1A bu gair Samuel wrth holl Israel: ac Israel a aeth i gyfarfod a’r Philistiaid i ryfel, a gwerssyllasant ger llaw Eben-ezer a’r Philistiaid a werssyllasant yn Aphec.
2A’r Philistiaid a ymdaclasant i gyfarfod ag Israel, a’r gâd a ymledodd, alladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: canys a darawsant o’r fyddin yn y maes yng-hylch pedair mil o wŷr.
3Yna y daeth y bobl i’r gwerssyll, ac henuriaid Israel a ddywedasant, pa ham y tarawodd yr Arglwydd ni heddyw o flaen y Philistiaid? cymmerwn attom o Silo Arch cyfammod yr Arglwydd, a deled i’n mysc ni, fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.
4Felly y bobl a anfonoddi i Silo, ac a ddugasant oddi yno Arch cyfammod Arglwydd y lluoedd yr hwn Exod.25.17.sydd yn aros y Cerubiaid, ac yno dau fab Eli, Hophni, a Phinees gyd ag Arch cyfammod yr Arglwydd.
5Ac wrth ddyfod o Arch cyfammod yr Arglwydd i’r gwerssyll, yna holl Israel a floeddiasant a bloedd ddirfawr, fel y dadseiniodd y ddaiar.
6Yna y clybu y Philistiaid lais y floedd, ac a ddywedasant: pa beth llais y floedd fawr hon yng-werssyll yr Hebræaid? a gwybuant mai Arch yr Arglwydd a ddaethe i’r gwerssyll.
7A’r Philistiaid a ofnasant, o herwydd hwy a ddywedasant, Duw a ddaeth i’r gwerssyll: dywedasant hefyd, gwae ni canys ni bu yr fath beth o flaen hyn.
8Gwae ni, pwy a’n gwared ni o law y Duwiau nerthol hyn? dymma y Duwiau hynny a darawsant yr Aiphtiaid a phôb plâ yn yr anialwch.
9Ymgryfhewch, a byddwch fel gwŷr ô Philistiaid, rhac i chwi wasanaethu yr Hebræaid Barn-wyr.13.1fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch gan hynny fel gwŷr, ac ymleddwch.
10A’r Philistiaid a ymladdasant, a lladdwyd Israel, a ffoawdd pawb iw babell, a bu plâ mawr iawn: canys syrthiodd o Israel ddengmil ar hugain o wŷr traed.
11Ac Arch Duw a ddygwyd ymmaith, a dau fab Eli, Hophni, a Phinees a fuant feirw.
12A gŵr Beniamin a redodd o’r fyddin, ac a ddaeth i Silo y diwrnod hwnnw, ai ddillad wedi rhwygo a phridd ar ei ben.
13Pan ddaeth efe, wele yna Eli yn eistedd ar eisteddfa llaw yr ffordd yn disgwil, canys yr oedd ei galon ef yn ofni am Arch Dduw: a’r gŵr a ddaeth i fynegu i’r ddinas, a’r holl ddinas a waeddodd.
14Pan glywodd Eli lais y waedd, yna y dywedodd efe, beth llais y cynnwrf ymma? a’r gŵr a fryssiodd, ac a ddaeth, ac a fynegodd i Eli.
15(Ac Eli fab tair blwydd ar bymthec a phedwar vgain, Pen.3.2.a phallase ei lygaid ef fel na alle efe weled. )
16A’r gŵr a ddywedodd wrth Eli, myfi sydd yn dyfod o’r fyddin, myfi hefyd a ffoes heddyw o’r fyddin: a dywedodd yntef, pa beth a ddigwyddodd fy mab?
17Yna y gennad a attebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffoawdd o flaen y Philistiaid, a bu hefyd blâ mawr ym mysc y bobl, a’th ddau fab hefyd Hophni a Phinees a fuant feirw, ac Arch Dduw a ddygpwyd ymmaith.
18A phan grybwyllodd efe am Arch Dduw, yna yntef a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yng-ŵysc ei gefn ger llaw y porth, ac ascwrn ei wddf ef a dorrodd, ac efe a fu farw, canys y gŵr hên a thrwm: ac efe a farnase Israel ddeugain mlhynedd.
19Ai waudd ef, gwraig Phinees oedd feichiog i escor, pan glybu sôn am ddwyn ymmaith Arch Dduw, a marw oi chwegrwn, ai gŵr: yna hi a ymgrymmodd, ac a escorodd, canys ei gwewyr a ymdroesent ynddi.
20Ac yng-hylch y prŷd y bu hi farw, y dywedodd y rhai oddynt yn sefyll gyd a hi, nac ofna, canys ar fab yr escoraist, ond nid attebodd hi, ac nid ystyriodd.
21Ond hi a alwodd y bachgen Ichabod, gan ddywedyd, y gogoniant a ymadawodd a Israel: am gymmeryd ymmaith Arch Dduw, ac am ei chwegrwn ai gŵr.
22Hi a ddywedodd trachefn, y gogoniant a ymadawodd a Israel, am ddwyn ymmaith Arch Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.