Genesis 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Abraham yn gwladychu yng-wlad Gerar. 2 Abimelec yn dwyn ei wraig ef. 3 Duw yn bygwth Abimelec. 9 Abimelec yn beio ar Abraham. 11 Atteb Abraham. 14 Rhoddiad gwraig Abraham adref. 17 Duw yn iachau ty Abimelec trwy weddi Abraham.

1Ac Abraham a gychwynnodd oddi yno i dîr y dehau, ac a gyfanneddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.

2A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, fy chwaer yw hi: ac Abimelec brenhin Gerar a anfonodd, ac a ddug Sara.

3Yna y daeth Duw at Abimelec noswaith mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho: wele di yn farw am y wraig yr hon a gymmeraist, a hi yn berchen gŵr.

4Ond Abimelec ni nessase atti hi, ac efe a ddywedodd fy Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?

5Oni ddywedodd efe wrthif fi, fy chwaer yw hi? a hithe hefyd ei hun a ddywedodd fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fyng-halon, ac yng-lendid fy nwylo y gwneuthum hyn.

6Yna y dywedodd Duw wrtho ef mewn breuddwyd, minne a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn, a mi a’th attaliais rhac pechu i’m herbyn: am hynny ni’th adewais i gyffwrdd a hi.

7Yn awr gan hynny dot ti y wraig trachefn i’r gŵr, o herwydd prophwyd yw efe, a phan weddio efe trosot, byddi fyw: ond oni roddi hi trachefn, gwybydd mai gan farw y byddi farw, ti a’r rhai oll ydynt eiddoti.

8Yna y cododd Abimelec yn foreu, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl betheu hyn wrthynt hwy, a’r gwyr a ofnasant yn ddirfawr.

9Galwodd Abimelec hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, beth a wnaethost i mi? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygyt bechod fawr arnafi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost a mi weithredoedd y rhai ni ddylesyd eu gwneuthur.

10Abimelec hefyd a ddywedodd wrth Abraham, beth a welaist, pan wnaethost y peth hynn?

11A dywedodd Abraham am ddywedyd o honofi yn ddiau nid ofn Duw yn y lle hwn: a hwynt a’m lladdant i o achos fyng-wraig.

12A hefyd yn wîr fy chwaer hi, merch fy nhâd, ond nid merch fy mam: ac y mae hi yn wraig i mi.

13Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy-nhad, yna y dywedais wrthi hi, dymma dy garedigrwydd yr hwn a wnei a mi ym-mhôb lle yr hwn y delom iddo; Genes.12.13.dywet am danaf fi, fy mrawd yw efe.

14Yna y cymmerodd Abimelec ddefaid, a gwarthec, a gweision, a morwynion, ac ai rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig trachefn.

15A dywedodd Abimelec, wele fyng-wlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.

16Ac wrth Sara y dywedodd, wele rhoddais i’th frawd fîl o arian: wele efe yn orchudd llygaid it, yn erbyn y rhai oll gyd a thi, a phawb ac felly hi a geryddwyd.

17Yna Abraham a weddiodd a’r Dduw, a Duw a iachaodd Abimelec, ai wraig, ai forwynion; felly y plantent.

18O herwydd yr Arglwydd gan gaeu, a gaease ar bob croth yn nhŷ Abimelec o achos Sara gwraig Abraham.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help