1Llefodd hefyd â llef vchel lle y chlywais gan ddywedyd: nesewch swyddogion y ddinas, a phob vn ai arf dinistr yn ei law.
2Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth vchaf, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, a phob vn ai arf dinistr yn ei law: ac vn gŵr yn eu mysc hwynt, wedi ei wisco â lliain, a chorn dû scrifennudd wrth ei glûn, a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor brês.
3A gogoniant Duw Israel a gyfododd, oddi ar y Cerub yr hwn yr ydoedd efe arno, hyd rhinniog y tŷ, ac a lefodd ar y gŵr yr hwn oedd wedi ei wisco â lliain, yr hwn corn dû scrifennudd wrth ei glun.
4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, dôs trwy ganol y ddinas, trwy ganol Ierusalem, a noda nôd ar dalcennau y dynnion y rhai ydynt yn vcheneidio, ac yn gweiddi am y ffieidd-dra oll, yr hwn a wneir oi mewn hi.
5Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, ewch trwy’r ddinas ar ei ôl ef, a tharewch, nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch.
6Lleddwch yn farw yr hen-ŵr, y gŵr ieuangc a’r forwyn, y plant hefyd a’r gwragedd: ond na ddeuwch yn agos at vn gŵr yr hwn y byddo y nôd arno, ac ar * fyng-hyssegr y dechreuwch: felly y dechreuasant ar y gwŷr hên y rhai oeddynt ger bron y tŷ.
7Dywedodd wrthynt hefyd, halogwch y tŷ, a llennwch y cynteddoedd o rai archolledic, ewch allan: felly hwy a aethant allant, ac a darawsant trwy’r ddinas.
8A phan darawyd hwynt, a’m gadu inne, yna mi a syrthiais ar fy wyneb, gwaeddais hefyd Esa 1.15.a dywedais, ô Arglwydd Dduw, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lîd ar Ierusalem?
9Ac efe a ddywedodd wrthif, anwiredd tŷ Israel, a thŷ Iuda sydd fawr ddieth: canys llawnwyd y tir o waed, a llawnwyd y ddinas o ŵyrni: o herwydd dywedasant, gwrthododd yr Arglwydd y tir, ac nid yw’r Arglwydd yn gweled.
10Ac am danafi nad erbyd fy llygad, ac na thosturiaf rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau.
11Ac wele y gŵr wedi ei wisco â lliain yr hwn yr y corn dû wrth ei glun, yn dwyn gair trachefn gan ddywedyd: gwneuthum fel y gorchymynnaist i mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
