Luc 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Crist yn dyscu i ni weddio trwy siampl y weddw orthrymmedig, 13 a’r Publican gostyngedig, 13 yn dderbyn plant atto, 18 yn atteb y llywydd yr hwn a fynne gael nef ond ni fynne ymmadel ai olud 28 yn atteb Petr, 31 yn rhybuddio y deuddec am ei ddioddefaint, 35 ac yn roi ei olwg i vn dall.

1Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, y bydde yn rhaid gweddio bob amser heb ddeffygio,

2Gan ddywedyd, yr oedd rhyw farn-ŵr yn rhyw ddinas, yr hwn nid ofne Dduw, ac ni pharche ddŷn.

3Yr oedd hefyd yn y ddinas honno ryw wraig weddw, yr hon a ddaeth atto ef gan ddywedyd: dial fi ar fyng-wrthwynebwr.

4Ac efe ni’s gwnai dros amser eithr wedi hynny y dywedodd wrtho ei hun: er nad ofnaf Dduw, ac er na pharchaf ddŷn:

5Er hynny, am fôd y weddw hon yn fy mlino i, dialaf hi rhag iddi yn y diwedd ddyfod, a’m blino i.

6A’r Arglwydd a ddywedodd, gwrandewch beth a ddywed y barn-ŵr anghyfiawn.

7Ac oni ddial Duw ei etholedigion sydd yn llefain arno ddydd a nôs, er iddo ymaros yn eu hachos hwynt?

8Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frŷs: ond pan ddêl Mâb y dŷn, a gaiff efe ffydd ar y ddaiar?

9Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon, wrth y rhai oeddynt yn coelio eu bôd eu hunain yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill.

10Dau ŵr a aethant i fynu i’r Deml i weddio: vn yn Pharisæad, a’r llall yn Bublican.

11Y Pharisæad o’i sefyll a weddiodd ynddo ei hun fel hyn: ô Dduw yr wyf yn diolch i ti nad ydwyf fel dynion eraill drawsion, anghyfiawn, odineb-wŷr: neu fel y Publican hwn.

12Yr ydwyf yn ymprydio ddwy-waith yn yr wythnos, yr ydwyf yn degymmu cymmaint oll a feddaf.

13A’r Publican gan sefyll o hirbell, ni chode ei olwg tu a’r nef, eithr curodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, ô Dduw, bydd drugarog wrthif bechadur.

14Aeth meddaf i chwi, hwn iw dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy nâ’r llall, canys pwy bynnac a’i dderchafo ei hun a ostyngir, a’r nêb a’i gostyngo ei hun, a dderchefir.

15A hwy A’r Math.20.17. Marc.10.32.Iesu a gymmerth atto y deuddec, ac a ddywedodd wrthynt: wele, ni yn myned i Ierusalem, a chyflawnir pob peth ar sydd yn scrifennedic trwy yr prophwydi am fâb y dŷn.

32Canys efe a roddir i’r cenhedloedd, ac a watworir, ac a ddirmygir, ac a boerir arno.

33Ac wedi iddynt ei fflangellu y lladdant ef, eithr efe a gyfid y trydydd dydd.

34Ac ni ddehallasant hwy ddim o’r pethau hyn, a’r gair hwn oedd guddiedig iddynt, ac ni wybuant y pethau a ddywetpwyd.

35 Math.20.29. Mar.10.46. Ac fe a ddigwyddodd, ac efe yn nesau at Iericho, i ryw ddyn dall eistedd ger llaw yr ffordd, yn cardotta.

36A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd, pa beth oedd hyn.

37A hwy a ddywedasant iddo mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio.

38Yna y llefodd efe gan ddywedyd, Iesu fâb Dafydd, trugarhâ wrthif.

39A’r rhai oeddynt yn myned o’r blaen a’i stwrdiasant ef i dewi, yntef a lefodd fwy-fwy mâb Dafydd trugarhâ wrthif.

40Ar Iesu a safodd, ac a orchymynnodd ei ddwyn ef atto, a phan ddaeth yn agos, efe a ofynnodd iddo,

41Gan ddywedyd, pa beth a fynni i mi ei wneuthyd i ti? yntef a ddywedodd, Arglwydd cael fyng-olwg.

42A’r Iesu a ddywedodd wrtho, cymmer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd.

43Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. a’r holl bobl pan welsant a roesant foliant i Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help