1 Ynot ti ô Arglwydd y gobeithiais, na’m cywilyddier byth.
2Achub fi, a gwaret fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust attaf, ac achub fi.
3Bydd i mi’n graig gadarn, i ddyfod iddi bob amser: addewaist fy achub, canys ti yw fyng-hraig a’m hamddeffynfa.
4Gwaret fi ô Dduw o law’r annuwiol, o law y trofaus, a’r traws.
5Canys ti yw fyng-obaith ô Arglwydd Dduw, fyng-obaith o’m ieuengctid.
6Wrthit ti i’m cynhaliwyd o’r bru, ti a’m tynnaist o grôth fy mam: fy mawl yn wastad am danat ti.
7Oeddwn i lawer megis yn anghenfil, eithr ty di fyng-hadarn obaith.
8Llanwer fyng-enau a’th foliant, dy ogoniant beunydd,
9Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wrthot fi pan ddarfyddo fy nerth.
10Canys fyng-elynnion ydynt yn chwedleua i’m herbyn, a’r rhai a ddisgwiliasant am fy enaid, a gyd-ymgynghorâsant.
11Gan ddywedyd, Duw ai gwrthododd ef, erlidiwch, a deliwch ef, canys nid gwaredudd.
12O Dduw na fydd bell oddi wrthif, fy Nuw bryssia i’m cymmorth.
13Cywilyddier, a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid, â gwarth ac â gwradwydd y gorchguddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
14Minne a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwy-fwy.
15Fyng-enau a fynêga dy gyfiawnder, a’th iechydwriaeth beunydd: canys ni wn rifedi
16Yng-hadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf, dy gyfiawnder di yn vnic a gofiaf fi.
17O’m ieuengctid i’m dyscaist ô Dduw, am hynny y mynegaf dy ryfeddodau hyd yn hyn.
18Na wrthot fi ychwaith ô Dduw mewn henaint, a phen-llwydni, hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth a’th gadernid i bob vn a ddelo.
19Dy gyfiawnder ô Dduw a aeth yn vchel yr hwn a wnaethost mawrion, pwy ô Dduw fel tydi?
20Yr hwn a wnaethost i mi weled aml a drygionus gystudd, dychwelaist bywheaist fi, dychwelaist a chyfodaist fi o orddyfnder y ddaiar.
21Amlhei fy mawredd, troi hefyd chyssuri fi.
22Minne a’th foliannaf ô Dduw ar offeryn nabl dy wirionedd: cânaf it a’r delyn ô Sanct Israel.
23Fyng-wefusau fyddant hyfryd pan ganwyf i ti, a’m henaid yr hwn a warêdaist.
24Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd, o herwydd cywilyddio, am wradwyddo y rhai a geisiant niwed i mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
