac efe a fwytâdd fwyd yn oestadol ger ei fron ef holl ddyddiau ei enioes.
30Ai lynniaeth ef lynniaeth beunyddol, rhoddid iddo ef oddi wrth y brenin ddogn dydd yn ei ddydd, holl ddyddiau ei enioes ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.