Gweithredoedd yr Apostolion 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.1 Yr arch-offeiriad yn peri taro Paul, a’i atteb yntef am ei daro, 7 ymrafael rhwng y Pharsæaid a’r Saducaeid, 11 yr angel yn cyssuro Paul i fyned i Rufain, 12 adduned greulon yn erbyn Paul. 16. Nai Paul yn dangos iddo ei berigl, ac i’r capten hefyd, 24 Paul yn myned at Phelix â gwyr arfog; a llythyrau.

1Paul yn edrych yn graff ar y cynghoriaid a ddywedodd: ha wyr, frodyr, mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda hyd y dydd heddyw.

2Yna Ananias yr arch-offeiriad a archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymmyl, ei daro ef ar ei enau.

3Yna y dywedodd Paul wrtho: Duw a’th deru di bared gorwyn: canys a ydwyt ti yn eistedd yn fy marnu yn ôl y ddeddf, ac yn gorchymyn fy nharo yn erbyn y ddeddf?

4Yna y dywedodd y sefyll-wŷr wrtho, a gebli di arch-offeiriad Duw?

5A dywedodd Paul, ô frodyr, ni wybum mai arch-offeiriad oedd efe: canys scrifennedic yw: Exod.22.28. na felldithia bennaeth dy bobl.

6A phan ŵybu Paul fod y naill ran o’r Saducæaid, a’r parch arall o’r Pharisæaid, efe a lefodd y y cyngor, ha wŷr frodyr, Pen.24.21. Phil.3.51.(sic.) Pharisæad wyfi, a mab i Pharisæad, ac am obaith adgyfodiad y meirw, yr ydis yn fy marnu.

7A phan ddywedodd efe hyn, y cyfodes ymryson mawr rhwng y Pharisæaid, a’r Saducæaid, a’r dyrfa a aeth yn ddwy-ran.

8 Math.22.23. Canys y Saducæaid a ddywedant na’d oes adgyfodiad, nac angel, nac yspryd: a’r Pharisæaid sy yn addef pob vn.

9Yna y bu llefain mawr, a’r scrifennyddion o du y Pharisæaid a gyfodasant i fynu, ac a ymrysonasant gan ddywedyd: nid ydym ni yn cael dim drŵg yn y dŷn hwn, ac os bu i yspryd neu angel ymddiddan ag ef, nac ymrysonwn â Duw.

10Ac wedi cyfodi terfysc mawr, y pen-capten a ofnodd rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, ac a archodd i’r mil-wŷr syned i wared a’i ddwyn ef o’u plith hwynt, a’i ddwyn i’r castell.

11Yr ail nos yr Arglwydd yn sefyll gyd ag efa ddywedodd, Paul, cymmer gyssur: canys fel y darfu i ti ddwyn testiolaeth o honof yn Ierusalem, felly y mae yn rhaid i ti destiolaethu yn Rhufain hefyd.

12A phan aeth hi yn ddydd: rhai o’r Iddewon a gyfarfuant, ac a wnaethant ddiofryd, gan ddywedyd: na fwytâent, ac nac yfent, nes lladd o honynt Paul.

13Ac yr oedd mwy nâ deugain o’r rhai a wnaethent y cyd-fwriad hwn.

14A hwy a aethant ac yr arch-offeiriaid a’r henuriaid, ac a ddywedasant: darfu i mi ein diofrydu ein hunain i ddiofrydedd na archwaethom ddim nes ini ladd Paul.

15Yn awr gan hynny yspyswch gyd â’r cyngor i’r pen-capten, fod iddo ei ddwyn ef y foru attoch, fel pe byddech chwi ar fedr cael gŵybod yn fanylach ei hanes ef, a ninnau cyn y delo efe yn agos, ydym barod iw ladd ef.

16Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn ymma, efe gan ddyfod i mewn i’r castell a fynegodd i Paul.

17A Phaul a alwodd vn o’r canwriaid atto, ac a ddywedodd: dwg y gŵr ieuangc hwn at y pen capten: canys y mae ganddo beth iw fynegi iddo.

18Ac efe a’i cymmerth, ac a’i dug at y pencapten, ac a ddywedodd: Paul y carcharor a’m galwodd i atto, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuangc ymma atat, yr hwn sydd ganddo beth iw adrodd wrthit.

19Yna y pencapten ai cymmerth erbyn ei law, ac a aeth ag ef o’r neilldu, ac a ofynnodd iddo, Beth sydd gennit iw fynegu i mi?

20Ac efe a ddywedodd, yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn o honot Paul y foru i fynu ir cyngor, fel pe bydde yn eu bryd hwy ymmofyn yn fanylach yn ei gylch ef.

21Ond na choelia di hwynt, canys y mae mwy nâ deugain wr o honynt yn cynllwyn iddo wedi rhoddi ddiofryd na bwyta nac yfed nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwil pa addewid gennit ti.

22Yna y pen-capten a ollyngodd y gŵr ieuangc ymmaith, ac a orchymynnodd iddo na fynyge i neb, ddywedyd o honaw y cyfryw bethau wrtho.

23Ac efe a alwodd atto ddau o gannwriaid, ac a orchymynnodd iddynt baratoi dau cāt o filwyr i fyned hyd yn Cæsarea, a dec a thrugain o wŷr meirch, a deu-cāt o ffynwewŷr, wedi y drydedd awr o’r nos.

24A pheri yscrubliaid yn barod i gael o Paul farchogaeth, i fyned ag ef ac Phelix y rhaglaw yn ddiogel.

25Gan scrifennu llythyr ar yr ystyriaeth ymma.

26Claudius Lysias yn anfon annerch at yr ardderchoccaf rhag law Phelix.

27Myfi yn dyfod gyd â byddin a achubais y gŵr hwn, yr hwn a ddaliasid gan yr Iddewon, ac ydoedd debyg iw ladd gandynt, gan ddeall ei fod ef yn Rhufeiniad.

28A chan ewyllysio gŵybod am ba achos yr achwynenc arno ef, mi ai dygym ef iw cyngor hwynt.

29Yna y deallais achwyn arno am arholion o’u cyfraith hwy, ac nad oedd arno ef vn bai a haedde nac angeu, na charchar.

30A phan ddangoswyd i mi fod yr Iddewon yn cynllwyn i’r gŵr, mi a’i gyrrais ef attaf ar frys, ac a rybuddiais ei gyhudd-wŷr ef, os oedd ganddynt ddim yn ei erbyn ef, ei ddywedyd ger dy fron di: bydd iach.

31Yna y milwŷr megis y gorchymynnasid iddynt a gymmerasant Paul, ac a’i dugasant o hyd nos i Antipatris.

32A thrannoeth gan adel i’r gwŷr meirch fyned gyd ag ef, hwy a ddychwelasant i’r castell.

33Y rhai pan ddaethant i Cæsarea, a dodi y llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.

34Felly wedi darfod i ’r rhaglaw ddarllen, ac ymofyn o ba wlad yr oedd, a gŵybod ei fod ef o Cilicia,

35Efe a ddywedodd: mi a’th wrandawaf di pan ddelo dy gyhuddwyr: ac efe a orchymynnodd ei gadw ef yn nadleu-dŷ Herod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help