Diharebion 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVII.

1Nac ymffrostia o’r dydd y foru: canys ni ŵyddost beth a ddigwydda diwrnod.

2Canmoled arall dy di, ac nid dy enau dy hun: estron, ac nid dy wefusau dy hunan.

3 Ecclus.(sic.) Trom yw’r garreg a phwys-fawr yw’r tywod, ond digofaint y ffôl sydd drymmach na hwynt ill-dau.

4Creûlon yw llid, fel llif-ddwfr yw cynddaredd, a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen?

5Gwell yw cerydd cyhoeddus, na chuddiedig gariad.

6Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt greulon.

7Y dŷn llawn a fathra’r dil mêl: ond i’r newynog pop peth chwerw sydd fêlus.

8Gŵr yn ymdaith oi lê ei hun sydd debyg i aderyn yn cilio oi nŷth.

9Olew ac arogl-darth a lawenychant y galon, felly mwynder cyfaill yn fwy nai gyngor ei hun.

10Nac ymâdo â’th gydymaith dy hun a chydymaith dy dad: ac na ddôs i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymmydog yn agos, na brawd ym mhell.

11Bydd ddoeth fy mab a llawenycha fyng-halon, fel y gallwyf atteb i’r neb a’m gwradwyddo.

12Y call a wêl y drwg ac a ymgudd: ond ffyliaid a ânt rhagddynt, ac hwy a gospir.

13 Pen.20.16. Cymmer wisc yr hwn a fachnio dros y dieithr: a’r neb a fachnio dros y ddieithr, cymmer wystl ganddo.

14Y neb a ganmolo ei gydymmaith â llef vchel y boreu pan gyfodo y cyfrifir yn wradwydd iddo.

15 Pen.19.13. Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad cyffelyb ydynt.

16Y mae yr hwn ai gorchguddio hi yn gorchguddio y gwynt: canys hi a ymddengys megis olew yn ei ddeheu-law ef.

17Un arf a hoga’r llall: ac vn gŵr a fywhâ’r llall.

18Y neb a gadwo ei ffigusbren, a fwytu oi ffrwyth ef, a’r neb a wasanaetho ei feistr a ddaw i anrhydedd.

19Megis dwfr amryw wynebau: felly y mae calonnau amryw ddynnion.

20Ni lenwir vffern na destruw, felly ni lenwir llygaid dŷn.

21Fel y tawddlestr i’r arian, a’r ffwrnes i’r aur: felly y mae genau’r neb ai can-molo i’r neb a gan-moler.

22Er i ti bwnnio ffôl mewn morter â phestl ym mhlith grawn: etto ni ymêdu ei ffolineb ag ef.

23Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, gofala am dy braidd.

24Canys cyfoeth ni pheru byth: a choron ni pheru o genhedlaeth i genhedlaeth.

25Pan flaendarddo’r gwair, pan ymddangoso’r glas-wellt: yna y caclir llysieu y mynyddoedd.

26Yr ŵyn a’th ddillâdant, ac o’r geifr y werth tîr.

27Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i’th dŷlwyth ac yn ymborth i’th lancesau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help