1Ac i ŵr Naomi cyfathrachwr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, ai henw Booz.
2Yna Ruth y Moabies a ddywedodd wrth Naomi, mi a âf yn awr i’r maes, ac a gasclaf dwysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafor yn ei olwg: hithe a ddywedodd wrthi hi, dos fy merch.
3Ac hi aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medel-wŷr: a digwyddodd wrth ddamwain y rhan honno o’r maes yn eiddo Booz yr hwn o dŷlwyth Elimelech.
4Ac wele Booz a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medel-wŷr, yr Arglwydd gyd a chwi: hwythau a ddywedasant wrtho ef, yr Arglwydd a’th fendithio.
5Yna y dywedodd Booz wrth y llangc yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medel-wŷr: pwy pieu y llangces hon?
6A’r llangc yr hwn oedd yn sefyll wrth y medel-wŷr a attebodd, ac a ddywedodd: llangces o Moab hi, yr hon a ddychwelodd gyd a Naomi o wlâd Moab:
7A hi a ddywedodd, attolwg yr ydwyf gael lloffa, a chynnull dyrneidiau ar ôl y medel-wŷr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y boreu hyd yr awr hon: oddieithr eistedd o honi hi ychydic yn tŷ.
8Yna y dywedodd Booz wrth Ruth, oni chlywi di fy merch? Na ddos ymmaith i gasclu i faes arall, ac na thrammwya oddi ymma: eithr aros ymma gyd a’m llangcesau mau fi.
9[Bydded] dy lygaid ar y maes yr hwn a fedant hwy, a dôs ar eu hôl hwynt, oni orchymynnais i’r llangciau na chyffyrddent a thi? pan sychedech, dos yna at y llestri, ac ŷf o honynt yr hyn a ollyngo y llangciau.
10Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymmodd i lawr: ac a ddywedodd wrtho ef, pa ham y cefais ffafor yn dy olwg di, fel yr adwaenit fi, a minne yn alltudes?
11A Booz a attebodd, ac a ddywedodd wrthi hi, gan fynegu y mynegwyd i mi ’r hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr: fel y gadewaist dy dâd a’th fam, a gwlâd dy anedigaeth, ac y daethost at bobl y rhai nis adwaenit o’r blaen.
12Yr Arglwydd a dâlo am dy waith: a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel yr hwn y daethost i obeithio tann ei adenydd.
13Yna hi a ddywedodd, caffwyf ffafor yn dy olwg di fy arglwydd, gan i ti fyng-hyssuro i, a chan i ti lefaru wrth calon dy wasanaeth-ferch, er nad ydwyf fel vn o’th law-forwynnion di.
14A dywedodd Booz wrthi hi, yn amser bwyd tyret ymma, a bwytta o’r bara, a throcha dy dammed mewn finegr: a hi a eisteddodd wrth ystlys y medel-wŷr, ac efe a estynnodd iddi gras-ŷd; a hi a fwyttaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.
15A hi a gyfododd i loffa: a gorchymynodd Booz iw weision, gan ddywedyd, lloffed hefyd rhwng yr yscubau, ac na feiwch arni hi.
16A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi o’r yscubau: a gadewch fel y casclo hi, ac na cheryddwch hi.
17Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a gasclase hi, ac yr oedd yng-hylch Epha o haidd.
18A hi ai cymmerth, ac a aeth i’r ddinas, ai chwegr a ganfu ’r hyn a gasclase hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi ’r hyn a weddillase hi wedi cael digon.
19Yna y dywedodd ei chwegr wrthi hi, pa Ie y lloffaist heddyw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigêdic: a hi a yspysodd iw chwegr yr hwn y gweithiase hi gyd ag ef, ac a ddywedodd, henw ’r gwr yr hwn y gweithiais gyd ag ef heddyw Booz.
20Yna y dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, bendîgedic efe gan yr Arglwydd yr hwn ni phaid ei drugaredd tua’r rhai byw, a’r rhai meirw: dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, agos i ni ’r gŵr hwnnw, * o’n cyfathrach ni efe.
21A Ruth y Moabies a ddywedodd, efe a ddywedodd hefyd yn ddiau wrthif, gyd a’r llangciau y rhai gennif yr arhosi nes gorphen yr holl gynhaiaf yr hwn i mi.
22A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd: dâ fy merch i ti fyned gyd ai langcesi ef, fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall.
23Felly hi a ddilynodd langcesau Booz i loffa, nes darfod cynhaiaf yr haidd, a chynhaiaf y gwenith: ond hi a drigodd gyd ai chwegr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.