Doethineb 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.1 Y gwrthiau a wnaed er Israel. 13 Dialedd Duw ar bechaduriaid. 28 Mawr allu a thrugaredd Dduw.

1HI a gyfarwyddodd eu gweithredoedd hwynt yn llaw y prophwyd sanctaidd.

2Hwy a Exod.16.1.ymdeithiasant trwy y diffae­thweb anghyfāneddol, ac a osodasant eu pebyll mewn lleoedd anhyffordd.

3Hwy Exod.17.10,11.a safasant yn erbyn y rhai a ryfelent iw herbyn hwynt, ac a ddialasant ar eu gelynion.

4Daeth Num.10.18.syched arnynt hwy, ac hwy a alwasant arnat ti, ac fe a roddwyd iddynt hwy ddwfr o’r graig ddibin, a meddiginiaeth rhag syched o’r maen caled.

5Canys trwy y pethau y cystuddiwyd eu gelynion hwynt,

6Trwy ’r vn pethau y cawsant hwy fudd, pan oedd eisieu arnynt.

7Yn lle y ffynnon o afon redegog wedi ei chythryblu â gwaed gwaedlyd yn gerydd i’r gorchymyn am ladd y plant,

8Y rhoddaist di iddynt hwy amlder o ddwfr heb ei obeitho.

9Gan ddangos trwy y sy ched a oedd yr amser hwnnw, pa fodd y cystuddiesit ti y gwrth­wyneb-wŷr.

10O blegit pan demptiwyd hwynt (er eu dyscu hwynt yn drugarog) hwy a ŵybuont pa fodd y dialeddwyd, y rhai annuwiol a farnwyd mewn digofaint.

11Y rhai hyn a brofaist ti fel tâd gan eu rhybuddio, a’r lleill a holaist ti fel brenin tost gan eu barnu yn euog.

12Y rhai yn absennol, ac yn bresennol a gystuddiwyd yr vn modd.

13O blegit tristwch a gofid dau ddyblyg a ddaeth arnynt hwy wrth gofio y pethau a aethent heibio.

14Canys pan glywsant hwy wrth eu cystudd ei hun gael o honynt hwy sudd, hwy a feddyliasant am yr Arglwydd.

15O blegit yr hwn a wadasent hwy yn watwarus gynt wedi ei fwrw allan ai daflu ymmaith, a fu ryfedd ganddynt hwy yn niwedd damwain, gan fod arnynt fyched amgen na’r rhai cyfiawn.

16Am eu annehallgar fyddyliau anghyfi­awn hwynt trwy y rhai yn amryfus y gwasanaethasant ymlusciaid anrhesymmol a bwyst­filod gwael, yr anfonaist lawer o amfeiliaid heb reswm i ddial arnynt hwy:

17Fel y gallent hwy ŵybod mai trwy y pethau y pecha neb y chstuddir ef.

18O blegit ni rwystrwyd dy law yr hon sydd holl alluog ac a wnaeth y byd Gene.1.1.o afluniaidd ddefnydd fel na allase Lefit.26.22. Ier.8.16,17. Pen.16.1.anfon arnynt hwy lawer o eirth, a llewod hŷf.

19Neu anifeiliaid dieithr llawn o ddig diattrec: neu yn anadlu anadl tanllyd, neu yn gyrru allan dwrwf mŵg yr hwn a drŷ y gwynt: neu wreichion aruthrol oi llygaid fel mellt.

20Y rhai ni alle eu niwed hwynt yn vnic eu dinistrio hwy, eithr eu golwg hwynt hefyd eu difetha hwynt trwy yrru dychryn.

21Heb law hyn hefyd trwy vn awel y gallent hwy syrthio, wrth gael eu hymlid gan ddialedd, ai gwascaru trwy yspryt dy nerth di: eithr tydi a drefnaist bob peth wrth fesur, rhif, a phwys.

22Bob amser yr ydwyt ti yn gallu llawer, a phwy a wrthwyneba nerth dy fraich di:

23O blegit megis tippin allan o gloriānau yw ’r holl fŷd, ac megis defnyn o wlith y boreu yr hwn a ddescyn ar y ddaiar.

24Ond yr ydwyt ti yn trugarhau wrth bob peth, oblegit ti a elli bob dim, ac yr ydwyt heb gymmeryd arnat weled pechodau dynion fel yr edifarhaent hwy.

25Y mae yn hoff gennit ti bob peth a’r y sydd, ac nid ffiaid gennit ddim a’r a wnaethost îe ni wnaethost ti ddim a’r a oedd gâs gennit ti.

26Yr ydwyt ti yn arbed pob peth: o blegit yr eiddot ti ydynt hwy o Arglwydd yr hwn sydd yn caru eneidiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help