1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Ieremi o achos y drudaniaeth.
2Galarodd Iuda, ai phyrth a lescauasant, a ostyngwyd i lawr drwy dristwch, a gwaedd Ierusalem a dderchafodd i fynu.
3Eu boneddigion a hebryngasant eu gweryn am ddwfr, daethant i’r ffynhonnau, ni chawsant ddwfr: dychwelasant ai llestri yn weigion, cywilyddio, a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau.
4O blegit anrheithio’r ddaiar am nad oedd glaw ar y ddaiar, cywilyddiodd y llafur-wŷr a chuddiasant eu pennau.
5Ie yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac gadawodd, am nad oedd wellt.
6A’r assynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd vchel: yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwynt a ballasant, am nad oedd gwellt.
7O Arglwydd, os ein anwiredd ni a destiolaetha i’n herbyn, gwna er mwyn dy enw dy hun: canys aml yw ein cildynrwydd ni, pechasom i’th erbyn.
8Gobaith Israel ai geidwad yn amser adfyd, pa ham y byddi megis pereryn ar y ddaiar? ac fel ymdeithudd yn troi i letteua?
9Pa ham y byddi megis gŵr synn? fel gŵr cadarn heb allu achub? yr ydwyt ti yn ein mysc ni Arglwydd, a’th enw di a elwir arnom, nac ymado â ni.
10Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y bobl hyn, fel hyn y chwennychasant hwy gyrwydro, ac ni attaliasant eu traed: am hynny ni’s mynne yr Arglwydd hwy: yr awr hon y coffa efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwel ai pechodau.
11Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthif: Ier.7.16. Ier.11.14.na weddia tros y bobl hyn am ddaioni.
12Pan ymprydiant ni wrandawaf eu gwaedd hwynt, a phan offrymmant boeth offrwm a bwyd offrwm ni byddaf bodlon iddynt: canys a’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difâf hwynt.
13A dywedais, ô Arglwydd Dduw, wele mae yr prophwydi yn dywedyd wrthynt ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn attoch, eithr mi a roddaf heddwch siccr i chwi yn y lle ymma.
14Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthif: y Ier.23.21. Ier.27.10.prophwydi sy yn prophwydo celwydd yn fy enw i, nid anfonais hwy, ni orchymynnais iddynt ychwaith, ac ni ddywedais wrthynt: gau weledigaeth a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calonnau eu hun y maent hwy yn eu prophwydo i chwi.
15Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, am y prophwydi sy yn prophwydo yn fy enw i, a minne heb eu hanfon hwynt, y rhai hyn a ddywedant, cleddyf a newyn ni bydd yn y tîr hwn, trwy gleddyf a newyn y difethir y prophwydi hynny.
16A’r bobl y rhai y maent yn prophwydo iddynt a fwrir yn heolydd Ierusalem o herwydd y newyn a’r cleddyf, ac ni bydd neb iw claddu hwynt: y nhwy, ai gwragedd, ai meibion, ai merched: felly y tywalltaf arnynt eu drygioni.
17Am hynny y dywedi wrthynt y gair ymma, difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys â briw mawr y briwyd y wyryf merch fy mhobl, a phlâ tost iawn.
18Os âfi allan i’r maes wele gelaneddau y cleddyf: ac o deuaf i mewn i’r ddinas wele rai llesc o newyn: canys y prophwyd, a’r offeiriad hefyd sy yn amgylchu i dîr ni’s adwaenant.
19Gan wrthod a wrthodaist ti Iuda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Sion? pa ham y tarewaist ni fel nad oes i ni feddyginiaeth? disgwil am heddwch etto ni daioni, ac am amser iechyd, ac wele flinder.
20Yr ydym yn cydnabod Arglwydd ein camwedd anwiredd ein tadau, o blegit ni a bechasom yn dy erbyn di.
21Na ddirmygaa ni er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr eisteddfa dy ogoniant: coffa, ac na thor â ni dy gyfammod:
22A oes neb ym mhlith Ier.10.15.oferedd y cenhedloedd a wna glawio? neu a rydd y nefoedd gafodau? ond ti ô Arglwydd ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwiliwn ni, canys ti a wnaethost y rhai hynny oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.