1AC yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Darius, Aggeus a Zacharias mab Ido y prophwydi a brophwydasant i’r Iddewon, ac i’r rhai in Iuda, ac yn Ierusalem, yn enw Arglwydd Dduw Israel wrthynt hwy.
2Yna Zorobabel mab Salathiel, ac Iesus mab Iosedec a safasant i fynu, ac a ddechreuasant adailadu tŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Ierusalem, prophwydi yr Arglwydd oeddynt gyd â hwynt yn eu cynnorthwyo.
3Yn y cyfamser hwnnw Sisinnes llywawdr Syria a Phenice, a Sathrabuzanes ai gyfeillion a ddaethant attynt hwy, ac a ddywedasant wrthynt,
4Drwy orchymyn pwy ’r ydych chwi yn adailadu y tŷ hwn, a’r adailadaeth ymma: ac yn defnyddio yr holl bethau eraill ymma: a phwy yw ’r adailad-wŷr y rhai ydynt yn bwriadu y fâth bethau:
5Onid henuriaid yr Iddewon a gawsent ffafor gan yr Arglwydd wedi iddo ef ymweled a’r caethiwed,
6Fel na rwystrwyd hwynt i adailadu nes hyspyssu i Ddarius y pethau hynn, a chael atteb
7Coppi o’r llythr yr hwn a scrifennodd efe ac a anfonodd at Ddarius. Sisinnes llywiawdr Syria a Phenice, a Sathrabuzanes ai cyfeillion pennaethiaid Syria a Phenice yn annerch brenin Darius.
8Bydded hyspys oll i’n harglwydd frenin mai pan ddaethom ni i wlad Iuda, a myned i mewn i ddinas Ierusalem nyni a gawsom yn ninas Ierusalem henuriaid yr Iddewon y rhai oeddynt o’r gaeth-glud,
9Yn adailadu tŷ i’r Arglwydd, mawr a newydd, o gerric nâdd gwerthfawr, a’r coed wedi eu gosod eusus ar y magwyrydd.
10Ac yr ydys yn gwneuthur y gwaith hwn ar frŷs, ac y mae y gwaith yn myned yn llwyddiannus yn eu dwylo hwynt, a thrwy ogoniant, ac astudrwydd y gorphennir ef:
11Yna nyni a ofynnasom iw henuriaid gan ddywedyd: drwy orchymyn pwy yr ydych chwi yn adailadu y tŷ hwn, ac yn sylfaenu y gwaith ymma:
12Nyni a ofynnasom y pethau hyn iddynt hwy, ar fedr eu hyspyssu hwynt i ti, ac scrifennu attat ti y gwŷr y rhai ydynt yn lwyodraeth-wŷr arno: am hynny nyni a ofynnasom iddynt enwau y llywawd-wŷr yn scrifennedic.
13Ond hwynt a’n hattebasant gan ddywedyd: gweision ydym ni i’r Arglwydd yr hwn a greawdd y nefoedd a’r ddaiar.
14A’r tŷ hwnn a adailadwyd er ys llawer o flynyddoedd drwy frenin Israel, mawr a chadarn, ac a orphennwyd.
15Ond pan annogodd ein tadau ni i ddigllonedd, bechasant yn erbyn Arglwydd Israel yn y nefoedd, efe ai rhoddes hwynt yn nwylo Nabuchodonosor brenin Babilon, a’r Caldeaid.
16[Y rhai] a ddrylliasant y tŷ, ai lloscasant ef, ac a gaeth-gludasant y bobl i Babilon,
17Ond yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus ar wlad Babilon, y brenin Cyrus a scrifennodd am adailadu y tŷ hwll
18A’r llestri sanctaidd o aur, ac o arian, y rhai a ddugase Nabuchodonosor allan o’r tŷr yn Ierusalem, ac ai cyssegrase hwynt yn ei Deml ei hun, Cyrus y brenin ai dug hwynt allan o’r Deml yn Abilon, ac ai rhoddodd hwynt i Zorobabel, ac i Sanabassarus y llywawdr:
19Gan orchymyn iddo ef ddwyn ymmaith y llestri hynny, ai gosod hwynt o fewn y Deml yn Ierusalem, ac adailadu Teml yr Arglwydd yn ei chyfle.
