Exodus 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVII.1 Allor y poeth offrwm. 9 Cynteddfa y tabernacl. 20 Goleuni gwastadol yn y babell.

1Gwna hefyd allor o goed Sittim o bump cufydd o hŷd, a phump cufydd o lêd, yn bedair-ongl y bydd yr allor, ai huchter o dri chufydd.

2A gwna ei chyrn ar ei phedair congl, o honi ei hun y bydd ei chyrn; a gwisc hi a phrês.

3Gwna hefyd iddi grochanau i dderbyn ei lludw, ai rhawiau, ai chawgiau, ai chigwennau, ai thusserau: ei holl lestri a wnei o brês.

4A gwna iddi alch o brês, ar waith rhwyd, a gwna ar yr rhwyd bedair modrwy o brês ar ei phedair congl.

5A dod hi dann amgylchiad yr allor oddi tannodd, fel y byddo y rhwyd hyd hanner yr allor.

6A gwna drosolion i’r allor trosolion o goed Sittim, a gwisc hwynt a phrês.

7A dod ei throssolion trwy y modrwyau, a bydded y trossolion ar ddau ystlys yr allor pan ddyger hi.

8Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangosodd i ti yn y mynydd, felly y gwnant.

9A gwna gynteddfa y tabernacl ar y tu dehau: troelloc lenni y cynteddfa fyddant sidan gwyn cyfrodedd, o gan cufydd o hŷd yn vn ystlys.

10Ai hugain colofn, ai hugain mortais o brês: pennau y colofnau, ai cylchau o arian.

11Felly o du’r gogledd ar hŷd, lenni troelloc, o gant o hŷd, ai hugain colofn gyd ai hugain mortais o brês: a phennau y colofnau, ai cylchau o arian.

12A llêd y cynteddfa tua’r gorllewin droelloc lenni o ddêc cufydd a deugain: eu colofnau ddêc, ai morteisiau yn ddêc.

13A lled y cynteddfa tua’r dwyrain o godiad haul dêc cufydd, a deugain.

14Y troelloc lenni o’r du bymthec cufydd, eu colofnau yn dair, ai morteisiau yn dair.

15Ac i’r ail tu pymthec troelloc lenn, eu tair colofn ai tair mortais.

16Ac i borth y cynteddfa caead lenn o vgein cufydd o sidan glâs, porphor, ac scarlat, ac o sidan gwyn cyfrodedd o wniad-waith: eu pedair colofn, ai pedair mortais.

17Holl golofnau y cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian, ai pennau yn arian, ai morteisiau yn brês.

18Hŷd y cynteddfa cant cufydd, ai lêd dêc a deugain o bob tu: a phump cufydd o vchter o sidan gwyn cyfrodedd, ai morteisiau prês.

19Holl lestri y tabernacl yn eu holl wasanaeth, ai holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa fyddant o brês.

20A gorchymyn dithe i feibion Israel ddwyn o honynt attat bûr olew’r olewydden coethedic yn oleuni, i beri i’r lusernau ennyn yn oestad.

21Ym mhabell y cyfarfod o’r tu allan i r wahanlenn yr hon o flaen y destiolaeth y trefna Aaron, ai feibion hwnnw o’r hwyr hyd y borau, ger bron yr Arglwydd yn ddeddf dragwyddol trwy eu hoesoedd gan feibion Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help