Esay 61 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LXI.Donniau, a swydd Crist. 5 Rhagor-fraint yr eglwys. 10 Crist yn hyfryd ganddo ei eglwys.

1 Luc.4.18. Yspryd yr Arglwydd Dduw arnaf, o herwydd yr Arglwydd a’m eneiniodd i efangylu trueniaid, efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai yssig calon, i bregethu rhydd-did i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai a rwymwyd,

2I bregethu blwyddyn bodlonrwydd yr Arglwydd, a dydd dial ein Duw ni, gan gyssuro pob galarus,

3I osod i alarwŷr Sion, i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisc moliant yn lle yspryd cystuddiedic, a hwynt a elwir Mat.3.8.yn brennau cyfiawnder, yn blanhigin yr Arglwydd i ymogoneddu.

4Adailadant hefyd hên ddiffaethwch, cyfodant anghyfanneddfa y rhai gynt, ac adnewyddant ddinasoedd diffaethwch, a’r anghyfannedd drwy lawer oes.

5Yna y dieithriaid a safant, ac a borthant eich praidd, a meibion dieithr eich ardd-wŷr a’ch gwin-llanwŷr.

6Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r Arglwydd, gwenidogion ein Duw ni meddir wrthych, golud y cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy’r ymdderchefwch.

7Yn lle eich cywilydd dau ddyblyg, a’r gwradwydd a ganent yn eu tîr hwynt y meddiannant yn ddwbl, llawenydd tragywyddol fydd iddynt.

8Canys myfi’r Arglwydd a hoffaf gyfiawnder, gan gassau trais mewn poeth offrwm, ac a roddaf eu gwaith mewn gwirionedd, ac a wnaf â hwynt gyfammod tragywyddol.

9Eu hâd hwynt hefyd a adweinir ym mysc y cenhedloedd, ai hiliogaeth hwynt yng-hanol y bobl: y rhai ai gwelant ai hadwaenant, mai hwynt hwy’r hâd a fendithiodd yr Arglwydd.

10Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd, a’m henaid a orfoledda yn fy Nuw, canys gwnaeth i mi wisco gwiscoedd iechydwriaeth, gwiscodd fi â mantell cyfiawnder: megis y priod-fab cyssegrodd â gogoniant, ac fel yr ymdrwssia priod-ferch ai thlyssau.

11Megis y gwna’r ddaiar iw gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd iw hadau egîno, felly y gwna’r Arglwydd Iôr i gyfiawnder, a moliant darddu ger bron yr holl genhedloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help