Iob 38 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVIII.Duw yn ymddiddan ag Iob, ac yn ei ddyscu ef trwy ddangos iddo odidawgrwydd ei greaturiaid.

1Yna’r Arglwydd a attebodd Iob o’r corwynt, ac a ddywedodd,

2Pwy yw hwnnw sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb ŵybodaeth?

3Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr: a mynega i mi yr hyn a ofynnwyfi ti.

4Pa le’r oeddit ti pan sylfaenais i y ddaiar? mynega os medri ddeall?

5Pwy a osododd ei mesurau hi os gwyddost? neu pwy a estynnodd linin mesur arni hi?

6Ar ba beth y siccrhauwyd ei gwadnau? neu pwy a fwriodd ei chongl-faen hi?

7 Pa le’r oeddit ti pan gyd ganodd sêr y borau: ac y gorfoleddodd holl feibion Duw?

8A phwy a gaeodd y môr â dôrau, pan ruthrodd efe allan megis y deue vn allan o’r grôth?

9Pan osodais i y cwmwl yn wisc iddo ef: a niwl yn rhwymyn iddo ef:

10Pan osodais fyng-orchymyn arno ef, a phan osodais ei drosolion ai ddorau,

11Gan ddywedyd, hyd ymma y deui di, ac na thyret ym-mhellach: ac ymma’r ymesyd y traeth yn erbyn ymchwydd dy donnau di.

12A orchymynnaist ti y borau yn dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawr-ddydd ei llê?

13I ymaflyd yn eithafoedd y ddaiar, fel yr escydwer rhai annuwiol o honi hi?

14Canys hi a ymnewidia fel clai seliedic: a hwy a safant fel dillad.

15Fel yr attelid oddi wrth y rhai annuwiol eu goleuni: ac fel y drillid y braich derchafedic.

16A ddaethost ti i waelod dyfnderoedd y môr? ac a rodiaisti yng-hilfach y dyfnder?

17A ddatcuddied pyrth marwolaeth i ti? ac a welaist ti byrth cyscod angeu?

18A ystyriaist ti ehangder y ddaiar? mynega os adwaenost ti y hi ei gyd.

19Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha lê y mae lle tywyllwch?

20Gan i ti ddeall hyn oi gwrr, a medru llwybrau ei dŷ ef.

21A wyddit ti yna y genid tŷ di? ac y bydde rhifedi dy ddyddiau yn fawr?

22A aethost ti i dryssorau’r eira? neu a weli di dryssorau y cenllysc?

23Y rhai a atteliais i hyd amser cyfyngder: hyd dydd ymladd, a rhyfel.

24Pa ffordd yr ymranna goleuni? ac yr ymwascar y dwyrein-wynt ar y ddaiar?

25Pwy a rannodd dymhestlaw yn aberoedd? ac a wnaeth ffordd i fellt a tharânau?

26I lawio ar ddaiar lle ni byddo gŵr: a’r anialwch yr hwn sydd heb ddyn ynddo?

27I gyflawni lle wedi ei ddifwyno, a lle anrhaithiedic: ac i beri i gnŵd o las-wellt dyfu?

28A oes dad i’r glaw: neu pwy a genhedlodd ddefnynnau’r gwlith?

29O grôth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwyd-rew y nefoedd?

30Fel yr ymguddio y dyfroedd megis carreg pan rewo wynebau y dyfnder.

31A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?

32A ddygi di allan Mazzaroth yn eu hamser: neu a dwysi di Arcturus ai feibion?

33A adwaenost ti ansodd y nefoedd: a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaiar?

34A dderchefi di dy lêf ar y cwmwl, hyd oni orchguddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?

35A ddanfoni di fellt allā fel yr elant? a ddywedant hwy wrthit, wele ni?

36Pwy a osododd ddoethineb yn yr arennau? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon?

37Pwy a gyfrif yr ŵybrennau drwy ddoethineb? a phwy a dywallt i lawr gostrêlau y nefoedd?

38Gan wlychu pridd wrth y tywalldiad hwnnw, fel y glyno y priddellau?

39A elli di hela sclyfaeth i hên lew? neu a elli di lenwi gwangc cenawon llewod?

40Pan ymgrymmant hwy mewn llochesau: pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?

41Pwy a baratoa i’r cig-frain eu bwyd, pan lefo eu cywion ar Dduw, wibiant hwy o eisieu bwyd?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help