1A Phan ddywedodd y llew y geiriau hynn wrth yr eryr, y gwelais:
2Ac wele, y pen yr hwn a gawse y llaw vchaf o’r blaen nid ymddangosodd mwy, ac nid ynddangosodd mwy y pedair ascell a’r a ddaethent atto ef, ac a osodasid i fynu i deyrnasu, ai teyrnas oedd fechan, a llawn cynnwrf.
3A gwelais, wele, ac nid ymddangosasant mwy, a holl gorph yr eryr a loscwyd fel yr ofnodd y ddaiar yn fawr: yna y deffroais i allan o’m blinder, a gweledigaeth fy meddwl, ac ofn mawr, a dywedais wrth fy ysbryd,
4Wele, hyn a roddaist i mi, am i ti chwilio am ffyrdd y Goruchaf,
5Wele, y mae etto yn flîn fyng-halon, ac yn wann fy ysbryd: ac ychydig nerth sydd ynof, o herwydd yr ofn mawr a fu arnaf neithwyr.
6Am hynny yr attolygaf i’r Goruchaf, fyng-hyssuro hyd y diwedd.
7A dywedais, Arglwydd, Arglwydd, os cefais ffafor yn dy olwg di, ac os cyfiawnheuir fi ger dy fron di o flaen llawer eraill, ac os daeth fyng-weddi i yn siccr o’th flaen di:
8Dyro gyssur ynof, a dangos i’th wâs ddeall y weledigaeth hon, fel y gallech gyssuro fy enaid yn berffaith.
9Canys bernaist fi yn deilwng i ddangos i mi yr amseroedd diweddaf.
10Ac efe a ddywedodd wrthif, hyn yw deall y weledigaeth.
11Yr eryr yr hwn a welaist yn dyfod i fynu o’r môr yw yr deyrnas a welodd dy frawd Dan.7.7.Daniel yn ei weledigaeth.
12Ond ni’s deonglwyd iddo ef, am hynny y deonglaf hi i ti.
13Wele, fe a ddaw yr dyddiau y cyfid teyrnas ar y ddaiar, ac ofnir y deyrnas honno yn fwy na’r holl deyrnasoedd a fuant oi blaen.
14Ac yn y deyrnas honno y llywodraetha deuddeng mhrenin ôl yn ôl.
15Canys yr ail a ddechreu deyrnasu, ac a deyrnasa yn hwy na’r deuddec eraill.
16A hyn y mae yr deuddeng hascell a welaist ti yn ei arwyddocau.
17Ac am y llef a glywaist yn dywedyd, yr hon nid aeth o’r pen, ond o ganol y corph honno sydd yn arwyddocau,
18Yn ôl amser y deyrnas honno, y cyfyd ymrysonnion mawr, a hi a fydd debyg i syrthio: er hynny ni syrth y prŷd hynny, ond hi a adferir trachefn iw dechreuad.
19A’r wyth adain dann ei escill, y rhai a welaist yn crogi dan ei adenydd ef, sydd yn arwyddocau,
20Y cyfid ynddo ef ŵyth o frenhinoedd ai dyddiau fyddant fyrrion, ai blynyddoedd yn chwyrn, a dau o honynt a balla.
21Ac yng-hanol hynny o amser, pedwar a gedwir dros amser, hyd oni ddêl ei amser ef: ond dau a gedwir hyd y diwethaf.
22A lle y gwelaist dri phen yn gorphywys, hyn yw ’r deall.
23Yn ei ddyddiau diwethafy cyfid y Goruchaf dair teyrnas, a galwant lawer o bethau yn eu hôl, a hwy a lywodraethant y ddaiar,
24A’r rhai a bresswyliant ynddi drwy boen fawr, vwch law pawb a’r a fu oi blaen hwy: am hynny y gelwir hwynt pennau ’r eryr.
25Canys hwynt hwy a ddygant allan ei ddrygioni ef trachefn, ac a gyflawnant ei ddiwedd ef.
26A lle ni’s gwelaist y pen mawr yn ymddangos mwy, hynny sydd yn arwyddocau y bydd marw vn o honynt yn ei wely, ac er hynny mewn llafur.
