Genesis 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.Mynediad Abram o’r Aipht. 8 Abram, a Lot yn ymado. 14 Duw yn addo gwlad Canaan i Abram eilwaith. 18 Abram yn gwneuthur allor i Dduw.

1Ac Abram aeth i fynu o’r Aipht, efe ai wraig, a’r hyn oll eiddo: a Lot gyd ag ef tu a’r dehau.

2Ac Gene.36.7.Abram gyfoaethog iawn, o anifeiliaid, o arian, ac o aur.

3Ac efe a aeth ar ei deithoedd, o’r dehau hyd Bethel, hyd y lle yr hwn y buase ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai.

4I lê Gene.36.25.’r allor yr hon a wnaethe efe yno o’r cyntaf, a llê y galwase Abram a’r enw yr Arglwydd.

5Ac i Lot hefyd yr hwn a aethe gyd ag Abram, yr oedd defaid, a gwarthec, a phebyll.

6A’r wlâd nid oedd ddigon helaeth iddynt i drigo yng-hyd am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel nad allent drigo yng-hyd.

7Cynnen hefyd oedd rhwng bugelydd anifeiliaid Abram, a bugelydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd, a’r Phereziaid oeddynt yna yn trigo yn y wlâd.

8Yna Abram a ddywedodd wrth Lot, na fydded cynnen, attolwg rhyngo fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid ti, o herwydd dynion ni frodyr.

9Onid yw yr holl dîr o’th flaen di? ymnailltua attolwg oddi wrthif, os ar y llaw asswy y minne a droaf ar y ddehau: ac os ar y llaw ddehau, minne a droaf ar yr asswy.

10Yna y cyfododd Lot ei olŵg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy oll, fel gardd yr Arglwydd, fel tîr yr Aipht, ffordd yr elych di i Soar cyn difetha o’r Arglwydd Sodoma a Gomorra.

11A Lot a ddewisodd iddo ef wastadedd yr Iorddonen, a Lot a fudodd o’r Dwyrain, felly yr ymnailltuasant bôb vn oddi wrth ei gilydd.

12Abram a drigodd yn nhir Canaan, a Lot a drigodd yn-ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodoma.

13A dynion Sodoma ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

14A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymnailltuo o Lot oddi wrtho ef, cyfot dy lygaid, ac edrych o’r lle yr hwn yr ydwyt ynddo tu a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewyn.

15Canys Genes.12.7.|GEN 12:7. gen.15.7.|GEN 15:7. gen.26.24.|GEN 26:24. deut.34.4.yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th hâd bŷth.

16Gossodaf hefyd dy hâd ti fel llŵch y ddaiar, megis os dichon gŵr rifo llŵch y ddaiar, yna y rhifir dy hâd dithe.

17Cyfot rhodia drwy yr wlâd, ar ei hŷd, ac ar ei llêd, canys i ti y rhoddaf hi.

18Ac Abram a symmudodd luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng-ŵastadedd Mamre, yr hwn yn Hebron, ac a adailadodd yno allor i’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help