Genesis 44 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLIIII.2 Ioseph yn peri gosod cwppan arian yn sach Beniamin 15 Efe yn eu ceryddu hwynt am eu lladrad. 33 Iuda’n ei gynnig ei hun yn wâs i Ioseph, yn lle Beniamin.

1Yna y gorchymynnodd i’r hwn ar ei dŷ ef gan ddywedyd: llanw sachau y gwyr o fwyd, cymmaint ac a allant ddwyn, a gosod arian pob vn yng-enau ei sach.

2A gosot fyng-hwppan fy hun y cwpan arian yng-enau sach yr ieuangaf, gyd ag arian ei ŷd ef: yntef a wnaeth ar ôl gair Ioseph yr hwn a ddywedase efe.

3Y borau a oleuodd, ar gwyr a ollyngwyd ymmaith, hwynt, ai hassynnod.

4Hwythau a aethant allan o’r ddinas nid aethant nepell, pan ddywedodd Ioseph wrth yr hwn ar ei dŷ ef: cyfot dilyn ar ol y gwyr, fel y goddiweddech hwynt a dywet wrthynt, pa ham y talasoch ddrŵg am dda?

5Onid dymma yr hwn yr yfe fy arglwydd ynddo, a chan brophwydo y prophwyde ef wrtho? drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.

6Yntef ai goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.

7Y rhai a ddywedasant wrtho yntef, pa ham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ado Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth.

8Wele dygasom attat ti ailwaith o wlâd Canaan yr arian yr hwn a gawson yng-enau ein sachau: pa fodd gan hynny y ladrattaem arian, neu aur o dŷ dy arglwydd di?

9Yr hwn o’th weision di y ceffir gyd ag ef, bydded hwnnw farw: a ninnau hefyd a fyddwn weision i’m harglwydd.

10Yntef a ddywedodd felly hyn yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir gyd ag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddiangol.

11Hwythau a frysiasant, ac a ddescynnasant bob vn ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffettan.

12Yntef a chwiliodd: ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd, a’r cwppan a gafwyd yn sach Beniamin.

13Yna y rhwygasant eu dillad, ac a bynniasant pawb ar ei assyn ac a ddychwelasant i’r ddinas.

14Ac Iuda ai frodyr i dŷ Ioseph, ac efe etto yno: ac a syrthiasāt i lawr ger ei fron ef.

15Yna y dywedodd Ioseph wrthynt pa waith hwn yr hwn a wnaethoch? oni wyddech, mai gan brophwydo y prophwyde gwr yr hwn fel myfi?

16Yna y dywedodd Iuda pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd Duw anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ie nyni a’r hwn y cafwyd y cwppan gyd yn ei law ef hefyd.

17Yntef a ddywedodd na ado i mi wneuthur hyn: y gŵr yr hwn y cafwyd y cwppan yn ei law, efe fydd wâs i mi: ewch chwithau i fyny mewn heddwch at eich tad.

18Yna’r aeth Iuda atto ef, ac a ddywedodd arnaf fy arglwydd, caffed attolwg dy wâs ddywedyd gair yng-hlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy wâs, o herwydd yr ydwyt ti megis Pharao.

19Fy arglwydd a ymmofynnodd ai weision gan ddywedyd: a oes i chwi dâd neu frawd.

20Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, y mae i ni dâd yn hen-wr, a phlentyn ei henaint ef ieangc, ai frawd a fu farw, felly y gadawyd ef ei hunan oi fam ef: ai dâd ai hoffa ef.

21Tithe a ddywedaist wrth dy weision dygwch ef i wared attaf fi fel y gosodwyf fy llygaid arno ef.

22Yna y dywedasom wrth fy arglwydd, y llangc ni ddichon ymadel ai dâd: o blegit os ymedu efe ai dâd marw fydd efe.

23Tithe a ddywedaist wrth dy weision, Genes.43.3.oni ddaw eich brawd ieuangaf i wared gyd a chwi, nac edrychwch fy wyneb mwy.

24Bu hefyd wedi ein myned ni i fynu at dy was fy nhâd inne, pan fynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd,

25A dywedyd o’n tâd ewch eilwaith, prynnwch i’m ychydic lyniaeth.

26Ddywed o honom ninne, nis gallwn fyned i wared: os bydd ein brawd ieuangaf gyd a ni, ny ni a awn i wared: o blegit ni allwn edrych wyneb y gŵr, a’n brawd ieuangaf heb ei gyd a ni.

27Yna y dywedodd dy wâs fy nhad, wrthym ni: chwi a wyddoch mai dau a blantodd fyng-wraig i mi:

28Ac vn a aeth allan oddi wrthif fi, minneu a ddywedais Gen.37.33.yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef, ac nis gwelais ef hyd yn hyn.

29Os cymmerwch hefyd hwn ymmaith o’m golwg, a digwyddo marwolaeth iddo ef, yna y gwnewch i’m penllwydni ddescyn mewn gofid i fedd.

30Bellach gan hynny pan ddelwyf at dy was fy nhâd, oni y llangc gyd a mi (gan fod ei hoedl ef yng-lŷn wrth ei hoedl yntef. )

31Yna pan welo efe na y llangc, marw fydd efe: a’th weision a barant i benwynnedd dy was di ein tâd ni ddescyn mewn gofid i fedd.

32Ar Gene.43.9.feichniaeth y cafodd dy was y llangc oddi wrth fy nhâd gan ddywedyd: Onis dygaf ef attat ti, yna byddaf euog yn erbyn fy nhâd bŷth.

33Gan hynny weithian attolwg arhôsed dŷ wâs am y llangc, yn wâs i’m harglwydd, ac aed y llangc i fynu gyd ai frodyr.

34O blegit pa fodd yr âf i fynu at fy nhâd, a’r llangc heb gyd a mi? rhac i mi weled y gofid yr hwn a gaiff fy nhad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help