1Am feibion Ammon fel hyn y dywed yr Arglwydd, onid oes feibion i Israel? onid oes etifedd iddo ef? pa ham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad? ai bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef?
2Am hynny wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd pan wnelwyf glywed trwst rhyfel wrth Rabbath meibion Ammon, ac hi a fydd yn garnedd anghyfanneddol, ai phen-trefydd hi a loscir â thân, ac Israel a orescyn ei orescynwyr medd yr Arglwydd.
3Uda di Hesbon am anrheithio Ai, gwaeddwch chwi pentre-fydd Rabbath, ymwregyswch mewn sach-liain, alaethwch a gwibiwch o amgylch y muroedd, o blegit eu brenin a aiff mewn caethiwed, ei offeiriaid, ai bennaethiaid hefyd.
4Pa ham yr ymffrosti di yn y dyffrynnoedd? llifodd dy ddyffryn di ymmaith ô ferch wrthnysig, ymddyried y mae hi yn ei thryssorau pwy a ddaw attafi?
5Wele myfi a ddygaf arswyd arnat ti (medd Arglwydd Dduw y lluoedd) o’th holl amgylchoedd: a chwi a wascerir bob vn oi flaen, ac ni a gasclo y gwascaredic.
6Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon medd yr Arglwydd.
7Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am Edom: onid doethineb mwy yn Theman, a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a lygrwyd eu doethineb hwynt?
8Ffoiwch, troiwch eich cefnau, ewch yn isel i drigo presswyl-wŷr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Edom arno ef, amser ei ofwy.
9Pe deue y cynhaiaf-wŷr gwin attat ti, oni weddillent hwy ganghennau grawn? pe lladron liw nôs, oni lygrent eu digon?
10Ond myfi a ddinoethais Esau, a ddadcuddiais ei guddfeudd ef, fel na allo lechu: ei hâd ef a ddifethwyd, ai frodyr ai gymmydogion, ac ni bydd efe
11Gat ti dy ymddifaid, myfi ai cadwaf hwynt yn fyw: ac ymddyrieded dy weddwon i mi.
12Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele y rhai nid oedd gymmwys iddynt yfed o’r phiol, gan yfed a yfasant, a ddiengi dithe debygi di? na ddiengi: eithr tithe a yfi hefyd.
13Canys i mi fy hun y tyngais medd yr Arglwydd, mai yn anghyfannedd-le, yn warth, yn anialwch, ac yn felldith y bydd Bozrah: ai holl ddinasoedd hi a fyddant yn ddiffaethwch tragywyddol.
14Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr Arglwydd, sef bod cennad ym mysc y cenhedloedd ymgesclwch chwi, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i’r rhyfel.
15O herwydd wele myfi a’th roddaf di yn fychan ym mysc y cenhedloedd, ac yn wael ym mhlith y dynion.
16Dy ryfyg a’th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng-hromlechydd y graig, ac yn meddiānu vchelder y brynn: er i ti osod dy nŷth cynn vched â’r eryr, myfi a wnaf i ti ddescyn oddi yno medd yr Arglwydd.
17Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd, pawb a’r a elo heibio iddi a synnant, ac a ryfeddant am ei holl ddialeddau hi.
18Fel dinistr Sodoma, a Gomorra ai chymydogesau hi medd yr Arglwydd: ni phresswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.
19Wele fel llew y daw i fynu oddi wrth dderchafiad yr Iorddonen i’r drigfa gadarn, eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymmwth oddi wrthi hi, a’r neb a ddewiswyd a osodafi arni hi: canys pwy fel mau fi? a phwy a esid i mi amser? a phwy y bugail hwnnw a saif o’m blaen i?
20Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr Arglwydd yr hwn a ymgynghorodd efe yn erbyn Edom, ai fwriadau y rhai a fwriadodd efe yn erbyn presswyl-wŷr Theman: onid y rhai lleiaf o’r praidd ai lluscant hwynt, oni wna efe yn anghyfannedd eu trig-leoedd gyd â hwynt.
21Gan lef eu cwymp hwynt y cryn y ddaiar, llais eu gwaedd hwynt a glywir yn y môr côch.
22Wele fel eryr y daw i fynu, ac efe a eheda, ac a leda ei adenydd ar Bozrah: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth escor.
23Ar Ddamascus, Hemath, ac Arphad y daw gwarth, o herwydd hwynt a glywsant chwedl drwg, llesmeiriasant ofnus ar y môr heb fedru gorphywys.
24Damascus a lesceiddia, ac a ymdry i ffoi, ond dychryn ai goddiwedd gwascfa a phoenau ai deil hi fel gwraig yn escor.
25Paham na adewir y ddinas glodfawr, caer fy llawenydd?
26Am hynny ei gwyr ieuaingc a syrthiant yn ei heolydd: a’r holl ryfel-wŷr a ddifethir y dydd hwnnw medd Arglwydd y lluoedd.
27Ac mi a gynneuaf dân ym muroedd Damascus: ac efe a ddifa lysoedd 1.Bren.20.26.Benhadad.
28Am * Cedar, ac am deyrnas Hazer y rhai a ddinistriodd Nabuchodonosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr Arglwydd: cyfodwch, ac ewch chwi i fynu yn erbyn Cedar, a difethwch feibion y dwyrain.
29Eu lluestai ai defaid a gymmerant ymmaith, eu llenni, ai holl lestri, ai camelod a ddygant gyd â hwynt, a hwynt a floeddiant arnynt ofn o amgylch.
30Ffoiwch, ciliwch chwi ym mhell, ewch yn isel i drigo presswyl-wŷr Hazor medd yr Arglwydd: o herwydd Nabuchodonosor brenin Babilon a gymmerodd gyngor, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.
31Cyfodwch chwi, ac ewch i fynn at y genhedlaeth oludog yr hon sydd yn trigo yn ddifraw medd yr Arglwydd heb ddorau na barrau iddi, eu hunain y maent yn trigo.
32Ai camelod a fyddant yn anrhaith, ai minteioedd o anifeiliaid yn yspail, ac mi ai gwascaraf hwynt tua phob gwynt, ac i’r conglau eithaf: ac myfi a ddygaf o bob ystlys iddo eu dinistr hwynt medd yr Arglwydd.
33Hazor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, yn anghyfannedd byth: ni presswylia neb yno, ac nid erys mab dŷn ynddi.
34[Dymma] air yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Ieremi y prophwyd am Elam yn nechreuad teyrnasiad Sedecia brenin Iuda, gan ddywedyd,
35Fel hynn y dywed Arglwydd y lluoedd, wele fi yn torri bŵa Elam eu cadernid pennaf hwynt.
36Ac mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithafoedd y nefoedd, ac mi ai gwascaraf hwynt gyd a’r holl wyntoedd hynn: ac ni bydd cenhedlaeth, at yr hon ni ddelo o gyrwydraid Elam.
37Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynnion, a’r rhai a geisiant eu henioes, ac myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint medd yr Arglwydd, ac mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl hwynt, nes i mi eu difetha hwynt.
38Ac mi a osodaf fy nheyrn-gader yn Elam, ac mi a ddifethaf oddi yno y brenin a’r tywysogion medd yr Arglwydd.
39Ac o’r diwedd myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.