Iosuah 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Pa frenhinoedd a orchfygodd Israel o’r tu hwnt i’r Iordonen.

1Dymma frenhinoedd y wlâd y rhai a darawodd meibion Israel, ac a orescynnasant eu gwlad hwynt or tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul: o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl ros-dir tua’r dwyrain.

2 Num.21.24. Deu.3.6. Sehon brenin yr Amoriaid yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yn arglwyddiaethu o Aroer yr hon ar fin yr afon Arnon, ac ganol yr afon, ac hanner Gilead hyd yr afon Iabboc mrô meibion Ammon.

3Ac or rhôs hyd for Ceneroth o du’r dwyrain, ac hyd fôr y rhôs sef y môr hêli o du’r dwyrain tua Bethiesimoth: ac o du’r deau Deut.3.17. & 4.48.fronnydd y brynn.

4A goror Og brenin Basan Deu.3.11.|DEU 3:11. Iosua.13.12.o weddill y cawri, yn trigo yn Astaroth ac yn Edrai.

5Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcah, ac yn holl Basan hyd terfyn y Gessuriaid, a’r Maccathiaid: a hanner Gilead derfyn Sehon brenin Hesbon.

6Moses gwâs yr Arglwydd a meibion Israel ai tarawsant hwy: a Num.32.29. Deut.3.12. iosua.13.8.Moses gwâs yr Arglwydd ai rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Rubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasses.

7Dymma hefyd frenhinoedd y wlâd y rhai a darawodd Iosuah a meibion Israel o’r tu ymma i’r Iorddonen tua’r gorllewyn o Baal Gad yng-lynn Libanus hyd fynydd Halac yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir: ac Iosuah ai rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau.

8Yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, yn y rhosdir hefyd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y dehau: yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Phereziaid, yr Hefiaid, a’r Iebusiaid.

9 Iosua 6.2.|JOS 6:2. pen.8.29.|JOS 8:29. 10.25. Brenin Iericho yn vn: brenin Ai’r hwn vn ar ddec ar hugain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help