1Yna’r edrychais, ac wele ar y
14A phedwar wyneb i bôb vn, wyneb y cyntaf yn wyneb Cerub, ac wyneb yr ail yn wyneb dyn, a’r trydydd yn wyneb llew, a’r pedwerydd yn wyneb eryr.
15Yna y Cerubiaid a dderchafasant, dymma Ezec.1.5.’r anifail yr hwn a welais wrth afon Chebar.
16A phan gerdde y Cerubiaid, y cerdde’r olwynion wrthynt, a phan gode y Cerubiaid eu hadenydd i ymdderchafu oddi ar y ddaiar, yr olwynion hwythau ni throent ychwaith oddi wrthynt,
17Safent, pan safent hwytheu, a chodent gyd â hwy pan godent hwytheu, canys yspryd yr anifail ynddynt.
18Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan oddi ar rinniog y tŷ, ac a safodd ar y Cerubiaid.
19A’r Cerubiaid a godasant eu hadenydd, ac a dderchafasant oddi ar y ddaiar o flaen fy llygaid: a’r olwynion ar eu cyfer pan ddaethant allan: a safodd ddrŵs porth y dwyrain i dŷ’r Arglwydd: a gogoniant Duw Israel arnynt oddi arnodd.
20Dymma’r anifail yr hwn a welais tann Dduw’r Israel wrth afon Chebar: a gwybûm mai y Cerubiaid hynny efe.
21Pedwar wyneb oedd i bôb vn, a phedair aden vn, a chyffelybrwydd dwylo dŷn dann eu hadenydd.
22Cyffelybrwydd eu hwynebau hwynt yr wynebau hynny, y rhai a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt, a hwythau: cerddent bôb vn ar gyfer ei wyneb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
