Lefiticus 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Trefn y bwyd offrwm, ai bobiad.

1Pan offrymmo dŷn fwyd offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef beillied: a thywallded olew arno, a rhodded thus arno.

2Yna Lefif.6.15.dyged ef at feibion Aaron yr offeiriaid a chymmered oddi yno loned ei law oi beillied ac oi olew, yng-hyd ai hôll thus, a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

3A gweddill y bwyd offrwm i Aaron ac iw feibion, yn sanctaidd-beth cyssegredic o danllyd aberth yr Arglwydd.

4Hefyd pan offrymmech fwyd offrwm, wedi ei bobi ffwrn, deissennau peillied croiw, wedi eu cymmyscu trwy olew, ac afrllad croiw wedi eu hîro ag Leuit 6.21.olew.

5Ond os bwyd offrwm ar radell dy offrwm di, bydded beillied wedi ei gymmyscu yn groiw mewn olew.

6Torr ef yn dammeidiau, a thywallt arno olew, bwyd offrwm yw hwn.

7Ac os bwyd offrwm padell dy offrwm, gweithier beillied trwy olew.

8A dwg i’r Arglwydd y bwyd offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn, sef dwg ef at yr offeiriad a dyged yntef ef at yr allor.

9A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd offrwm, a llosged ar yr allor, yn danllyd a berth, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

10A i Aaron ac iw feibion weddill y bwyd offrwm, yn sanctcidd-beth cyssegredic o dânllyd aberth yr Arglwydd.

11Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd offrwm yr hwnn a offrymmoch i’r Arglwydd: canys am bob sur-does, a phob mêl na losgwch o honaw aberth tanllyd i’r Arglwyd.

12Offrymmwch y rhai hynny i’r Arglwydd yn offrwm blaen-ffrwyth, ond nac ânt ar yr allor yn arogl esmwyth.

13Dy holl fwyd offrwm hefyd a hellti Math.5.13. Marc.9.50. Luc.14.34.di a halē, ac na phalled halen cyfammod dy Dduw o fod ar dy fwyd offrwm: offrymma halē ar bob offrwm it.

14Ac os offrymmi i’r Arglwydd fwyd offrwm y ffrwythau cyntaf: twysennau wedi eu crassu yn tân yr hyn a gurir allan o’r dwysen îr-lawn a offrymmi di, yn fwyd offrwm dy ffrwythau cyntaf.

15A dod olew arno, a gossot thus arno, bwyd offrwm hynn.

16A llosged yr offeiriad ei goffodwriaeth oi ŷd wedi ei guro allan, ac oi olew yng-hyd ai holl thus yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help