Exodus 37 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVII.1 Gwneuthur Arch y destiolaeth. 6 Y drugareddfa. 10 Y bwrdd. 17 Y canhwyll-bren. 25 Ac allor yr arogl-darth.

1A Besaleel a wnaeth yr Arch, o goed Sittim: o ddau gufydd a hanner ei hŷd a chufydd a hanner ei llêd, a chufydd a hanner ei huchter.

2Ac ai goreurodd ag aur pur o fewn ac oddi allan: ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

3Ac efe a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar y naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.

4Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim: ac ai goreurodd hwynt ag aur.

5Ac a osododd y trosolion drwy y modrwyau ar ystlysau yr Arch: i ddwyn yr Arch.

6Ac efe a Exod.25.17.wnaeth y drugareddfa o aur coeth: o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei llêd.

7Ac efe a wnaeth ddau Gerub aur: o vn dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt ar ddau gwrr y drugareddfa.

8Un Cerub ar y naill gwrr, a Cherub arall ar y cwrr arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y Cerubiaid, ar ei dau gwrr.

9A’r Cerubiaid oeddynt gan ledu adenydd tuac i fynu yn gorchguddio ai hadenydd y drugareddfa, ai hwynebau oeddynt bôb vn at ei gilydd: wynebau y Cerubiaid tu ac at y drugareddfa.

10Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hŷd, a chufydd ei lêd, a chufydd a hanner ei vchter.

11Ac ai goreurodd ef ag aur pur: ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.

12Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o lêd llaw: ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.

13Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur: ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai yn bedwar troed iddo.

14Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau: i fyned am y barrau i ddwyn y bwrdd.

15Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac ai goreurodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.

16Efe a wnaeth hefyd y llestri y rhai ar y bwrdd, ei ddysclau ef ai lwyau, ai phiolau, ai gafnau y rhi y tywalltyd a hwynt: o aur pûr.

17Ac efe a wnaeth ganhwyll-bren o aur coeth: o vn dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyll-bren, ei balader, ei geingciau, ei bedill, ei gnapiau, ai flodau oeddynt o honaw ei hun.

18A chwech o geingciau yn myned allan oi ystlysau: tair caingc o’r canhwyll-bren o vn ystlys, a thair caingc canhwyll-bren o’r ail ystlys.

19Tair padell ar waith almon, cnap a blodeun ar vn gaingc, a thair padell o waith almon, cnap a blodeun ar gaingc arall: yr vn modd ar y chwe chaingc y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyll-bren.

20Ac ar y canhwyll-bren yr pedair padell: o waith almon, ei gnappiau ai flodau.

21A chnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tann ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw: yn ol y chwe chaingc y rhai oeddynt yn dyfod allan o honaw.

22Eu cnapiau hwynt, ai ceingciau hwynt oeddynt o honaw ef: y cwbl o honaw Exod.25.31.vn dryll cyfan o aur coeth.

23Ac efe a wnaeth ei saith lusern ef: ai efeiliau, ai gafnau o aur pur.

24O Exod.25.39.dalent o aur coeth y gwnaeth efe hwnnw: ai holl lestri.

25Gwnaeth hefyd Exod.30.34.allor yr arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hŷd, a chufydd ei llêd yn bedair ongl, ac o ddau gufydd ei huchter, ei chyrn oeddynt o honi ei hun.

26Ac efe ai goreurodd hi ag aur coeth, ei chaead, ai hystlysau o amgylch ai chyrn: ac efe a wnaeth iddi goron aur o amgylch.

27Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tann ei choron: i fyned am drosolion iw dwyn arnynt.

28Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim: ac ai goreurodd hwynt ag aur.

29Ac efe a wnaeth Exod.30.35.olew yr enneiniad sanctaidd, a’r arogl-darth llysseuoc pur o waith yr apothecari.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help