Ephesiaid 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Paul yn annerch yr eglwys. 3 Yn bendithio Duw am ei râd yng-Hrist iesu, ac yn bennaf am weithredoedd ein iechydwriaeth. 15 Ac am eu ffydd hwy. 19 Gan ddangos godidogrwydd gallu Duw.

1Paul Apostol Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, at 1.Cor.1.2.y sainct y rhai sy yn Ephesus, a’r ffyddloniaid yng-Hrist Iesu,

2Grâs i chwi, a thangneddyf gan Dduw ein Tâd, a’r Arglwydd Iesu Grist.

3 2.Cor.1.3. 1.pet.1.3. Bendigedic Duw, a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a’n bendithiodd mewn nefolion yng-Hrist, â phob bendith ysprydol,

4 2.Tim.1.9. Megis yr etholodd nyni ynddo ef, cyn seiliad y byd, fel y byddem Coloss.1.22.yn sanctaidd, ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad:

5Yr hwn a’n rhagluniaethodd ni i fabwysiad iddo ei hun trwy Iesu Grist yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys,

6Er mawl i ogoniant ei râs ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymmeradwy iddo yn yr annwyl,

7Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef: maddeuant pechodau yn ôl cyfoeth ei râs ef:

8Trwy yr hyn y bu efe helaeth i ni ym mhob doethineb, a deall,

9Gan yspysu i ni ddirgelwch ei ewyllys yn ôl ei fodlonrwyd ei hun, yr hon a arfaethase ynddo ei hun:

10I grynhoi yng-Hrist yng-orchwyliaeth cyfiawnder yr amseroedd y pethau oll y rhai ydynt nac yn y nefoedd, nac ar y ddaiar.

11Ynddo ef yn yr hwn ein dewiswyd pan ein rhagluniaethwyd yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob dim oll wrth gyngor ei ewyllys ei hunan:

12Fel y byddo i ni (y rhai a obeithiasom yn gyntaf yng-Hrist) gael bod yn fawl iw ogoniant ef:

13Yn yr hwn chwithau hefyd, drwy glywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iechydwriaeth, yn yr hwn hefyd wedi i chwi gredu eich seliwyd trwy lân Yspryd yr addewid:

14Yr hwn yw gwystl ein etifeddiaeth, i orescyn rhydd-did er mawl iw ogoniant ef.

15O herwydd paham minne hefyd, wedi i mi glywed am y ffydd yr hon gennwch yn yr Arglwydd Iesu a’r cariad ar yr holl sainct,

16Nid wyf yn peidio a diolch trosoch gan eich coffa yn fyng-weddiau,

17Ar i Dduw ein Arglwydd Iesu Crist, Tâd y gogoaiant, roddi i chwi Yspryd doethineb a dadcuddiad iw gydnabod ef.

18Trwy oleuo golwg eich calon fel y gŵypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud ei etifeddiaeth ef yn y sainct,

19A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef ynom ni y rhai ydym yn credu, Coloss.2.12.o herwydd gweithrediad nerth ei gadernid ef.

20Yr hon a weithiodd efe yng-Hrist pan ei cyfododd ef o feirw, ac ai dododd ar ei ddeheulaw yn y nefoedd,

21Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a’r a enwir, nid yn y byd hwn yn vnic, ond yn yr hwn sydd ar ddyfod hefyd:

22 Psal.8.6. heb.2.8. Ac a ddarostyngodd bob peth tann ei draed ef, ac a’i gosodes ef yn ben a’r bob dim iw eglwys,

23Yr hon yw ei gorph ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help