1Pa fodd y mae y ddinas aml phobl yn eistedd ei hunan? y mae y luosog ym mhlith y cenhedloedd megis yn weddw? y mae tywysoges y talaithau tann deyrn-ged?
2Y mae hi yn ŵylo yn hidl liw nos, ac ei dagrau ar ei gruddiau hi heb oi chariadau yn tosturio wrthi hi: ai holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, a aethant yn elynnion iddi.
3Iuda a fudodd ymmaith gan flinder, a chan amlder caethiwed; y mae hi yn aros ym mysc y cenhedloedd, ac heb gael gorphywystra: ei holl erlid-wŷr ai goddiweddasant hi mewn lloedd cyfyng.
4Y mae ffyrdd Sion yn galaru o eisieu rhai yn dyfod i’r ŵyl arbennic: ei holl byrth hi anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn vcheneidio, ei morwynion yn ofidus, a hithe yn flîn arni.
5Ei gwrthwyneb-wŷr ydynt bennaf, y mae ei gelynnion yn ffynnu, am fod yr Arglwydd yn ei gofidio hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn.
6Holl harddwch merch Sion a ymadawodd â hi, y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlid-wŷr.
7Y mae Ierusalem, yn nyddiau ei blinder, gwrthryfelgarwch yn cofio ei holl hyfrydwch, y rhai oedd gynt pan syrthiodd phobl hi yn llaw y gelyn heb yn ei chynnorthwyo hi: y gelynnion a welsant ac a chwarddasant am ei Sabbothau.
8Ierusalem a wnaeth bechod, am hynny y methodd hi, yr holl rai ai hanrhydeddent hi sy yn ei diystyru hi, o herwydd iddynt weled ei noethni hi: îe, y mae hi yn vcheneidio wedi ei throi yn ei hôl.
9Y mae ei godreu hi yn aflan, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd, am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb yn ei tosturio wrthi hi: edrych Arglwydd ar fy mlinder, am falchio o’r gelyn.
10Y gwrthwyneb-ŵr a estynnodd ei law ar ei holl dlysau hi, hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn iw chyssegr, i’r rhai y gorchymynasit ti, na ddelent i’th gynnulleidfa.
11Y mae ei holl bobl hi yn vcheneidio, ac yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu tlysau am fwyd i ddadebru yr enaid, edrych Arglwydd a gwêl di mai dirmygus ydwyfi.
12Onid gwaeth gennych chwi y fforddolion oll gwelwch ac edrychwch a oes y fâth ofid a’m gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi? a’r hwn y mae yr Arglwydd yn fyng-ofidio yn nydd ei ddigter.
13O’r vchelder yr anfonodd efe dân i’m hescyrn i, yr hwn ai lloscodd hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a’m dychwelodd fi yn ôl, efe a’m gwnaeth fi yn anrhaithiedic yn ofidus byth,
14Rhwymwyd iau fyng-hamweddau ai law ef, hwy a ymblethasant, ac a ddaethant i fynu am fyng-wddf: efe a wnaeth i’m nerth syrthio, yr Arglwydd a’m rhoddodd mewn dwylo, ni allaf gyfodi.
15Yr Arglwydd a sathrodd fy holl rai grymmus o’m mewn, efe a gyhoeddodd i’m herbyn amser terfynedic i ddifetha fyng-wŷr ieuaingc: gwin-wryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn merch Iuda.
16Am hyn yr ydwyf yn ŵylo, y mae fy llygaid yn diferu y dwfr, o herwydd pellhau oddi wrthif diddanwr yr hwn a ddadebre fy enaid, bôd fy meibion yn anrhaithiedic, am i’r gelyn orchfygu.
17Sion a ledodd ei dwylo, heb a dosturie wrthi hi, yr Arglwydd a osododd ei elynnion yng-hylch Iacob, Ierusalem sydd ffiaidd yn eu mysc hwynt.
18Cyfiawn yw’r Arglwydd, o blegit myfi a fum anufydd iw air ef, gwrandewch atolwg chwi bobloedd oll, a gwelwch fyng-ofid: fy morwynion, a’m gwŷr ieuaingc a aethant i gaethiwed.
19Gelwais am fyng-hariadau, hwy a’m twyllasant fi, fy offeiriaid a’m henaf-gwŷr a fuant feirw yn y ddinas: tra fuant hwy yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid.
20Gwel di ô Arglwydd fod yn gyfyng arnaf, fy emyscaroedd a gyffroasant, fyng-halon a drôdd ynof; o herwydd fy mod yn rhy anufydd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, fel marwolaeth gartref.
21Clywsant fy mod i yn vcheneidio, nid a dosturio wrthifi, fy holl elynnion glywsant fy nryg-fyd a lawenychasant, am i ti wneuthur ti a ddygi i benn y dydd a gyhoeddaist, pan fyddant hwy fel innef.
22Deued eu holl ddrygioni hwynt o’th flaen di, a gwna di iddynt hwy fel y gwnaethost i minnef am fy holl gamweddau: o blegit fy vcheneidiau yn aml, a’m calon yn ofidus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.