Zacharias 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.Prophwydo y mae am Grist, ffynnon y grâs: ac am ddinistr y gau dduwiau, a’r gau brophwydi.

1Y Dydd hwnnw y bydd ffynnon agored i dŷ Ddafydd, ac i breswyl-wŷr Ierusalem i pechod, ac aflendid.

2A bydd y dwthwn hwnnw medd Arglwydd y lluoedd, i’m dorri enwau’r eilynnod allan o’r tir, ac ni’s coffeir mwyach: a gyrraf hefyd brophwydi, ac yspryd aflendid allan o’r wlâd.

3A bydd os prophwyda vn mwyach, y dywed ei dâd ai fam ai cenhedlasant ef wrtho, ni chei fyw, canys dywedaist gelwydd yn enw’r Arglwydd: ai dad ai fam ai cenhedlasant ef, ai Deut.13.6,9.gwanant ef, pan fyddo yn prophwydo.

4A bydd y dydd hwnnw i’r prophwydi gywilyddio bob vn am ei weledigaeth, pan brophwydo, ac ni wiscant grŷs rhawn er twyllo:

5Ond efe a ddywed, nid prophwyd fi, llafur-wr y ddaiar ydwyfi: canys dŷn a’m dyscodd o’m ieuengtid.

6Os dywed wrtho, beth y gweliau hyn rhwng dy ddwylo? yna efe a ddywed, drwy y rhai i’m clwyfwyd yn nhŷ fyng-haredigion.

7Deffro gleddyf yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: taro y bugail, a’r praidd a wascerir, a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.

8A bydd yn yr holl dir medd yr Arglwydd y diwreiddir, ac y difethir dwy ran ynddo a’r drydedd a adewir ynddo.

9A dygaf y drydedd i’r tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: efe a eilw ar fy enw, a minne ai gwrandawaf: dywedaf, pobl i mi efe, ac yntef a ddywed, yr Arglwydd sydd Dduw i mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help