1Pan Dafydd yn hên, ac yn gyflawn o ddyddiau: 1.Bren.1.30.yna y gosododd efe Salomon ei fab yn frenin ar Israel.
2Ac efe a gasclodd holl dywysogion Israel: yr offeiriaid hefyd, a’r Lefiaid.
3A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng-mlwydd ar hugain, ac vchod: ai nifer hwy wrth eu pennau bob yn ŵr onid dwy fil deugain.
4O’r rhai hyn pedair mîl ar hugain i orchwylio ar waith tŷ yr Arglwydd: y swyddogion hefyd, a’r rhaglawiaid chwe mil.
5A phedair mîl yn borthorion, a phedair mil yn moliannu’r Arglwydd a’r offer y rhai a wnelswn i iw foliannu.
6Yna 1.Cron.6.1. Exod.6.17.y dosparthodd Dafydd ddosparthiadau, yn ôl meibion Lefi Gerson, Cehath, a Merari.
7O’r Gersoniaid Laadan, a Semei.
8Pen meibion Laadan dri, Iehiel, a Zethan, ac Ioel.
9Meibion Semei dri, Selomith, a Haziel, a Haran: y rhai hyn bennau cenhedl Laadan.
10Meibion Semei hefyd Iahath, Zina, Ieus hefyd, a Beriah: Dyna bedwar mab Semei.
11Ac Iahath oedd bennaf, yna Ziza yn ail: ond i Ieus, a Beriah nid oedd nemmor o feibion, am hynny yr oeddynt hwy yn vn genhedlaeth o gyfrif.
12Meibion Cehath bedwar, Amram, Isahar, Hebron, ac Uzziel.
13Meibion Exod.2.2. & 6.20. Heb.5.5.Amram Aaron, a Moses: ac Aaron a nailltuwyd i sancteiddio y cyssegr sancteiddiolaf, efe ai feibion byth, i arogldarthu ger bron yr Arglwydd, iw wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.
14Moses hefyd ŵr Dduw, ei feibion ef a alwyd gyd a llwyth Lefi.
15Meibion Moses Gersom, ac Eliezer.
16[O] feibion Exod.2.22. & 18.3.Gersom, Sebuel y pennaf.
17A meibion Eliezer oeddynt Rehabia y cyntaf: ac i Eliezer nid oedd meibion eraill, a meibion Rehabia a amlhausant yn ddir-fawr.
18Meibion Isahar, Selomith y pennaf.
19Meibion Hebron, Ieriahu y cyntaf, Amaria’r ail, Iahaziel y trydydd, ac Iecamiam y pedwerydd.
20Meibion Uzziel Mica y cyntaf, ac Iesia’r ail.
21Meibion Merari Mahali, a Musi: meibion Mahali, Eleazar, a Chis.
22A bu farw Eleazar, a meibion nid oeddynt iddo ef, ond merched: a meibion Cis eu brodyr ai priodasant hwy.
23Meibion Musi dri: Mahali, ac Eder, ac Ieremoth.
24Dymma feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau pennau cenedl wrth eu rhifedi, dann nifer henwau wrth eu pennau, y rhai oeddynt yn gwneuthur gwaith yng-wasanaeth tŷ’r Arglwydd o fab vgain mlwydd ac vchod.
25Canys dywedodd Dafydd, Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch iw bobl, i aros yn Ierusalem byth.
26Ac nid hefyd i’r Lefiaid ddwyn y tabernacl, ai holl lestri iw gwasanaeth.
27Canys yn ôl geiriau diweddaf Dafydd, dymma nifer meibion Lefi o fab vgain mlwydd ac vchod.
28Ai gwasanaeth hwynt tann law meibion Aaron yng-wenidogaeth tŷ’r Arglwydd yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac yn y puredigaethfa, ym mhob sanctaidd beth, a gwaith gwenidogaeth tŷ Dduw.
29Yn y bara gosod hefyd, ac yn y peillied, yn y bwyd offrwm, ac yn yr afrllad croiw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrio: ac ym mhob mesur, a meidroldeb.
30Ac i sefyll bob borau i foliannu, ac i ogoneddu yr Arglwydd: felly hefyd bryd nawn.
31Ac i offrymmu pob offrwm poeth i’r Arglwydd ar y Sabbothau, ar y newydd loerau, ac ar y gwyliau arbēnic wrth rifedi yn ôl y ddefod arnynt yn wastadol ger brō yr Arglwydd.
32Cadwant hefyd orchwyliaeth pabell y cyfarfod, a gorchwyliaeth y cyssegr, a gorchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr hwynt, yng-wasanaeth tŷ’r Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.