Ieremi 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Iuda heb vn cyfiawn oi mewn, y Caldeaid yn ei dinistrio hithe am hynny.

1Chwiliwch ar hyd heolydd Ierusalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch ŵybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, od oes a wnêl barn, a gais wirionedd, ac myfi ai harbedaf hi.

2Er dywedyd o honynt, byw yw’r Arglwydd, etto yn gelwyddog y tyngant.

3O Arglwydd onid tua’r gwirionedd dy lygaid ti? ti Esa.9.13.ai maeddaist hwynt, ac nid ymofidiâsant: difeaist hwynt, gwrthodâsant dderbyn cospedigaeth, hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na’r garreg, ac a wrthodâsant droi.

4Ac mi a ddywedais, yn siccr tlodion ydynt, ac ynfydion, o herwydd nad adwaenent ffordd yr Arglwydd, barn eu Duw.

5Mi a âf rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt, canys hwy a ŵybuont ffordd yr Arglwydd, barn eu Duw, eithr y rhai hyn a gyd-dorrasant yr iau, a ddrylliasant y rhwymau.

6O blegit hyn, llew o’r coed ai teru hwy, blaidd o’r anialwch ai destruwia hwy, llewpard a wilia ar eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan o honynt a rwygir, canys eu camweddau a amlhausant, eu gwrthdrofeudd hwynt a chwanegâsant.

7Pa fodd i’th arbedwn am hyn? dy blant ti a’m gadawsant i, ac a dyngâsant i’r nid dduwiau: a phan ddiwellais hwynt y gwnaethāt odineb, ac a heidiasant i dŷ’r buttain.

8Oeddynt meirch porthiannus yn boreu-godi, Ezec.22.11.gwerŷrent bob vn ar wraig ei gymmydog.

9Onid ymwelaf am y pethau hyn medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genhedlaeth a hon?

10Dringwch ar ei muroedd hi, llygrwch hefyd, ac na lwyr ddinistrwch tynn i ffordd ei chanllawiau, canys nid eiddo’r Arglwydd hwynt.

11O blegit tŷ Israel, a thŷ Iuda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr Arglwydd.

12 Esa.28.15. Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd, a dywedâsant, ni hyn, ac ni ddaw drygfyd arnom: ac ni welwn gleddyf, na newyn.

13A’r prophwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.

14Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, am i chwi ddywedyd y peth hyn, wele fi yn rhoddi fyng-air yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnyd, ac efe ai difâ hwynt.

15Wele fi yn dwyn arnoch chwi tŷ Israel genhedlaeth o bell medd yr Arglwydd, cenhedlaeth nerthol ydyw, cenhedlaeth er ioed, cenhedlaeth ni ŵyddost eu hiaith, ac ni ddealli beth a ddywedant.

16Ei chawell saethau hi fel bedd agored, cedyrn oll.

17Hi a fwyttu dy gynhaiaf di, a’th fara, dy feibion di a’th ferched a fwyttu dy ddefaid di a’th ŷchen, hi a fwyttu dy winwŷdden a’th ffigus-bren, dy ddinasoedd cedyrn y rhai yr wyt yn ymddyried ynddynt a dlôda hi trwy’r cleddyf.

18Ac er hyn yn y dyddiau hynny medd yr Arglwydd, ni wnafi gwbl benn â chwi.

19 Ier.16.10. Yna byddet pan ddywedoch chwi, pa ham y gwnaeth yr Arglwydd ein Duw ni hyn oll i ni? ddywedyd o honot tithe wrthynt, megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tîr eich hun: felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tîr ni eiddo chwi.

20Mynêgwch hyn yn nhŷ Iacob: a chyhoeddwch hyn yn Iuda gan ddywedyd:

21Gwrando hyn ti bobl ynfyd, a digalon, Esa. 6.9.|ISA 6:9. Mat.13.14.|MAT 13:14. Act.28.27.|ACT 28:27. Rom.11.8.|ROM 11:8. Iob.26.10.llygaid iddynt, ac ni welant: clustiau iddynt, ac ni chlywant.

22Onid ofnwch chwi fi medd yr Arglwydd? onid ymofidiwch rhagofi? yr hwn a osodais y tyfod yn derfyn i’r môr, ddeddf dragywyddawl, fel nad elo tros hynny, er i’r tonnau ymgyrchu, etto ni orchfygant, er iddynt derfyscu, etto ni ddeuant tros hwnnw.

23Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig, ac anufuddgar: hwynt hwy a giliasant, ac a aethant

24Ac ni ddywedant hwy yn eu calon, ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi glaw boreu, a hŵyr yn ei amser: a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaiaf.

25 Esa.59.1. Eich anwiredd chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a attaliasant ddaioni oddi wrthych.

26Canys ym mysc fy mhobl y ceir anwiriaid, edrychant megis yn gosod maglau: gosodant ddinistr, dynnion a ddaliant.

27Fel rhwyd yn llawn o adar, felly eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynnyddâsant, ac yr ymgyfoethogâsant.

28Tewychâsant, discleiriâsant, aethant hefyd tros eiriau drygionus, Esa.1.23. Zac.7.9.ni farnâsant farn, farn yr amddifad: ffynnâsant, ac ni farnâsant farn y tlodion.

29Onid ymwelaf am y pethau hyn medd yr Arglwydd? oni ddial fy enaid ar gyfryw genhedlaeth â hon?

30Aruthredd a bryntni a wnaed yn y tîr.

31Y prophwydi a brophwydâsant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a dderbynnâsant ai dwylo, a’m pobl a hoffâsant hynny: etto beth a wnewch yn ôl hynny?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help