1A Meibion y prophwydi a ddywedasant wrth Elisêus: wele yn awr y llê yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di sydd ry gyfyng i ni.
2Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cymmerom oddi yno bawb vn drostan, ac y gwnelom i ni yno le i gyfanneddû ynddo: dywedodd yntef, ewch.
3Ac vn a ddywedodd bydd fodlon attolwg, a dos gyd a’th weision: dywedodd yntef mi a âf.
4Felly efe a aeth gyd a hwynt: a hwy a ddaethant at yr Iorddonen, ac a dorrasant y coed.
5A phan oedd vn yn bwrw i lawr drawst, yna ei fwyall ef a syrthiodd i’r dwfr: ac efe a waeddodd, ac a ddywedodd, och-fi fy meistr canys benthig oedd hi.
6A gŵr Duw a ddywedodd, pa lê y syrthiodd hi? yntef a ddangosodd iddo yr fann, ac efe a dorrodd bren, ac ai taflodd yno, ac a wnaeth i’r haiarn nofio.
7Yna efe a ddywedodd, cymmer i fynu it: ac efe a estynnodd ei law ac ai cymmerodd.
8A brenin Syria oedd yn ymladd yn erbyn Israel: ac efe a ymgynghorodd ai weision gan ddywedyd, yn y lle a’r lle fyng-werssyllfa.
9Yna gŵr Duw a anfonodd at frenin Israel gan ddywedyd, ymgadw rhac myned i’r lle hwnnw, canys yno y mae y Syriaid yn llechu.
10Felly brenin Israel a anfonodd i’r lle yr hwn y dywedase gŵr Duw wrtho ef, ac y rhybyddiase ef, ac a ymgadwodd yno: nid vnwaith, ac nid dwy-waith.
11A chalon brenin Syria a gynhyrfodd o herwydd y peth hyn: ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, oni fynegwch i mi pwy o honoch i frenin Israel?
12Yna vn oi weision ef a ddywedodd, nid fy arglwydd frenin, onid Elisêus y prophwyd, yr hwn yn Israel a fynega i’r brenin y geiriau y rhai a leferi di yng-hanol dy stafell.
13Ac efe a ddywedodd, ewch, ac edrychwch pa le y efe, fel yr anfonwyf, ac y dygwyf ef ymmaith: a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, wele yn Dothan
14Felly efe a anfonodd yno feirch, a cherbydau a llu mawr: a hwynt a ddaethant liw nos, ac a amgylchynâsant y ddinas.
15Pan gododd gwenidog gŵr Duw yn foreu, a myned allan, yna wele lu yn amgylchynu y ddinas, meirch hefyd a cherbydau: a’r llangc a ddywedodd wrtho ef, ahâ fy meistr pa fodd y gwnawn?
16Ac efe a ddywedodd, nac ofna: canys amlach y rhai gyd a ni, na’r rhai gyd a hwynt.
17Yna Elisêus a weddiodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd agor attolwg ei lygaid ef, fel y gwelo efe: a’r Arglwydd a agorodd lygaid y llangc, ac efe a edrychodd, ac wele y mynydd yn llawn meirch, a cherbydau tanllyd o amgylch Elisêus.
18Felly hwynt a ddaethant i wared atto ef, ac Elisêus a weddiodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd: taro attolwg y genhedlaeth hon a dallineb: ac efe ai tarawodd hwynt a dallineb yn ôl gair Elisêus.
19Ac Elisêus a ddywedodd wrthynt hwy, nid hon yr ffordd, ac nid hon yr ddinas, deuwch ar fy ôl i, ac mi a’ch tywysa chwi ac y gŵr yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio: ond efe ai harweinodd hwynt i Samaria.
20A phan ddaethant hwy i Samaria yna Elisêus a ddywedodd, ô Arglwydd agor di lygaid y rhai hyn fel y gwelant: a’r Arglwydd a agorodd eu llygaid hwynt, a hwy a edrychasant, ac wele yng-hanol Samaria
21A brenin Israel a ddywedodd wrth Elisêus, pan welodd efe hwynt: gan daro adarawaf fy nhâd?
22Dywedodd yntef, na tharo, ond y rhai a gaethiwaist a’th gleddyf, ac a’th fŵa dy hun a darewi di: gosot fara a dwfr ger eu bron hwynt fel y bwyttânt, ac yr yfant, ac yr elont at eu harglwydd.
23Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr, a hwy a fwytasant, ac a yfasant, ac efe ai gollyngodd hwynt ymmaith, a hwy a aethant at eu harglwydd: felly byddinoedd y Syriaid ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlâd Israel.
24Ac wedi hyn Ben-hadad brenin Syria a gynhullodd ei holl lû: ac efe a aeth i fynu, ac a warchaodd ar Samaria.
25Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria, canys wele yr oeddynt hwy yn gwarche arni hi, nes bôd pen assyn er pedwar vgain o arian, a phedwerydd Câb o dom colomennod er pump o arian,
26Fel yr oedd brenin Israel yn cerdded ar y mûr, yna gwraig a lefodd arno ef gan ddywedyd: achub fi fy arglwydd frenin.
27Dywedodd yntef, nad achub yr Arglwydd dydi, pa fodd yr achubafi di? ai o’r yscybor, neu o’r gwîn-wryf?
28A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, beth a i ti? hithe a ddywedodd, y wraig hon a ddywedodd wrthif, dyro dy fab fel y bwyttaom ef heddyw, a’m mab inne a fwyttawn ni y foru.
29Felly ni a ferwasom fy mab i, Lefit.26.29. Deut.28.53.|DEU 28:53. galar.4.10.|LAM 4:10. baruc.2.3.ac ai bwyttawsom ef: a mi a ddywedais wrthi hithe ddiwrnod arall, dyro dithe dy fab fel y bwyttaom ef, ond hi a guddiodd ei mab.
30A phan glybu y brenin eiriau yr wraig, yna efe a rwygodd ei ddillad, ac fel yr oedd efe yn cerdded ar y mûr y bobl ai canfu ac wele sach-liain am ei gnawd ef oddi fewn.
31Ac efe a ddywedodd, fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego: os saif pen Elisêus mab Saphat arno ef heddyw.
32(Ac Elisêus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid oeddynt yn eistedd gyd ag ef: ) a’r a anfonodd ŵr oi flaen: cyn dyfod y gennad atto ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, oni welwch chwi fel yr anfonodd mab Bren.21.3.y llofrudd hwn i gymmeryd ymmaith fy mhen i? edrychwch pan ddel y gennad i mewn ceiwch y drws, a deliwch ef wrth y drws, onid trwst traed ei arglwydd ef ar ei ôl ef?
33Ac efe etto yn ymddiddan a hwynt yna wele y gennad yn dyfod i wared atto ef: ac a ddywedodd, wele y drygioni hyn oddi wrth yr Arglwydd, paham y disgwiliaf wrth yr Arglwydd mwy?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.