Psalmau 142 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxlij.Athrawiaeth Dafydd ai weddi pan oedd efe yn yr ogof.

1 Gwaeddais a’m llef ar yr Arglwydd: a’m llef yr ymbiliais a’r Arglwydd.

2Tywelltais fy myfyrdod oi flaen ef: a mynegais fyng-hystudd ger ei fron ef.

3Pan ofidiodd fy yspryd o’m mewn, tithe a adwaenit fy llwybr, yn y ffordd y rhodiwn y cuddiasant i mi fagl.

4Edrychais ar y tu dehau, ac wele, ac nid gydnabod gennif: pallodd nodded i mi, nid yn ymofyn a’m fy enaid.

5Llefais arnat ô Arglwydd, dywedais, ti fyng-obaith, a’m rhann, yn nhîr y rhai byw.

6Ystyr wrth fyng-waedd, canys truan iawn ydwyf: gwaret fi oddi wrth fy erlid-wŷr canys trêch ydynt nâ mi.

7Dŵg fy enaid allan o garchar i foliannu dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant pan fyddech dâ wrthif.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help