Iob 25 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXV.Bildad yn dangos na ddichon Iob, na neb arall ymgystadlu a mawredd, ac a phuredd Duw.

1Yna Bildad y Suhiad a attebodd, ac a ddywedodd.

2Arglwyddiaeth, ac ofn ganddo ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei vchelder.

3A oes gyfrif oi dorfoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?

4Pa fodd y cyfiawnheuir dyn a Duw? a pha fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn bûr?

5Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyrcha hi: a’r sêr nid ydynt bûr yn ei olwg ef:

6Pa faint llai dŷn bryf: a mab dŷn abwydyn?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help