Exodus 29 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIX.Y modd y cyssegryd offeiriaid Lefi. 38 yr aberth gwastadol.

1Dymma hefyd y peth yr hwn a wnei di iddynt hwy wrth eu cyssegru, i offeiriadu i mi: Leuit.9.2.cymmer vn bustach ieuangc, a dau hwrdd perffeith-gwbl.

2A bara croiw, a theisennau croiw wedi eu cymmyscu ag olew, ac afrllad croiw wedi eu hiro ag olew: o beillied gwenith y gwnei hwynt.

3A dod hwynt mewn vn cawell, a dwg yn y cawell hwynt gyda’r bustach a’r ddau hwrdd.

4Dwg hefyd Aaron ai feibion i ddrws pabell y cyfarfod: a golch hwynt a dwfr.

5A chymmer y gwiscoedd a gwisc am Aaron y bais, a mantell yr Ephod, a’r Ephod hefyd, a’r ddwyfronnec: a gwregyssa a gwregys yr Ephod.

6A gosot y meitr ar ei benn ef, a dod y Exod.28.36.goron gyssegredic ar y meitr.

7Yna y cymmeri Exod.30.23.olew’r eneiniad, ac y tywellti ar ei benn ef: ac yr enneini ef.

8A dwg ei feibion ef: a gwisc beisiau am danynt.

9A gwregysa hwynt a gwregysau, Aaron ai feibion, a gwisc hwynt a chappiau fel y byddo yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragywyddol: Exod.28.41.felly y cyssegri Aaron ai feibion.

10A phar di ddwyn y bustach ger bronn pabell y cyfarfod: a Lefit.1.4.rhodded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn y bustach.

11Yna lladd y bustach ger bron yr Arglwydd: ddrws pabell y cyfarfod.

12A chymmer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor a’th fŷs: a thywallt yr holl waed wrth droed yr allor.

13 Lef.3.3. Cymmer hefyd yr holl wêr a fydd yn gorchguddio y perfedd, a’r rhwyden ar yr afi, a’r ddwy aren, a’r gwêr yr hwn arnynt: a llosc ar yr allor.

14Ond cîg y bustach ai groen, ai fiswel, a losci mewn tân, o’r tu allan i’r gwersyll: aberth tros bechod yw.

15Cymmer hefyd vn hwrdd: a gosoded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn yr hwrdd.

16Wedi y lleddech yr hwrdd: cymmer ei waed ef a thaenella ar yr allor o amgylch.

17A darnia yr hwrdd yn ddarnau: a golch ei berfedd, ai draed, a dod hwynt yng-hyd ai ddarnau, ac ai benn.

18Felly y llosci yr hwrdd ar yr allor, poeth offrwm i’r Arglwydd yw: arogl esmwyth aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.

19A chymmer yr ail hwrdd: a rhodded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn yr hwrdd.

20Yna lladd yr hwrdd, a chymmer oi waed, a dod ar flaen clust ddehau Aaron, ac ar flaen clust ddehau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddehau hwynt, ac ar fawd eu troed dehau hwynt: a thaenella y gwaed ar yr allor o amgylch.

21A chymmer o’r gwaed yr hwn a fyddo ar yr allor, ac olew’r eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wiscoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wiscoedd ei feibion gyd ag ef: felly sanctaidd fydd efe ai wiscoedd, ei feibion hefyd, a gwiscoedd ei feibion gyd ag ef.

22Cymmer hefyd o’r hwrdd Leuit.8.25.y gwêr, a’r gloren, a’r gwêr yr hwn sydd yn gorchguddio y perfedd, a rhwyden yr afi, a’r ddwy aren a’r gwêr yr hwn arnynt, a’r yscwyddoc ddehau: canys hwrdd cyssegriad yw.

23Ac vn dorth o fara, ac vn deisen o fara olewedic, ac vn afrlladen o gawell y bara croiw yr hwn ger bron yr Arglwydd.

24A dod y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion: a chwhwfana hwynt yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd.

25A chymmer hwynt ganddynt, a llosc ar yr allor yn boeth offrwm: yn arogl esmwyth ger bron yr Arglwydd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.

26Cymmer hefyd barwyden hwrdd y cyssegriad yr hwn tros Aaron, a chyhwfana ef yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd: ac i ti y bydd yn rhann.

27A sancteiddia barwyden yr offrwm cwhwfan, ac yscwyddoc yr offrwm derchafel, yr hwn a gwhwfanwyd, a’r hwn a dderchafwyd, o hwrdd y cyssegriad, o’r hwn tros Aaron, ac o’r hwn tros ei feibion.

28Ac i Aaron ai feibion y bydd yn ddeddf dragywyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm derchafel yw, ac offrwm derchafael a fydd oddi wrth feibion Israel, oi haberthau hedd eu hoffrwm derchafel i’r Arglwydd.

29A’r dillad sanctaidd y rhai a i Aaron a fyddant iw feibion ar ei ol ef: iw heneinio ynddynt, ac iw cyssegru.

30Yr hwn oi feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, ai gwisc hwynt saith niwrnod: pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cyssegr.

31A chymmer hwrdd y cyssegriad, a berw ei gîg yn y lle sanctaidd.

32A bwytaed Aaron ai feibion gîg yr hwrdd, Lefit.8.31.|LEV 8:31. Matt.12.4.a’r bara yr hwn yn y cawell: ddrws pabell y cyfarfod.

33Felly hwynt a fwytânt y pethau hyn y rhai y gwnaed iawn a hwynt wrth eu cyssegru hwynt ai sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwytta, canys cyssegredic ydynt.

34Ac os gweddillir o gig y cyssegriad, neu o’r bara hyd y boreu: yna ti a losci y gweddill a thân, ni cheir ei fwytta o blegit cyssegredic yw.

35A gwna i Aaron, ac iw feibion, yn ôl yr vn modd, yn ol yr hyn oll a orchymynnais it: saith niwrnod y cyssegri hwynt.

36A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth tros bechod, er iawn: a glanhâ’r Allor pan wnelech iawn arni, ac eneinia hi iw chyssegru.

37Saith niwrnod y gwnei iawn ar yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaiddbeth cyssegredig, pob peth a gyffyrddo a’r allor a sancteiddir.

38A dymma yr hyn a offrymmi ar yr allor: dau oen flwyddiaid bob dydd yn oestadol.

39Yr oen cyntaf a offrymmi di y borau: a’r ail oen a offrymmi di yn y cyfnos.

40A chyd a’r oen cyntaf decfed rann o beillied wedi ei gymmyscu trwy bedwaredd rann Hinn o olew coethedic, a phedwaredd rann Hinn o wîn yn ddiod offrwm.

41A’r ail oen a offrymmi di yn y cyfnos: ti a wnei iddo yr vn modd, ac i fwyd offrwm, ac i ddiod offrwm y borau, i fod yn arogl esmwyth yn aberth tanllyd i’r Arglwydd:

42Yn boeth offrwm gwastadol drwy eich oesoedd ddrws pabell y cyfarfod ger bronn yr Arglwydd: lle y cyfarfyddaf a chwi i lefaru wrthit yno.

43Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf a meibion Israel: ar a sancteiddir drwy fyng-ogoniant mau fi.

44A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor: ac Aaron ai feibion a sancteiddiaf i offeiriadu i mi.

45A Lefit.26.12. 2.Cor.6.16.mi a bresswyliaf ym mysc meibion Israel: ac a fyddaf yn Dduw iddynt.

46Yna y caant wybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw hwynt, yr hwn ai dygais hwynt allan o dir yr Aipht fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi yr Arglwydd eu Duw hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help