1A Phan ŵybu’r Arglwydd glywed o’r Pharisæaid ddarfod i’r Iesu wneuthur a bedyddio mwy o ddiscyblion nag Ioan,
2(Er na fedyddiase efe ei hun: eithr ei ddiscyblion)
3Efe a adawodd Iuda, ac a aeth eil-waith i Galilæa.
4Ac yr ydoedd yn rhaid iddo ef fyned trwy Samaria.
5Yna efe a ddaeth i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, ger llaw y rhan-dîr A’r Iesu a ddaeth trachefn i Pen.2.1.Cana Galilæa lle y gwnaethe efe y dwfr yn wîn: ac yr oedd rhyw bendefig, ac iddo fab yn glaf yn Capernaum.
47Pan glybu efe ddyfod Iesu o Iudaea yn Galilæa, efe a aeth atto ef, ac a attolygodd iddo ddyfod i wared, ac iachau ei fab ef: canys yr oedd efe ym mron marw.
48Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, oni welwch chwi arwyddion, a rhyfeddodau ni chredwch.
49Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, ô Arglwydd, tyret ti i wared cynn marw fy machgen.
50Iesu a ddywedodd wrtho ef, dos ymmaith, y mae dy fab yn fyw, a’r dyn a gredodd y gair yr hwn a ddywedase Iesu wrtho ef, ac efe a aeth ymmaith.
51Ac yn awr pan oedd efe yn myned i wared, ei weision ef a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant gan ddywedyd: y mae dy fachgen yn fyw.
52Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhaese arno: a hwy a ddywedasant wrtho, mai doe y seithfed awr y gadawodd y cryd ef.
53Yna y gwybu’r tad, mai yr awr honno oedd hi yn yr hon y dywedase Iesu wrtho ef: y mae dy fab di ’n fyw, ac efe a gredodd a’i holl dy.
54Dymma ’r ail arwydd yr hwn a wnaeth Iesu trachefn, wedi iddo ef ddyfod o Iudaea i Galilæa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
