Ezeciel 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Y prophwyd yn cael ei borthi ar air Duw, a nerth ysprydol, cyn ei anfon at y bobl, y rhai oeddynt drwy gaethiwed wedi eu caeth-gludo i Babylon. 17 Swydd eglwys-wyr lle y mae iddynt weled gymmeint yw’r baich a’r gofal yr hwn a ddyle fod arnynt.

1Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn bwytta’r hyn a geffech, Ier.15.16. Gwel.10.10.bwytta y llyfr hwn, a dos, llefara wrth dŷ Israel.

2Yna mi a agorais fy safn, ac efe a wnaeth i mi fwytta y llyfr hwn.

3Dywedodd hefyd wrthif, bwyda dy fol, a llanw dy berfedd fab dŷn a’r llyfr hwn: yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi attat: yna y bwytteais, ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster.

4Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn cerdd, dos at dŷ Israel, a thraetha fyng-eiriau wrthynt.

5Canys nid at bobl o iaith anhysbus, nac o dafod-iaith ddieithr i’th anfonir di, at dŷ Israel,

6Nid at bobloedd lawer o iaith anhysbus, ac o dafod-iaith ddieithr y rhai ni ddealli eu hymmadroddion, oni wrandawe y rhai hynny arnat i’th anfonwn di attynt?

7Etto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti, canys ni fynnant wrando arnat fi: o blegit tal-gryfion, a chaled galon hwy, holl dŷ Israel.

8Wele rhoddais dy wyneb yn grŷf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a’th dâl yn grŷf yn erbyn eu talcennau hwynt.

9Rhoddais dy dalcen fel adamant yn galedach na’r gallestr, nac ofna hwynt, ac na ddychrynna rhag eu hwynebau hwynt, canys tŷ gwrthryfelgar hwy.

10Dywedodd hefyd wrthif, ha fâb dŷn derbyn a’th galon, a chlyw a’th glustiau fy holl eiriau y rhai a lefarwyf wrthit.

11Cerdda hefyd, dos at y gaeth-glud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywet wrthynt: fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, pa vn bynnac a wneloch ai gwrando ai peidio.

12Yna yspryd a’m cymmerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o’m hôl: Bendigedic gogoniant yr Arglwydd oi lê.

13A sŵn adenydd yr anifeiliaid yn taro wrth eu gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt: a sŵn cynnwrf mawr.

14A’r yspryd a’m cyfododd, ac a’m cymmerodd, a mi a euthym yn chwerw fy yspryd o ddig: ond llaw’r Arglwydd yn gref arnaf.

15Ac mi a ddeuthym i Thelabib, at y gaeth-glud y rhai oeddynt yn aros wrth afon Chebar, ac mi a eisteddais lle’r oeddynt hwytheu yn eistedd, îe eisteddais yno saith niwrnod yn synn yn eu plith hwynt.

16Ac ym mhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd attat gan ddywedyd:

17Mab dyn, rhoddais di yn Ezec.33.2.wiliedudd i dŷ Israel: fel y clywit air o’m genau, ac y rhybuddit ti hwynt oddi wrthifi.

18Pan ddywedwyf wrth y drygionus, gan farw y byddi farw, oni rybuddi efe, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrygffordd, fel y byddo byw: y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd, ond ei waed ef a ofynnaf o’th law di.

19Ond os rhybuddi ti y drygionus, ac efe ni thrŷ oddi wrth ei ddrygioni, oi ffordd ddrygionus, efe a fydd farw yn ei ddrygioni, onid ti a achubaist dy enaid.

20Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, yna y rhoddaf dramgwydd oi flaen ef: efe fydd marw am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, ai gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni choffeir: ei waed hefyd a ofynnaf o’th law di.

21Ond os ty di a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o’r cyfiawn, fel na phecho efe, gan fyw y bydd efe byw am gymmeryd rhybudd: a thi a achubaist dy enaid.

22Ac yno y bu llaw’r Arglwydd arnaf, ac efe a ddywedodd wrthif, cyfot, dôs i’r dyffryn, ac yno y llefaraf wrthit.

23Yna y cyfodais, ac yr euthym i’r dyffryn, ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno, fel y gogoniant yr hwn a welswn wrth afon Chebar: ac mi a syrthiais ar fy wyneb.

24Yna y daeth yspryd ynof, ac a’m gosododd ar fy nhraed, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd wrthif, dôs, a chae di arnat o fewn dy dŷ.

25Tithe fab dŷn, wele hwynt a roddant rwymau arnat, ac a’th rwymant â hwynt, fel nad elech allan yn eu plith.

26Yna y gwnaf i’th dafod lŷnu wrth daflod dy enau, a thi a wneir yn fûd, fel na byddech iddynt yn geryddwr: canys tŷ gwrthryfelgar hwy.

27Ond pan lefarwyf wrthit yr agoraf dy safn: yna y dywedi wrthynt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, yr hwn a wrandawo, gwrandawed, Gwel.22.1.a’r hwn a beidio peidiet: canys tŷ gwrthryfelgar hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help