27Canys y ddau sydd yn aros yn ôl a leddir a’r cleddyf.
28Canys cleddyf y naill a ddifetha yr llall: ond o’r diwedd efe a syrth drwy ’r cleddyf ei hun.
29A lle y gwelaist ddwy adain dan yr escill, yn myned tu a’r penn o’r tu dehau:
30Mae hynny yn arwyddo y rhai a gadwodd y Goruchaf hyd eu diwedd: hon yw ’r deyrnas fechan, a llawn blinder, fel y gwelaist.
31A’r llew a welaist yn codi allan o’r coed, ac yn rhuo, ac yn dywedyd wrth yr eryr, ac yn ei geryddu ef a’m ei anwiredd a’r holl eiriau fel y clywaist,
32Yw gwynt, yr hwn a gadwodd y Goruchaf iw drygioni hwynt hyd y diwedd: efe ai cerydda hwynt, ac a ddyri oi blaen hwynt eu dialedd.
33Canys efe ai rhydd hwynt mewn barnedigaeth yn fyw, ac ai cyhudda, ac ai cerydda hwynt.
34Canys gweddill fy mhobl a weryd efe drwy drueni, y rhai a gadwer ar fy nherfynau, ac efe ai gwna hwynt yn llawen hyd dyfodiad dydd y farn, am yr hwn y dywedais wrthit ti o’r dechreuad.
35Hwn yw ’r breuddwyd a welaist, a hyn yw ei ddeongliad ef.
36Tydi yn vnic oeddit gymmwys i ŵybod y gyfrinach gan y Goruchaf.
37Am hynny scrifenna y pethau hyn oll a’r a welaist mewn llyfr, a chuddia hwynt,
38A dysc hwynt i’r bobl ddoethion, y rhai a wypech fod eu calonnau yn gallu eu deall, ac i gadw cyfrinach am hyn.
39Ond gwilia di ymma etto saith niwrnod, fel y gallech ŵybod y peth a fynno y Goruchaf i ddangos i ti, a chyd â hynny efe a aeth ymmaith.
40A phan ddeallodd yr holl bobl ddarfod y saith niwrnod, a minne heb ddyfod trachefn i’r ddinas, hwy a ymgasclasant yng-hyd o’r lleiaf hyd y mwyaf, a daethant attaf gan ddywedyd,
41Pa beth a wnaethom ni yn dy erbyn di: a pha ddrwg a wnaethom i ti, pan ydwyt yn ein gwrthod ni, ac yn eistedd ymma:
42Canys o’r holl bobl, ti yn vnic a adawyd i ni, fel grawn o’r winwydden, ac fel cannwyll mewn tywyllwch, neu fel porthladd neu long wedi eu diaingc rhag y demhestl.
43Onid oes i ni hefyd adfyd ddigon yn digwyddo:
44Os tydi a’n gwrthodi, ond gwell a fuase i ni ein llosci gyd â Sion:
45Canys nid gwell ydym na’r rhai a fuant feirw yno, ac ŵylasant yn vchel, yna yr attebais hwy, ac y dywedais,
46Bydd lawen ô Israel, ac na fydd drist tydi dŷ Iacob.
47Canys y Goruchaf a feddwl am danoch, a’r Galluoc ni’s gollwng chwi dros gof mewn profedigaeth.
48Ac myfi ni’s gwrthodais chwi, ac nid aethum oddi wrthych: ond daethym i’r lle hwn i weddio dros drueni Sion, fel y gallwn geisio trugaredd i isel-radd eich cyssegr.
49Ac yn awr, ewch bawb adref, ac yn ôl y dyddyau hyn y deuaf attoch.
50Felly y bobl a aethant ymmaith i’r ddinas fel y gorchymynnais iddynt:
51Ond mi a arhoais yn y maes saith niwrnod, fel y gorchymynnodd efe i mi, a bwyteais yn vnic o flodeu y maes: ac o lysieu y gwnaed bwyd i mi y dyddiau hynny.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.