Ieremi 37 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVII.1 Sedecia yn ymbil ag Ieremi am weddio trosto ef. 13 Dala Ieremi, ei guro ef ai garcharu. 17 A Sedecia yn ei ryddhau ef.

1A’r brenin Sedecia 2.Bren.24.17. 2.Cron.36.10. Ierem.52.1.mab Iosia (yr hwn a wnaeth Nabuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng-wlad Iuda) a deyrnasodd yn lle Conaniah mab Iehoacim.

2Ond ni wrandawodd efe nai weision, na phobl y tir ar eiriau yr Arglwydd y rhai a draethodd efe trwy Ieremi y prophwyd.

3Er hynny y brenin Sedecia a anfonodd Iehucal fab Selemiah, a Sephaniah fab Maasiah yr offeiriad at Ieremi y prophwyd i ddywedyd: gweddia atolwg drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw.

4Ac Ieremi oedd yn myned mewn rhyddid ym mysc y bobl: canys ni roddasent hwy ef yn y carchar-dŷ.

5Llu Pharao hefyd a ddaethe allan o’r Aipht, a’r Caldeaid y rhai oeddyn yn gwarche ar Ierusalem a glywsant oddi wrthynt, ac aethant i fynu oddi wrth Ierusalem.

6Yna gair yr Arglwydd a ddaeth at Ieremi y prophwyd gan ddywedyd,

7Fel hynn y dywed yr Arglwydd Dduw Israel, fel hynn y dywedwch chwi wrth frenin Iuda yr hwn a’ch anfonodd chwi attafi i ymofyn â mi: wele llu Pharao yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel iw wlad ei hun i’r Aipht.

8Ond y Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a’i hennillant, ac ai lloscant â thân.

9Fel hynn y dywed yr Arglwydd, na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd: diau yr aiff y Caldeaid oddi wrthym ni, o blegit nid ânt hwy.

10Canys pe tarawech chwi holl lu y Caldeaid, y rhai ydynt yn rhyfela i’ch erbyn, fel weddillid o honynt gwŷr archolledic, hwynt a safant bôb vn yn ei babell, ac a loscant y ddinas hon â thân.

11A phan aeth llu y Caldeaid ymmaith oddi wrth Ierusalem, rhac llu Pharao,

12Yna Ieremi a aeth allan o Ierusalem i fyned i wlâd Beniamin, i ymado oddi yno o fysc y bobl.

13Pan ddaeth efe i borth Bēiamin, yr yno benn swyddog ai enw ef Ieriah mab Selemiah fab Hananiah, ac efe a ddaliodd Ieremi y prophwyd gan ddywedyd: cilio at y Caldeaid yr ydwyt ti.

14Yna y dywedodd Ieremi, nid gwîr nid ydwyfi yn cilio at y Caldeaid, ond ni wrandawe efe arno: felly Ieriah a ymaflodd yn Ieremi, ac ai dygodd ef at y tywysogion.

15Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Ieremi, ac a barasant ei faeddu ef, ac ai rhoddasant ef yn y carchar-dŷ yn nhŷ Ionathan yr scrifennydd: o herwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchar-dŷ.

16Pan ddaeth Ieremi i’r daiar-dŷ a’r carchar, ac i Ieremi aros yno ddyddiau lawer,

17Yna y brenin Sedecia a anfonodd, ac ai cymmerodd ef allan, a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd: a oes gair oddi wrth yr Arglwydd? yntef a ddywedodd, oes, canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.

18Ieremi hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedecia, pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di? neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn pan i’m rhoddasoch fi yn y carchar-dŷ?

19Pa le eich prophwydi y rhai a brophwydâsant i chwi gan ddywedyd: ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn, nac yn erbyn y wlâd hon.

20Ac yn awr gwrando di atolwg ô arglwydd frenin, ac attolwg deued fyng-weddi ger dy fron di: ac na ddychwel fi i dŷ Ionathan yr scrifennydd rhac fy marw yno.

21Yna y brenin Sedecia a orchymynnodd iddynt hwy osod Ieremi yng-hyntedd y carchar-dŷ, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl fara o’r ddinas: felly Ieremi a arhosodd yng-hyntedd y carchar-dŷ.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help