1A Salomon a Pen.7.8.ymgyfathrachodd a Pharao brenin yr Aipht, ac a briododd ferch Pharao, ac ai dûg hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adailadu ei dŷ ei hun, a thŷ yr Arglwydd, a mûr Ierusalem oddi amgylch.
2Etto y bobl oeddynt yn aberthu mewn vchelfaoedd, o herwydd nad adaladasyd tŷ i enŵ’r Arglwydd hyd y dyddiau hynny.
3A Salomon a garodd yr Arglwydd, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: etto mewn vchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu, ac yn arogldarthu.
4A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno, canys honno oedd vchelfa fawr, mîl o boeth offrymmau a offrymmodd Salomon ar yr allor honno.
5Yn Gibeon yr ymddangosodd yr Arglwydd i Salomon mewn breuddwyd nos, ac y dywedodd Duw, gofyn beth a roddaf it i.
6Yna y dywedodd Salomon, ti a wnaethost a’th was Dafydd fy nhâd fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn iniondeb calon gyd a thi: îe cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orsedd-faingc ef, fel heddyw.
7Ac yn awr fy Arglwydd Dduw, ti a wnaethost i’th wâs deyrnasu yn lle Dafydd fy nhâd: a minne yn llangc ieuangc heb fedru llywodraethu.
8A’th wâs ym mysc dy bobl di y rhai a ddewisaist ti, pobl aml y rhai ni rifir, ac nis cifrifir o luosogrwydd.
9Am hynny 2.Cron.1.10.dyro i’th wâs galon ddeallus i farnu dy bobl, gan ddeall rhwng dâ a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn?
10A’r peth fu ddâ yng-olwg yr Arglwydd, am ofyn o Salomon y peth hyn.
11A Duw a ddywedodd wrtho ef, o herwydd gofyn o honot y peth hyn, ac na ofynnaist it ddyddiau lawer, ac na ofynnaist it olud, ac na cheisiaist waed dy elynion, eithr ceisiaist it ddeall i fedru gwrando barn:
12Wele gwneuthum yn ôll dy eiriau, wele rhoddais it galon ddoeth a deallus fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl di.
13A Doeth.7.11. Math.6.33.rhoddais it hefyd yr hyn nis gofynnaist sef golud, a gogoniant hefyd, fel na byddo vn o’th fath ym mysc y brenhinoedd dy holl ddyddiau di.
14Ac os rhodi yn fy ffyrdd i gan gadw fy neddfau a’m gorchymynnion, Pen.15.5.megis y rhodiodd Dafydd dy dâd, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.
15Yna y deffrôdd Salomon, ac wele breuddwyd ac efe a ddaeth i Ierusalem ac a safodd o flaen Arch cyfammod yr Arglwydd, ac a offrymmodd offrymmau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd iw holl weision.
16Yna dwy wragedd o butteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.
17A’r naill wraig a ddywedodd arnaf fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr vn tŷ, ac mi a escorais yn tŷ gyd a hi.
18Ac ar y trydydd dydd wedi escor o honofi, yr escorodd y wraig hon hefyd, ac yr ni yng-hyd, heb arall yn tŷ gyd a ni, ond nyni ein dwy oedd yn tŷ.
19A mab y wraig hon a fu farw liw nos: o herwydd hi a orweddodd arno ef.
20A hi a gododd yng-hanol y nôs, ac a gymmerodd fy mab i o’m hymyl tra yr ydoedd dy law-forwyn yn cyscu, ac ai gosododd ef yn ei monwes hi, ai mab marw hi a osododd hi yn fy monwes inne.
21Pan godais i yn foreu i beri i’m mab sugno, yna wele marw oedd efe: yna edrychais arno yn foreu, ac wele nid fy mab maufi yr hwn a escoraswn i ydoedd efe.
22A’r wraig arall a ddywedodd nid eithr fy mab i fyw, a’th fab dithe yn farw: a hon a ddywedodd nage, eithr dy fab di sydd farw, a’m mab i yn fyw: fel hyn y llefarasant o flaen y brenin.
23Yna y dywedodd y brenin, hon sydd yn dywedyd dymma fy mab i yn fyw, a’th fab dithe sydd farw, a hon accw sydd yn dywedyd nage, eithr dy fab di farw, a’m mab inne yn fyw.
24Yna y dywedodd y brenin dygwch i mi gleddyf, ac hwy a ddugasant gleddyf o flaen y brenin.
25A’r brenin a ddywedodd rhennwch y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall.
26Yna y dywedodd y wraig yr hon ei mab yn fyw wrth y brenin (canys ei hemyscaroedd a dwymnasent wrth ei mab,) ac a lefarodd, arna fi fy arglwydd: rhoddwch iddi hi y bachgen byw, a chan ladd na leddwch ef, a’r llall a ddywedodd na fydded eiddo fi, na thithe, rhennwch
27Yna yr attebodd y brenin, ac y dywedodd, rhoddwch y bachgen byw iddi hi, a chau ladd na leddwch ef, dyna ei fam ef.
28A holl Israel a glywsant y farn yr hon a farnase’r brenin, ac a ofnasant rhac y brenin, am weled o honynt mai doethineb Duw oi fewn ef i wneuthur cyfiawnder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.