Esay 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Dialedd Duw ar Ephraim ac Iuda. 5 Duw yn caru Iuda: ac yn ei geryddu ef i wellhau.

1Gwae goron balchder meddwon Ephraim: canys ardderchawgrwydd ei ogoniant ef flodeun diflannedic yr hwn ar benn dyffryn y breision, y rhai a orchfygwyd â gwin.

2Wele grymmus a nerthol yr Arglwydd, fel llifeiriant cenllysc, gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion, yn llifo trosodd, yr hwn a fwrw i lawr drwy ei gryfder.

3Tann draed y sethrir hwynt, coron balchder meddwon Ephraim.

4Ac ardderchawgrwydd ei ogoniant fydd blodeun diflannedic, yr hwn ar ben dyffryn y breision: megis ffigusen gynnar cyn yr haf, yr hon welo’r hwn a edrycho arni, efe ai llyngc hi, ac hi etto yn ei law.

5Yn y dydd hwnnw y bydd Arglwydd y lluoedd yn goron ardderchawgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl,

6Ac yn yspryd barn, i’r hwn a eisteddo ar y farn, ac yn gadernid rhai a ddychwelant y rhyfel i borth

7Ac er hynny hwynt a gyfeiliornasant drwy win, ac a amryfusasant drwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r prophwyd a gyfeiliornasant drwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant barn.

8Canys y byrddau oll a lannwyd chwdfa bydreddi, heb le

9I bwy y dysc efe wybodaeth? ac i bwy y pâr efe ddeall yr hyn a glywo? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth fronnau.

10Canys gorchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn, llinin ar linin, llinin ar linin, ychydig ymma, ychydig accw.

11Canys â bloescni tafod, ac â thafodiaith ddieithr y lleferir wrth y bobl hyn.

12Y rhai y dywedodd efe wrthynt, dymma orphywystra, gadewch i’r deffygiol orphywyso, canys dymma esmwythder: ond ni fynnent wrando.

13Eithr bod gair yr Arglwydd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn, yn llinin ar linin, yn llinin ar linin: ychydig ymma ychydig accw, fel yr elont ac y syrthiont yn ôl, fel y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.

14Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd ddynnion gwatwarus: llywodraethwŷr y bobl hyn y rhai yn Ierusalem.

15Canys dywedasoch, gwnaethom ammod ag angeu, ac a’r bedd y gwnaethom gyngrair: pan ddel ffrywill lifeiriol ni ddaw attom ni: canys gosodasom ein gobaith gelwydd a thann ffalster y llechâsom.

16Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn sylfaenu maen yn Sion, congl-faen gwerth-fawr profedic, sylfaen safadwy, ni fryssia’r hwn a gredo.

17Yna y gosodaf farn wrth linin, a chyfiawnder wrth bwys, y cenllysc a yscuba obaith celwydd, a’r dyfroedd a foddāt loches

18Yna y diddymmir eich ammod ag angeu, a’ch cyngrair ag vffern ni saif, eithr pan ddel y ffrywill lifeiriol, byddwch sathrfa iddi.

19O’r amser y dêlo y cymmer chwi, canys daw bôb boreu ddydd, a nôs, a chyffro yn vnic fydd beri deall yr hyn a glywir.

20Canys byrrach yw’r gwely nag ymestyn.

21Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd Perazim, efe a ddigia megis yng-lynn Gibeon i wneuthur ei waith ei ddieithr-waith: i wneuthur ei weithred ei ddieithr weithred.

22Ac yn awr na siommwch eich hunain, rhag cadarnhau eich rhwymau: canys clywais darfodigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw’r lluoedd ar yr holl dîr.

23Clywch, a gwrandewch fy llais, ystyriwch a gwrandewch fy lleferydd.

24Onid yw yr arddwr yn aredic ar hyd y dydd? yn agorid, ac yn llyfna ei dîr fel yr haeuo?

25Onid pan lyfnhao ei wyneb, yna y tâna efe y ffacpys, ac y gwascar gwmin, ac y gesyd wenith ardderchawg, a haidd mesurol, a rhŷg ei gyfle?

26Canys ai hyfforddia ef mewn barn: ei Dduw ai dysc ef.

27Canys nid ag og y dyrnir ffacpys, ac throir olwyn menn ar gwmin: eithr dyrnir ffacpys â ffonn, a chwmin â gwialen.

28[Defnydd] bara a felir, ond gan ddyrnu ni ddwrn y dyrn-wr ef yn wastadol, ac ni yssiga olwyn ei fenn ef, ac nis mâl ef ai dannedd.

29Hyn hefyd a ddaeth oddi wrth Arglwydd y lluoedd: rhyfedd yw ei gyngor, mawr yw ei ddoethineb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help