Doethineb 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIIIAmryw ffrwythau doethineb.

1Y Mae hi ’n cyrheuddyd o gwrr bwygilidd yn rymmusol: ac yn cyfleu pob peth yn fuddiol.

2Hon a gerais i ac a geisiais o’m hieuengtid, ac a geisiais ei phriodi yn ddyweddi i mi: canys cu oedd gennifi ei thegwch hi.

3Y mae hi yn gwneuthur ei bonedd yn ogoneddus trwy gyttal gyd â duw, a bod Arglwydd pob beth yn hoff ganddo hi.

4Athro yw hi ar athrawiaeth Dduw, ac hi sydd yn dewis ei weithredoedd ef.

5Os meddiant dymunol ym mywyd yw cyfoeth, beth gyfoethogath na doethineb, yr hon sydd yn gwneuthur pob peth:

6Ac os synnwyr a wna, pwy vn o’r pethau ydynt a wna yn well na hi:

7Os cyfiawnder a hoffa neb, rhinweddau da yw ei llafur hi: canys y mae hi yn dyscu sobreiddrwydd, a fynwyn, cyfiawnder, a gwroldeb: nâ pha rai nid oes dim mwy ei fudd i ddynion yn bywyd.

8Os chwēnyche neb gael siccrwydd gwybodaeth lawer hi a ŵyr y perhau gynt, ac a ddychymig y pethau a fyddant, y mae hi yn gwybod dichellion geiriau, ac yn medru dirnâd cwestiwnau caled, ac yn gwybod yr arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r hyn a ddamwain mewn tymmor, ac amser cyn eu dyfod.

9Am hynny yr arfaethais ddwyn hon i gyttal â mi, gan ŵybod y cynghore hi i mi bethau da, ac i’m diddane fi mewn gofal a thristwch.

10Trwyddi hi y câf fi barch yn y dyrfa, ac anrhydedd gan henuriaid, a minne yn ieuangc,

11Y ceir fi yn gyflym mewn barn, ac y byddaf fi rhyfedd yng-olwg cedyrn:

12Yr arhoesant wrthif tra tawyf, ac y gwrandawant tra llefarwyf, ac y gosodant eu dwylo ar eu geneuau os fi a draethwn lawer:

13Trwyddi hi y caf fi dragywyddoldeb, ac y gadawaf goffadwriaeth tragywyddol i’r rhai a fyddant ar fy ôl i,

14Y llywodraethaf fi y bobl, ac y darostyngir cenhedloedd i mi.

15Teiranniaid aruthrol a’m hofnant i, ym mysc y gwerin i’m gwelir i yn dda, ac yn y rhyfel yn gryf, pan elwyf fi i’m tŷ, mi a gŷd orphywysaf gyd â hi.

16O blegit nid oes chwerwder wrth gyttal â hi, na blinder wrth gŷd fyw â hi, ond llawenydd a gorfoledd.

17Wrth feddwl hyn ynof fy hûn, ac wrth gofio yn fyng-halon mai yng-harennydd doethineb y mae tragywyddoldeb,

18A bod hyfrydwch daionus ym ei chyfeillach hi, a golud diball yn llafur ei dwylo hi, a bod synnwyr o ymarfer ag ymddidan â hi, a bod parch wrth fod yn gyfrannog oi hymadro­ddion hi, mi a geisiais o amgylch pa fodd y cawn hi attaf.

19Yr oeddwn i yn fachgen o athrylith dda, ac a gawswn ysprydoliaeth dda.

20Ie yn hytrach wedi i mi ddyfod yn dda y deuthym i gorph dihalogedic.

21Ond pan wybum na chawn hi oni rodde Dduw hi, ac mi synnwyr oedd wybod rhodd pwy a oedd hi, mi a ddaethym at Dduw, ac a ymbiliais, ac a ddywedais o’m holl galon:

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help