1 Achub fi ô Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant hyd at enaid.
2Glŷnais yn y domm dyfn, lle ni sefyllfa: deuthum i ddyfnder y dyfroedd, a’r ffrŵd a lifodd trosof.
3Blinais yn llefain, sychodd fyng-hêg, phallodd fy llygaid: yn disgwil wrth fy Nuw.
4Amlach na gwallt fy mhenn yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fyng-elynnion y rhai a’m difethent ar gamm: yna y têlais yr hyn ni chymmerais.
5O Dduw ti a adwaenost fy ynfydrwydd, ac nid yw fyng-hamweddau guddiedic oddi wrthit ti.
6Na chywilyddier o’m plegit i y rhai a obeithiant ynot ti Arglwydd Dduw y lluoedd: na wradwydder o’m plegit i y rhai a’th geisiant ti ô Dduw Israel.
7Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, y tôdd cywilydd fy wyneb,
8Euthym yn ddieithr i’m brodyr, ac estron gan blant fy mam.
9Canys zêl dy dŷ a’m hyssodd, a gwradwyddiad y rhai a’th wradwyddent di a syrthiodd arnafi.
10Wylais fy enaid ag ympryd, a yn wradwydd i mi.
11Gwiscais hefyd sach-liain, ac euthym yn ddihareb iddynt.
12Am danafi y chwedleue y rhai a eisteddent yn y porth, ac y rhai meddwon wawd.
13Ond mi fyng-weddi attat ti ô Arglwydd mewn amser cymmeradwy ô Dduw, yn lluosogrwydd dy drugaredd: gwrando fi yng-wirionedd dy iechydwriaeth.
14Gwaret fi o’r domm fel na soddwyf, rhyddhaer fi oddiwrth fyng-haseion, ac o’r dyfroedd dyfnion.
15Na lifed y ffrŵd ddwfr trosof, ac na lyngced y dyfnder fi: na chaeued pydew ychwaith ei safn arnaf.
16Clyw fi Arglwydd, canys dâ dy drugaredd: yn ôl amlder dy dosturiaethau edrych arnaf.
17Ac na chuddia dy wyneb oddiwrth dy wâs, canys cyfyngder arnaf, bryssia, gwrando fi.
18Nesâ at fy enaid, a gwaret ef, rhyddhâ fi o herwydd fyng-elynnion.
19Ti a adwaenost fyng-warthrudd, am cywilydd, a’m gwradwydd: fy holl elynnion ger dy fron di.
20Gwarthrudd a ddrylliodd fyng-halon, yr ydwyf yn gofidio: canys disgwiliais i dosturio ac nid ac am gyssur-wŷr, ac ni chefais
21Eithr rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodâsant yn fy syched â finegr.
22Bydded eu bwrdd hwythau yn fagl ger eu bron, ai llwyddiant yn dramgwydd.
23Tywyller eu llygaid fel na welont, a gwna iw cefnau grymmu bob amser.
24Tywallt dy ddig arnynt, a goddiwedded llidiawgrwydd dy ddigofaint hwynt.
25Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd, ac na fydded a drigo yn eu pebyll:
26Canys erlidiâsant yr hwn a darawsit ti, ac am ofid y rhai a archollaist ti y crybwyllant.
27Dod ti anwiredd ar anwiredd iddynt, ac na ddelont yn dy gyfiawnder di.
28Tynner hwynt ymmaith o lyfr y bywyd: ac na scrifenner hwynt gyd a’r rhai cyfiawn.
29Pan druan, a gofidus, dy iechydwriaeth di ô Dduw, a’m cyfyd fi.
30Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.
31A fydd gwell gan yr Arglwydd nag ŷch fustach corniog, carnol.
32Y trueniaid a lawenychant welant eich calon chwithau y rhai a geisiwch Dduw a fydd byw.
33Canys gwrendu’r Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.
34Nefoedd, a daiar, y môr a’r hyn oll a ymlusco ynddo ai molant ef.
35Canys Duw a achub Sion, ac a adailada ddinasoedd Iuda, fel y triger yno, ac y meddianner hi.
36Ie hiliogaeth ei weision ai meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef a bresswyliant ynddi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.