Ioel 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Barn Duw ar elynnion ei bobl.

1Canys wele yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddatroaf gaethiwed Iuda, ac Ierusalem,

2Casclaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i wared i’r glynn Iehosaphat, a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl a’m hetifeddiaeth Israel, y rhai a wascarasant hwy ym mysc y cenhedloedd, a rhannasant fy-nhîr.

3Ac ar fy mhobl y bwriasant goel-brennau, a rhoddasant y bachgen er puttain, a gwerthasant y fachgennes er gwîn, ac yfâsant.

4Tyrus hefyd, a Sidon, a holl ardaloedd Palestina beth a chwi i mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain.

5Canys cymmerasoch fy arian a’m haur, a dugasoch i’ch temlau fy nhlyssau goref.

6Gwerthasoch hefyd feibion Iuda, a meibion Ierusalem i’r Groegiaid: er eu pellhau oddi wrth eu hardaloedd eu hunain.

7Wele mi ai codaf hwynt o’r lle y gwerthasoch hwynt iddo: ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain.

8A minne a werthaf eich meibion, a’ch merched i law meibion Iuda, a hwythau ai gwerthant i’r Sabeaid i genhedlaeth bell: canys yr Arglwydd a lefarodd

9Cyhoeddwch hyn ym mysc y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffroiwch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, a deuant i fynu.

10Gyrrwch eich ceibiau yn gleddyfau, a’ch pladuriau yn waiw-ffyn: a dyweded y llesc, cadarn ydwyfi.

11Ymgesclwch y cenhedloedd, a deuwch o amgylch ogylch, ac ymgynhullwch: yno y descyn yr Arglwydd dy gedyrn di.

12Coded y cenhedloedd a deuant i fynu i’r glynn Iehosaphat: o herwydd mai yno’r eisteddaf i farnu’r holl genhedloedd o amgylch.

13Medwch canys addfedodd y cynhaiaf, deuwch i wared o herwydd y gwryf a lanwodd, a’r gwasc-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt.

14Gweryn lawer yng-lynn diwedd-brawd: canys agos yw dydd yr Arglwydd yng-lynn diwedd-brawd.

15Yr haul, a’r lloer a dywyllant, a’r sêr a gasclant eu llewyrch

16A’r Arglwydd a rua o Sion, ac a rydd ei lêf o Ierusalem, y nefoedd hefyd, ar ddaiar a grynant: onid yr Arglwydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel.

17Felly y cewch ŵybod mai myfi’r Arglwydd eich Duw’n trigo yn Sion fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Ierusalem sanctaidd, ac nid aiff dieithriaid trwyddi mwyach.

18A’r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd Ezec.47.1. Amos.9.13.ddefnynnu melys-wîn, a’r brynnau a lifeiriant o laeth, a holl ffrydau Iuda a redant yn ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ’r Arglwydd, ac a ddwfrha ddyffryn Sittim.

19Yr Aipht a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfaneddol, am draha feibion Iuda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt.

20Etto Iuda a drig byth, ac Ierusalem o genhedlaeth i genhedlaeth.

21Glanhâf hefyd waed y rhai ni’s glanheais, a’r Arglwydd sydd yn trigo yn Sion.

Terfyn llyfr Ioel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help