Doethineb 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Cyngori bennaethiaid a swyddogion.

1Gwrandewch gan hynny (o frenhinoedd) a dehallwch, oh farn-wŷr eithafedd y ddaiar cymmerwch ddysc.

2Rhoddwch glust llywodraeth-wŷr y dyrfa, a’r rhai a ydych feilchion o werin cenhedloedd.

3O blegit y cryfder Rhuf.13.2.a gawsoch chwi gan yr Arglwydd, a’r gallu gan y Goruchaf, yr hwn a ymofyn am eich gweithredoedd, ac a chwilia allan eich meddyliau chwi.

4Am i chwi yn wenidogion oi frenhiniaeth ef na farnasech yn iniawn, ac na chadwasoch y gyfraith, ac na rodiasoch yn ôl ewyllys Duw,

5Yn aruthr ac yn ebrwydd y daw efe arnoch chwi, o herwydd barn dost sydd i’r llywodraeth-wŷr.

6Y lleiaf a ddichon gael maddeuant yn drugarog, a’r cedyrn a gystuddir yn gadarn.

7O blegit yr hwn sydd Arglwydd ar bawb Deut.10.17. 2.Cron.19.7. Iob 34.19.|JOB 34:19. Eccl.35.12,16.|SIR 35:12,16 Act.10.34.|ACT 10:34. Rhuf.2.11.|ROM 2:11. Gal.2.6.|GAL 2:6. Ephes 6.9.|EPH 6:9. Coloss.3.25. 1.Pet.1.17.nid ystyr wyneb, ac ni afna fawredd: canys efe a wnaeth y mawr a’r bychan, ac a ofala yr vn modd am bawb.

8Ond ar y cedyrn y daw hawl gadarn.

9Wrthych chwi am hynny frenhinoedd y mae fyng-eiriau mau fi, fel y dyscoch chwi ddoethineb heb ballu.

10O blegit y rhai a gadwant y pethau sanctaidd yn sanctaidd a sancteiddir, a’r rhai ai dyscant hwy a gânt beth iw atteb trostynt eu hun.

11Chwennychwch fyng-eiriau mau fi, dymunwch ac chwi a fyddwch ddyscedig.

12Doethineb sydd ddisclaer, ac ni dderfydd: hawdd y canfyddir hi gan y rhai ai hoffant, a hawdd y ceir hi gan y rhai ai ceisiant hi.

13Y mae hi yn myned i gyfarfod y rhai ai chwennychant, fel yr adwaener hi yn gynt.

14Nid rhaid poen i’r hwn a gyfodo yn foreu am dani hi: o blegit efe ai caiff hi yn eistedd wrth ei ddryssau.

15Canys perffeithrwydd synnwyr yw meddwl am dani hi, a’r hwn a wilio am dani hi a sydd ddiofal yn ebrwydd.

16O blegit y mae hi yn myned o amgylch, dan geisio y rhai ydynt deilwng o honi hi, y mae hi yn ymddangos yn llawen iddynt hwy ar bob llwybr, ac yn cyfarfod â hwynt ar bob meddwl.

17Ei dechreuad hi yw gwir chwant i addysc.

18Gofal am addysc yw cariad, a chariad yw ceidwad ei chyfreithau hi, a siccrwydd o anllwgredigaeth yw gwrando ar y gyfraith.

19Anllwgredigaeth sydd yn peri bod yn a­gos i Dduw.

20O blegit chwant doethineb sydd yn dwyn i’r deyrnas.

21Am hynny ô frenhinoedd y bobl os melus gennych orseddfeingc, a theyrn-wielyn, anrhydeddwch ddoethineb fel y teyrnasoch byth.

22Eithr beth yw doethineb, a pha fodd y gwnaed hi: Mi a fynegaf ac ni chuddiaf rhagoch chwi y dirgelwch: eithr o ddechreuad ei genedigaeth hi yr ô lrheiniaf, ac y gosodaf ei gwybodaeth hi yn amlwg, ac nid âf fi tros y gwirionedd.

23Ac ni chydymdeithiaf fi â chenfigen ddi­hoenedic, oblegit ni bydd y neb ai gwenel yn gyfrannog o ddoethineb.

24Iechydwriaeth y byd yw llawer o ddoethion, ac attec y bobl yw brenin call.

25Am hynny cymmerwch addysc trwy fyng-eiriau mau fi, ac chwi a gewch fudd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help