2.Timotheus 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Y mae efe yn annog i fod yn ddianwadal, ac yn ddioddef gar, 11 gan ddangos ffyddlon amcan Duw yng-hylch cadwedigaerh y rhai sy eiddo ef, 21 a nod y rhai hynny.

1Tithe gan hynny fy mâb ymnertha yn y grâs sydd yng-Hrist Iesu,

2A’r pethau a glywaist gennif trwy lawer o dystion, traddoda hynny i ddynion y rhai fyddant gymmwys i ddyscu eraill hefyd.

3Tithe goddef gystudd, megis mil-wr da i Iesu Grist.

4Nid oes neb yn milwrio yr hwn a ymrwyda â negeseuau y fuchedd hon, er mwyn iddo ryngu bodd i’r hwn a’i dewisodd yn filŵr.

5Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef oddi eithr iddo ymdrech yn gyfreithlon.

6Rhaid yw i’r llafurwr gan lafurio yn gyntaf dderbyn y ffrwythau.

7Ystyria yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, a’r Arglwydd a roddo it ddeall ym mhob dim.

8Cofia Iesu Grist o hâd Dafydd, ei gyfodi ef o feirw yn ôl fy Efengyl i.

9Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd fel gweithred-wr drwg hyd rwymau, eithr gair Duw ni rwymir.

10Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn y 2.Cor.1.4.|2CO 1:4. Col.1.24.detholedigion, fel y gallent hwythau gael yr iechydwriaeth yr hon sydd yng-Hrist Iesu gyd â gogoniant tragywyddol.

11Gwir yw’r gair, Rufei.6.5.os meirw ydym gyd ag ef, y byddwn hefyd fyw gyd ag ef.

12Os dioddefwn, ni a gyd deyrnaswn, Math.10.33. Mar.8.38.os gwadwn yntef hefyd a’n gwada ninnau.

13Os nyni Rufei.3.3.ni chredwn efe a erys yn ffyddlon: ni all efe ei wadu ei hun.

14Dwg hyn ar gof gan destiolaethu ger bron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson yng-hylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, i ddadymchwelyd y gwranda-wyr.

15Ymddyro i’th osod dy hun yn brofedig i Dduw, yn weithiwr difefl, yn iawn barthu gair y gwirionedd.

16 1.Tim.4.7. Tit.3.9. Gwilia halogedic ofer-sain, canys cynnyddu a wnânt i fwy o annuwiolded.

17A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus, a Philetus.

18Y rhai hyn am y gwirionedd a ŵyrasant oddi wrth y nôd, gan ddywedyd ddarfod eusus y cyfodedigaeth, ac y maent yn dadymchwel ffydd rhai.

19Eithr y mae sail Duw yn sefyll yn ddiogel, ac iddo y sêl hon, yr Arglwydd a ŵyr pwy sydd eiddo ef, ar ymadawed ag anghyfiawnder y neb a henwo henw Crist.

20Eithr mewn ty mawr ni bydd yn vnic llestri o aur, ac arian, ond hefyd o bren a phridd, a rhai i barch, a rhai i ammarch.

21Os neb gan hynny a’i glanhâei hunan oddi wrth y pethau hyn, efe fydd lestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn fuddiol i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.

22Ffo di hefyd oddi wrth chwantau ieuengtid, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, a thangneddyf gyd â’r rhai sy yn 1.Cor.1.2.galw ar yr Arglwydd o galon bur.

23 1.Tim.1.4. Titus 3.9. A dod ymmaith ynfyd, ac annyscedig gwestiwnau, gan ŵybod mai magu ymryson y maent.

24Ac ni ddyle gwâs yr Arglwydd ymryson, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, ac yn ddioddefgar,

25Gan addyscu yn addfwyn y rhai gwrthwynebus, a roddo Duw ryw amser iddynt hwy edifeirwch i gydnabod y gwirionedd,

26A bod iddynt hwy ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help