20A phan ddaeth Sanabassarus ymma, efe a sylfaenodd dŷ yr Arglwydd yn Ierusalem, ac er y pryd hynny hyd yr awr hon yr ydys yn ei adailadu, ni’s gorphennawyd ef
21Ac yn awr o rhynga bodd i’r brenin, ceisier allan yn nhŷ llyfrau y brenin am Cyrus.
22Ac o cheir, fod adailadaeth tŷr yr Arglwydd yn Ierusalē, wedi ei gwneuthur drwy gyd tundeb brenin Cyrus, ac os rhynga bodd i’r arglwydd ein brenin attebed efe i ni am y pethau hyn.
23Yna y brenin Darius a orchymynnodd Esdra.6.1.chwilio tŷ llyfrau y brenin yr hwn oedd yn Babilon, ac fe a gafwyd yn Echatane, yr hon sydd yn y tŵr yng-wlad Media fann lle y byddid yn gosod y fath bethau a hynny yn goffadwriaeth.
24Yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus, y brenin Cyrus a orchymynnodd adailadu tŷ yr Arglwydd yn Ierusalem lle yr aberthent â thân gwastadol.
25Vchter yr hwn drugain cufydd, ai lêd yn drugain cufydd, a thair rhês o gerric nâdd, ac vn rhês o goed newydd o’r wlad honno, a’r draul a roddid o dŷ brenin Cyrus.
26A’r llestri sanctaidd o dŷ yr Arglwydd, yn aur ac yn arian y rhai a ddugase Nabuchodonosor ymmaith o’r tŷ yn Ierusalem, ac ai eludase i Babilon a roddid trachefn i’r tŷ yn Ierusalem ac a osodid yn y fann lle yr oeddynt.
27Hefyd efe a orchymynnodd i Sisiones llywawdr Syria a Phenice, ac i Sathrabuzanes ai cyfeillion, ac i eraill y rhai oeddynt wedi eu gosod yn lywodraeth-wŷr yn Syria a Phenice ochelyd gorafyn y fann honno, eithr gadel i Zorobabel gwâs yr Arglwydd a llywydd Iuda, ac i henuriaid yr Iddewon adailadu tŷ yr Arglwydd yn y fann honno.
28Ac mi a orchymynnais hefyd ei adailadu ef yn gyfan eil-waith, ac iddynt hwy fod yn astud i gynnorthwyo y rhai oeddynt o gaeth-glud yr Iddewon nes gorphenn tŷ yr Arglwydd,
29A rhoddi dogn allan o deyrn-ged Coelosyria a Phenice yn ddyfal i’r gwŷr hynn tu ag at ebyrth i’r Arglwydd, ac i Zorobabel y llywydd tu ag at deirw, hyrddod, ac ŵyn.
30Yd hefyd, a hâlen, a gwîn, ac olew yn oestadol bob blwyddyn heb ballu, fel y testiolaetho yr offeiriaid y rhai ydynt yn Ierusalem fod yn ei dreulio beunydd,
31Fel yr offrymment beunydd i Dduw goruchaf tros y brenin, a thros ei blant ef, ac y gweddient gyd ai hennioes hwynt.
32Efe a orchymynnodd hefyd am bwy bynnac a drossedde ddim a’r a ddywedpwyd o’r blaen, neu a’r a scrifennwyd vchod, neu a ddiddymme ddim o hynny, gymmeryd prenn allan oi feddiant ef; ai grogi ef arno, a bod ei gyfoeth ef yn eiddo y brenin.
33Am hynny yr Arglwydd yr hwn yr ydys yn galw ar ei enw yno a ddestruwio bob brenin, a chenhedl a’r a estynno ei law i luddies, neu i wneuthur niwed i dŷ yr Arglwydd yr hwn sydd yn Ierusalem.
34Myfi y brenin Darius a orchymynnais drwy gyfraith yn ddyfal am gwblhau hynn oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.