Daniel 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Balthasar y brenin yn amherchi cyssegredic lestri Ierusalem. 5 Ac yn gweled llaw yn scrifennu ar y pared 8 Yr hon scrifen ni fedre neb ei darllen, nai deall onid Daniel. 30 Marwolaeth Balthasar, a Darius yn cael ei frenhiniaeth ef.

1Balthasar y brenin a wnaeth wledd fawr i fîl oi dywysogion: ac a yfodd wîn o flaen y mil.

2Wrth flas y gwîn y dywedodd Balthasar am ddwyn y llestri aur, ac arian, y rhai a ddygase Nabuchodonosor ei dad ef o’r Deml yr hon yn Ierusalem, fel yr yfe y brenin ai dywysogion, ei wragedd, ai ordderchadon ynddynt.

3Yna y dygwyd y llestri aûr y rhai a ddugasent o’r Deml, (sef Tŷ Dduw yr hwn oedd yn Ierusalem) a’r brenin ai dywysogion, ei wragedd, ai ordderchadon, a yfâsant ynddynt.

4Yfâsant wîn, a molianâsant dduwiau o aur, ac o arian, o brês, o haiarn, o goed, ac o faen.

5Bysedd llaw dyn a ddaethant allan yr awr honno, ac a scrifennasant ar gyfer y canhŵyll-bren ar galchiad pared llŷs y brenin, a gwelodd y brenin ddwrn y llaw yr hon a scrifennodd.

6Yna y newidiodd lliw’r brenin, ai feddyliau ai cyffroasant ef, rhwymau ei lwynau ef a ddattodasant, ai liniau ef a gurâsant y naill wrth y llall.

7Wedi galw o’r brenin yn grôch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brud-wŷr, y llefarodd y brenin, a y dywedodd wrth ddoethion Babilon: pa ddyn bynnac a ddarlleno yr scrifen, ac a ddangoso i mi ei deongliad, efe a wiscir â phorffor, a cadwynau aur am ei wddf ef, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

8Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn, ond ni fedrent ddarllen yr scrifen, na mynegu i’r brenin ei deongliad.

9Yna y mawr gyffrôdd y brenin Balthasar, ai liw a newidiodd ynddo ef, ai dywysogion a synnasant.

10Y frenhines o herwydd geiriau y brenin ai dywysogion a ddaeth i dŷ’r wledd, y llefarodd y frenhines, ac y dywedodd: bydd fyw byth frenin, na chyffroed dy feddyliau di, ac na newidied dy liw.

11Y mae gŵr yn dy deyrnas yr hwn yspryd y duwiau sanctaidd ynddo, ac yn nyddiau dy dâd y caed ynddo ef oleuni, deall, a doethineb, fel doethineb y duwiau: a’r brenin Nabuchodonosor dy dad ai gossododd ef yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, brud-wŷr, dy dad ti ô frenin.

12O herwydd cael ynddo ef, ([sef] yn Daniel, yr hwn y gosododd y brenin ei enw Baltassar) yspryd rhagorol, a gŵybodaeth, a deall, yn deongl breuddwydion, ac eglurhâ dammegion, a dattodiad cylymmau: galwer Daniel yr awr hon, ac efe a ddengis y deongliad.

13Yna pan ducpwyd Daniel o flaen y brenin, llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Ddaniel, ai tydi yw Daniel yr hwn ydwyt o feibion caeth-glud Iuda, y rhai a ddug y brenin fy nhâd o Iuda?

14Myfi a glywais am danat, mai yspryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni a deall, a doethineb rhagorawl.

15Ac yr awr hon dygwyd yr astronomyddion doethion o’m blaen i ddarllen yr scrifen hon, ac i fynegu i’m ei deongliad: ond ni fedrant ddangos deongliad y peth.

16Yna y clywais am danat ti, y medri ddeongl dirgeledigaethau, a dottod cylymmau, yr awr hon os medri ddarllē yr scrifen, ac hyspyssu i mi ei deongliad, yna i’th wiscir â phorffor, hefyd gadwyni o aur am dy wddf, a chei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

17Yna yr attebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin: bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall: er hynny yr scrifen a ddarllenaf i’r brenin, a’r deongliad a yspyssaf iddo ef.

18O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nabuchodonosor dy dâd frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.

19Ac o herwydd y mawredd yr hwn a roddase efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll oeddynt yn crynu rhagddo ef: yr rhai a fynne efe a ladde efe, a’r hwn a fynne efe a darawe efe, hefyd y rhai a fynne efe a gyfode efe, a’r rhai a fynne a ostynge efe.

20Eithr pan ymgododd ei galon ef, ac ymgryfhau oi yspryd ef mewn balchder, efe a ddescynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’r gogoniant a dynnwyd oddi wrtho ef.

21Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion gosodwyd ei galon fel bwyst-fil, a chyd a’r assynnod gwylltion ei drigfa: â gwellt y porthwyd ef fel eidion, ai gorph a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni ŵybu mai yr Duw goruchaf oedd yn llywodraethu ar frenhiniaeth dyn: ac y gosode efe arni y neb a fynne efe.

22A thithe Balthasar ei fab ef ni ostyngaist dy galon er gŵybod o honot hyn oll.

23Yn erbyn Arglwydd y nefoedd yr ymdderchefaist, a llestri ei dŷ ef a ducpwyd ger dy fron di: tithe a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt hwy, a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o brês, o haiarn, o brenn, ac o faen: y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni ŵyddant ac ni anrhydeddaist y Duw yr hwn dy anadl di yn ei law ef, a’th holl ffyrdd di ganddo ef.

24Yna yr anfonwyd dwrn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr scrifennwyd yr scrifen hon.

25Ac dymma yr scrifen yr hon a scrifennwyd MENE, MENE, THECEL, VPHARSIN.

26Dymma ddeongliad yr ymadrodd, MENE, Duw a rifodd dy frenhiniaeth, ac ai gorphennodd.

27THECEL, ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac i’th gaed yn brinn.

28PHERES, rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i’r Mediaid, a’r Persiaid.

29Yna y dywedodd Balthasar am wisco o honynt Ddaniel â phorffor, ac â chadwynau o aur am ei wddf, a chyhoeddi am dano ef, y bydde efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.

30Y nosson honno y lladdwyd Balthasar brenin y Caldeaid.

31A Darius y Medus a gymmerodd y frenhiniaeth, ac efe yn ddwy flwydd a thri vgain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help