2.Esdras neu Nehemias 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Y modd yr ymrannodd yr Iddewon i aros mewn amryw drefydd yn Iuda.

1A thywysogion y bobl a drigasant yn Ierusalem: a’r rhann arall o’r bobl a fwriasant goel-brennau i ddwy vn o’r dêc i drigo yn Ierusalem y ddinas sanctaidd, a naw rhann yn y dinasoedd.

2A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr y rhai a ymroddasent yn ewyllyscar i bresswylio yn Ierusalem.

3Ac dymma bennaethiaid y dalaith y rhai a drigasant yn Ierusalem: ac yn o ddinasoedd Iuda, pawb a drigasant yn eu meddiant eu hun o fewn eu dinasoedd, Israeliaid, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, y Nethiniaid hefyd, a 1.Bren.9.21.meibion gweision Salmon.

4A o feibion Iuda, ac o feibion Beniamin a drigasant yn Ierusalem: o feibion Iuda, Athaiah mab Uzzia, fab Zecariah, fab Amaria, fab Sephatia, fab Mahaleel o feibion Pharez.

5Maaseiah hefyd mab Baruc, fab Colhozeh, fab Hazaiah, fab Adaiah, fab Ioiarib, fab Zechariah, fab Siloni.

6Holl feibion Pherez y rhai oeddynt yn trigo yn Ierusalem bedwar cant, ac ŵyth a thri vgain o wŷr nerthol.

7Ac dymma feibion Beniamin, Salumab Mesulam, fab Ioed, fab Pedaia, fab Colaiah, fab Maeseiah, fab Ithiel, fab Esay.

8Ac ar ei ôl ef Gabbai, Salai: naw cant, ac ŵyth ar hugain.

9Ac Ioel mab Zichri swyddog arnynt hwy: ac Iuda mab Senua yn ail ar y ddinas.

10O’r offeiriaid Iedaiah mab Ioiarib, Iacin.

11Seraiah mab Helciah, fab Mesulam, fab Zadoc, fab meraioth, fab Ahitub blaenor tŷ Dduw.

12Ai brodyr y rhai oeddynt yn gweithio y gwaith yn y tŷ ŵyth gant, a dau ar hugain: ac Adaiah mab Ieroham fab Pelaliah, fab Amsi, fab Zechariah, fab Pashur, fab Malciah.

13Ai brodyr hwynt pennaethiaid tadau, dau cant, a dau a deugain: ac Amassai mab Azareel, fab Ahazai, fab Mesilemoth, fab Immer.

14Ai brodyr hwynt yn gedyrn o nerth gant, ac ŵyth ar hugain: a Zabdiel mab Gedolim yn swyddog arnynt.

15Ac o’r Lefiaid: Semaiah mab Hasub, fab Azricam, fab Hasabiah, fab Buni.

16Sabbethai hefyd, ac Iozabad o bennaethiaid y Lefiaid ar y gwaith o’r tu allan i dŷ Dduw.

17Mattaniah hefyd mab Micha, fab Zabdi, fab Asaph bennadur yr hwn yn gyntaf a folianne drwy weddi, a Bacbuciah yn ail oi frodyr: ac Abda mab Samua, fab Galal, fab Ieduthun.

18Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd ddau cant, a phedwar, a phedwar vgain.

19A’r porthorion, Accub, Talmon ai brodyr y rhai oeddynt yn cadw y pyrth, gant, deuddec a thrugain.

20A’r rhann arall o Israel, o’r offeiriaid, o’r Lefiaid yn holl ddinasoedd Iuda, pob vn yn ei etifeddiaeth.

21A’r Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr, ac Ziha, Gispah ar y Nethiniaid.

22A swyddog y Lefiaid yn Ierusalē Uzzi mab Bani, fab Hasabia fab Matraniah fab Micha: o feibion Asaph y cantorion ar gyfer gwaith tŷ Dduw.

23Canys gorchymyn y brenin am danynt hwy safadwy i’r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd.

24A Phethahiah mab Mesezabel o feibion Zerah fab Iuda wrth law’r brenin ym mhob peth i’r bobl.

25Ac yn y trefydd, yn eu meusydd: o feibion Iuda a drigasant yng-baer Arba ai phentrefydd, ac yn Dibon, ai phentrefydd, ac yn Iecabzel ai threfydd.

26Ac yn Iesua, ac ym Molada, ac yn Bethpalet.

27Ac yn Hazar Sual, ac yn Berseeba ai phentrefydd.

28Ac yn Ziclag, ac ym Pecona, ac yn ei phentrefydd.

29Ac yn Enrimmon, ac yn Zorah, ac yn Iarmuth.

30Zanoah, Adulam ai trefydd, Lachis ai meusydd, Azecah ai phentrefydd: a hwynt a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Pinnon.

31A meibion Beniamin o Geba, Micmas, ac Aia, a Beth-el ai phentrefydd.

32Anathoth, Nob, Anania.

33Hazor, Ramah, Gittaim.

34Hadid, Zeboim, Nebalat.

35Lod, ac Ono yng-lynn y seiri.

36Ac o feibion y Lefiaid rhannau Iuda, yn Beniamin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help