Ezeciel 25 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXV.Prophwydoliaeth yn erbyn yr Ammoniaid, 8 Y Moabiaid, 12 Yr Edomiaid, 15 A’r Philistiaid.

1A Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf gan ddywedyd:

2Ha fab dŷn gosot dy wyneb at feibion Ammon: a phrophwyda yn eu herbyn hwynt,

3A dywet wrth feibion Ammon, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: am ddywedyd o honot, haha, am fyng-hyssegr pan halogwyd, ac am dîr Israel pan ddinistriwyd, ac am dŷ Iuda, pan aethant mewn caeth-glut:

4Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu tyrau ynot, ac y rhoddant eu pebyll o’th fewn, hwynt a yssant dy ffrwyth, a hwynt a yfant dy laeth.

5Rhoddaf hefyd 2.Sam.12.27.Rabbah ym drigfa camelod: a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd.

6Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, o herwydd curo o honot law, ac estyn o honot draed, a llawenychu o honot trwy holl diystyrwch dy galon yn erbyn tîr Israel.

7Am hynny wele mi a estynnaf fy llaw i’th erbyn fel i’th roddwyf yn fwyd i’r cenhedloedd, ac i’th dorrwyf o’r bobloedd, ac i’th ddifethwyf o’r tiroedd: dinistriaf di fel y gŵypech mai myfi yr Arglwydd.

8Fel hynn y dywed yr Arglwydd Dduw, am ddywedyd o Moab a Seir, wele dŷ Iuda fel yr holl genhedloedd:

9Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o’r dinasoedd, oi ddinasoedd ef, yn ei gwrr: gogoniant y tîr, Bethiesimoth, Baalmeon a Chiriathaim,

10I feibion y dwyrain, yng-hyd â meibion Ammon, canys rhoddaf hithe yn etifeddiaeth: fel na choffeir meibion Ammon ym mysc y cenhedloedd.

11Gwnaf farn hefyd ar Moab, fel y gwypont mai myfi yr Arglwydd.

12Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Iuda, pan wnaeth ddial: (canys gwnaethant gamwedd mawr pan ddialasant arnynt)

13Am hynny medd yr Arglwydd Dduw, yr estynnaf inne fy llaw ar Edom, a thorraf o honi ddŷn, ac anifail: syrthiant ar gleddyf, fel y rhoddwyf hi yn anrhaith o Theman, hyd Dedanah.

14A rhoddaf fy nial ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel, a hwynt a wnant ag Edom yn ôl fy nigllonedd a’m llîd: fel yr adwaenant fy nail medd yr Arglwydd Dduw.

15Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, am wneuthur o’r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial drwy ddiystyrwch calon, gan ddinistrio drwy elynniaeth tragywyddol:

16Am hynny, fel hynn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn estynn fy llaw ar y Philistiaid, fel y torrwyf ymmaith y Cerethiaid, ac y difethwyf weddill porthladd y môr.

17Yna y gwnaf arnynt ddial mawr, trwy gerydd llidioc, fel y gwypont mai myfi ydwyf yr Arglwydd, pan roddwyf fy nial arnynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help