1 Ymogelwch rhag y gau brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yng-wiscoedd defaid, onid oddi mewn bleiddiaid rheupus ydynt hwy.
16Wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwynt: Luc.6.43.a gesclir grawn-win oddi ar ddrain, neu ffigus oddi ar yscall?
17Felly pob pren da a ddwg ffrwyth da, a phren drwg ffrwyth drwg.
18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren pwdr ddwyn ffrwythau da.
19 Math.3.10. Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir i’r tân.
20O herwydd pa ham, wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwynt.
21 Rom2.13. Iam.1.22.Nid pwy bynnac a ddywed wrthif, Arglwydd Arglwydd, a ddaw i deyrnas nefoedd, ond yr hwn a wna ewyllys fy Nhâd yr hwn yn y nefoedd.
22Llaweroedd a ddywedant wrthif yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di, ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di, ac oni wnaethom weithredoedd mawrion trwy dy enw di?
23 Luc.13.27. psal.6.8. Ac yna yr addefaf iddynt, ni’s adnabum chwi er ioed, ewch ymmaith oddi wrthif, ô weithred-wŷr anwiredd.
24 Luc.6.47. Pwy bynnac gan hynny a glywo gennif y geiriau hyn, ac a’u gwna, mi ai cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adailadodd ei dŷ ar graig:
25A’r glaw a ddescynnodd, a’r llifeiriaint a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, am ei sylfaenu ar graig.
26A Ond pwy bynnac a glywo fyng-eiriau hyn, ac ni’s gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adailadodd ei dŷ ar dywod,
27A’r glaw a ddescynnodd, a’r llif-ddyfroedd a ddaethant, a’r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant y tŷ hwnnw, ac efe a syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.
28Ac fe ddarfu wedi i’r Iesu orphen y geiriau hyn, Mar.1.22. luc.4.32synnu ar y dyrfa gan ei ddysc ef.
29Canys yr oedd efe yn eu dyscu hwynt fel vn ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr scrifennyddion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
